Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adroddwyr StraeonSampl

Storytellers

DYDD 7 O 15

IESU I'R CREFYDDOL

Roedd yr Apostol Paul yn gyfathrebwr a chenhadwr anhygoel. O ran rhannu Efengyl Iesu Grist, gwelodd lawer yn dod i ffydd. I Gristnogion heddiw, gallwn ni ddysgu llawer o enghraifft Paul o sut i gyfleu'r Efengyl i bobl o gefndiroedd, profiadau a hyd yn oed crefyddau gwahanol iawn.

Roedd Paul yn Iddew. Nid dim ond "Iddew diwylliannol," yn dathlu'r gwyliau ac yn glynu wrth draddodiadau poblogaidd, ond yn gredwr selog mewn Iddewiaeth cyn ei gyfarfyddiad radical â Christ. Wrth siarad â chyd-Iddewon, gallet ti fod yn sicr bod Paul yn eu deall yn eithaf da. Felly wrth rannu Crist gyda ffrindiau Iddewig, byddai Paul yn sensitif i'w pryderon a'u cyfarfod lle'r oedden nhw. Wrth wneud hynny, dangosodd Paul sut y gallwn ni hefyd rannu Crist gyda phobl grefyddol: fel Mwslim, Bwdhydd, Hindŵ, neu Formon. A sut yn union y gwnaeth Paul gysylltu â phobl yr oedd eu credoau mor wahanol i'w rai e? Dechreuodd e gyda pharch a gofal gwirioneddol am y llall.

Dychmyga dy fod ti’n trafod ffydd gyda ffrind Mwslimaidd. Oeddet ti'n gwybod bod y Coran mewn gwirionedd yn cofnodi bod Iesu yn broffwyd mawr a aned o forwyn? Nawr, yn amlwg mae gwahaniaeth radical: Yn Islam, dim ond dyn a phroffwyd mawr oedd Iesu, nid Duw. Fodd bynnag, trwy ofyn beth mae'r Coran yn ei ddweud am Iesu a thrwy barchu safbwynt Mwslim, efallai y byddet ti'n cael sgwrs ysbrydol ddyfnach. Gallet ti hyd yn oed ddechrau astudio beth mae'r Beibl yn ei ddweud am Iesu.

A dyma'r peth prydferth: Nid yw gwirionedd yn cael ei fygwth gan ddysgeidiaeth ffug. Paid â chael dy ddychryn i drafod ffydd gyda phobl o grefyddau eraill. Trystia yng Ngair Duw, trystia yn yr Efengyl, a thrystia yn Nuw i ddatgelu'r gwirionedd. Oherwydd parch, gofal go iawn, a derbyniad yw'r mannau cychwyn i rannu'r Efengyl. O ran Efengyl Iesu Grist, mae unrhyw beth yn bosib.

Am y Cynllun hwn

Storytellers

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!

More

Hoffem ddiolch i Right From the Heart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.rightfromtheheart.org