Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adroddwyr StraeonSampl

Storytellers

DYDD 1 O 15

lESU'N GALW'R DISGYBLION

Wyt ti erioed wedi meddwl pam y penderfynodd y disgyblion adael popeth ar ôl: swydd, teulu, busnes, a bywyd fel yr oedden nhw’n ei adnabod - i ddilyn Iesu? Doedd ganddyn nhw'r mo’r Efengylau i ddweud diwedd y stori wrthyn nhw; nhw oedd y rhai a fyddai'n dyst i'r penodau olaf hynny! Felly pan estynnodd Iesu'r alwad i "ddilyn fi," pam aethon nhw? Y pysgotwyr caled hyn, perchnogion busnesau bach gyda theuluoedd - sut allen nhw ollwng popeth dim ond i ddilyn Iesu? Mewn gwirionedd, wnaethon nhw ddim - dim ar unwaith. Dechreuodd eu straeon am ddod i adnabod Iesu mewn gwirionedd yn llawer cynharach.

  • Dechreuodd gydag Andreas. Un diwrnod, yn ystod cyfnod o adfywiad ymhlith y bobl Iddewig, wnaeth Iesu ymddangos, a chafodd ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr. Galwodd athro a phroffwyd adnabyddus, Ioan Fedyddiwr, Iesu yn ‘Oen Duw,’ sy’n golygu’r un a fyddai’n tynnu pechodau’r byd i ffwrdd. Roiedd Andreas, dilynwr Ioan Fedyddiwr a darpar ddisgybl i Iesu, am wybod mwy.. Ai Iesu oedd yr Achubwr mewn go iawn? (Ioan 1:35-37)
  • Dwedodd Andreas hyn wrth ei frawd. Ar ôl siarad ag Iesu, cyflwynodd Andreas ef i’w frawd, Simon. Ailenwodd Iesu Simon, Ceffas, neu Pedr, a oedd yn golygu ‘y graig.’ Yn sydyn, cafodd Iesu sylw llawn Pedr. (Ioan 1:40)
  • Roedden nhw'n dystion i wyrthiau. Dechreuodd gweinidogaeth Iesu yn nhref fach Capernaum, yr un dref lle’r oedd Andreas a Simon Pedr yn byw ac yn dystion uniongyrchol i wyrthiau Iesu. (Luc 4:31-41)
  • Wnaeth Iesu gyfarfod ag anghenion personol a phroffesiynol. Iachaodd Iesu fam-yng-nghyfraith Simon Pedr ac yn ddiweddarach perfformiodd wyrth pysgota – maes arbenigedd proffesiynol Andreas a Simon Pedr. (Luc 4:38-39, Luc 5:4-7)

Ac

yna digwyddodd – yr alwad i ddilyn Iesu. Agorwyd llygaid Simon Pedr o'r diwedd, gan gydnabod ei bechod. Yn yr eiliad honno o argyhoeddiad, o sylweddoli sancteiddrwydd, mawredd, ac aruthredd Iesu, roedd Pedr yn barod i ollwng popeth i ddilyn Iesu.

Wyt ti'n barod am alwad Iesu yn dy fywyd? Efallai dy fod ti newydd ddechrau dod i adnabod Iesu. Efallai dy fod ti wedi bod yn chwilio ers tro bellach. Ond dydy dod yn Gristion ddim yn ymwneud â gwybod PWY yw Iesu yn unig – Mae'n ymwneud ag ymateb i'w alwad "Dilyn Fi." Y cwestiwn yw: Sut fyddi di'n ymateb?

Ysgrythur

Am y Cynllun hwn

Storytellers

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!

More

Hoffem ddiolch i Right From the Heart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.rightfromtheheart.org