Adroddwyr StraeonSampl

IESU I'R DI-GREFYDD
Dyma'r grŵp 'crefyddol' sy'n tyfu gyflymaf yn America – y “DI-GREFYDD” neu'r unigolion anghrefyddol. Yn 2012, nododd bron i 20% o Americanwyr nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb na chysylltiad crefyddol. Gyda'r milflwyddiaid, y rhai a aned ar ôl 1980, fe weli di fod y ganran honno'n cynyddu i tua 30-40%. Mae hwnnw'n grŵp mawr iawn o bobl yn America yn unig – llawer mwy wrth feddwl yn fyd-eang. Felly sut ydyn ni'n cychwyn sgyrsiau ffydd gyda'r grŵp penodol hwn?
Dechreua gyda chwestiwn syml: Dweda wrtho i am y Duw nad wyt ti’n credu ynddo – efallai na dw i'n credu ynddo chwaith! Beth dw i’n ei olygu? Wel, pan fyddi di'n eistedd i lawr ac yn trafod Duw gyda llawer o bobl di-grefydd, fe weli di fod eu barn nhw am Dduw yn gwbl groes i'r hyn y mae'r ysgrythurau'n ei ddysgu mewn gwirionedd. Yn aml iawn, dw i’n cytuno â'r sgeptig, yr agnostig, hyd yn oed yr anffyddiwr, oherwydd y Duw nad ydyn nhw'n credu ei fod yn bodoli, dydw i ddim yn credu ynddo chwaith. Yn aml, mae eu barn am Dduw wedi mynd mor aneglur fel nad yw'r Duw maen nhw'n ei ddisgrifio yn agos at y Duw y mae Cristnogion wedi dod i'w adnabod trwy berson Iesu Grist. Ac mae man cychwyn yna - mae'n ddechrau trafodaeth ysbrydol.
Waeth pwy bynnag dŷn ni’n siarad ag e, Mwslim, Bwdhydd, neu anffyddiwr, mae pob sgwrs ysbrydol yn dechrau gyda derbyn pobl lle maen nhw, hyd yn oed os yw eu gwerthoedd, eu credoau, neu eu ffyrdd o fyw yn edrych yn wahanol iawn. Dyna bwynt cyfan Paul. Mae'n dweud, "dw i ddim yn anwybyddu cyfraith Crist. Dw i ddim yn cyfaddawdu'r Efengyl na fy ngwerthoedd moesol, ond DW I’N ceisio dod o hyd i ddiddordeb cyffredin (fy aralleiriad i)." Yn y pen draw, pan fydd cwestiynau'n codi ynghylch pam ydyn ni’n byw fel ydyn ni, gallwn ni bwyntio at Iesu.
Wedi'r cyfan, rhoddodd Iesu gysuron y Nefoedd o'r neilltu i fyw yn ein plith ac i farw droson ni fel y gallen ni gael ein hachub. Yn sicr gallwn roi ein buddiannau o'r neilltu er mwyn pwyntio’r ‘“DI-GREFYDD” at Grist. Wnei di?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!
More