Adroddwyr StraeonSampl

PAN FYDD DUW YN DWEUD ARHOSA
Profodd yr Apostol Paul drawsnewidiad radical yn ei fywyd. Yn benderfynol o ddinistrio dilynwyr Iesu, roedd Paul - a oedd ar y pryd yn mynd wrth yr enw Saul - ar ei ffordd i Damascus, Syria pan dorrodd Iesu ar draws ei gynlluniau. Gan ymddangos mewn goleuni oedd yn dallu, gofynnodd Iesu pam roedd Paul yn ei erlid. Roedd yn gwestiwn rhyfedd gan fod Iesu yn y Nefoedd, ond roedd Iesu yn cyfeirio at erledigaeth ei ddilynwyr a'r eglwys. Am dri diwrnod, collodd Paul ei olwg ac ymgodymu â phopeth yr oedd erioed wedi'i adnabod a'i gredu nes i Dduw anfon Ananias a fyddai'n bedyddio Paul yn ddilynwr newydd i Iesu Grist.
Yn syth gwelwn ni Paul yn dechrau tystio yn Damascus am y newid anhygoel yn ei fywyd. Fel awdur llawer o'r Testament Newydd ac un o'r cenhadon enwocaf erioed, mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn tybio, ar ôl Damascus, i Paul ddod yn athro ac arweinydd eglwys enwog dŷn ni’n darllen amdano fe heddiw. Ond nid felly oedd hi. Mewn gwirionedd, ar ôl dod yn ddilynwr i Iesu, treuliodd Paul, ddim yn unig dair blynedd yn yr anialwch a'r gwylltineb, ond cyfanswm o 14 mlynedd o ddryswch, yn bennaf yn ei dref enedigol, Tarsus.
Beth yw arwyddocâd hyn i gyd? Wel, fel llawer o arweinwyr amlwg yn y Beibl, aeth Paul trwy gyfnod o aros, brwydro ac ansicrwydd. Meddyla am Moses, Elias, a hyd yn oed Iesu a dreuliodd amser yn yr anialwch ac yn aros cyn dechrau eu galwad.
Wyt ti'n mynd trwy gyfnod hir o aros? Efallai fod dy berthynas di neu lwybr gyrfa presennol yn ymddangos fel dy anialwch personol dy hun - tymor anodd, yn llawn ansicrwydd. Mae'n hawdd digalonni a theimlo fel rhoi'r gorau iddi. Paid bod ag ofn, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Ddaeth dim un o'r arweinwyr eglwysig dylanwadol dŷn ni'n darllen amdanyn nhw heddiw yn ddylanwadol dros nos. Treystia yn amseriad a chynllun Duw, hyd yn oed pan mae'n dweud 'arhosa'.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!
More