Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adroddwyr StraeonSampl

Storytellers

DYDD 9 O 15

ABC ADRODD STORÏAU

Mae gynnon ni i gyd stori i'w hadrodd. I ddilynwyr Iesu, ni allai ein straeon fod yn fwy pwerus! Pam? Oherwydd bod ein straeon yn dweud wrth eraill am Iesu. Yn rhy aml, dydyn ni ddim yn rhannu ein straeon am ddod ar draws Iesu oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod sut i wneud. Wel, dangosodd yr Apostol Paul ddull tri cam clir i rannu ein taith ffydd ag eraill:

  1. Bywyd CYN Crist: Tyfodd Paul i fyny yn yr hyn sydd heddiw yn cael ei adnabod fel de Twrci. Roedd o deulu Iddewig da, ac yn 12 oed aeth i Jerwsalem i astudio o dan y Rabbi mwyaf yn ei ddydd. Fel oedolyn, dechreuodd Paul erlid dilynwyr Iesu, gan ddod yn un o'r terfysgwyr crefyddol gwreiddiol. Fel unrhyw derfysgwr crefyddol, credai Paul â'i holl galon fod yr hyn yr oedd yn ei wneud yn iawn.
  2. CYFARFOD Â CHRIST: Wrth i Paul fod ar ei ffordd i Ddamascus, Syria heddiw, yn ceisio carcharu dilynwyr Iesu, daeth ar draws Crist. Ymddangosodd Iesu ar ffurf golau disglair, gan ddallu Paul am dri diwrnod a'i orfodi i ymgodymu â phopeth yr oedd wedi'i wybod a'i gredu hyd at y pwynt hwnnw. Y foment hon yn ei stori y sylweddolodd Paul y gwir am Iesu. Dyma edifeirwch: y newid meddwl sy'n arwain at newid cyfeiriad, newid calon, a newid blaenoriaethau. Hyd nes y bydd person yn cael ei argyhoeddi o'i bechod o'i gymharu â Iesu Grist, oedd yn ddi-bechod, fydd e byth yn deall trydydd rhan y stori.
  3. Bywyd AR ÔL Crist: Daeth Paul, yr eiriolwr mwyaf cadarn erioed oedd yn gwrthwynebu Iesu, yn genhadwr mwyaf hanes yr eglwys ac yn awdur llawer o'r Testament Newydd, a hynny i gyd oherwydd cyfarfyddiad ag Iesu Grist a newidiodd ei fywyd yn llwyr.

Felly beth yw dy stori? Does yna ddim unrhyw stori'n gyflawn nes bod ganddi'r tair rhan: cyn Crist, cwrdd â Christ, ac ar ôl cwrdd â Christ. Os mai dim ond rhan un yw dy stori, gwna heddiw yn drobwynt. Agora dy galon i Grist a chaniatáu iddo drawsnewid dy fywyd yn radical! Ac os, fel Paul, rwyt ti wedi dod ar draws Crist, pryd oedd y tro diwethaf i ti ei rannu? Oherwydd bod stori i fod i gael ei hadrodd - mae'n rheswm mawr pam y gwnaeth Duw dy ddewis di. Gofynna i Dduw am gyfle i rannu dy stori heddiw

Am y Cynllun hwn

Storytellers

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!

More

Hoffem ddiolch i Right From the Heart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.rightfromtheheart.org