Adroddwyr StraeonSampl

STORI WERTH EI HADRODD
Dŷn ni i gyd yn adroddwyr straeon. I Gristnogion, y stori bwysicaf y gallwn ni ei hadrodd yw sut y gwnaethon ni ddod ar draws Iesu. Pam? Oherwydd mai'r stori HON sy'n dangos cariad a thrugaredd anhygoel Duw. Y stori HON sy'n rhoi gogoniant i Dduw ac yn cyfeirio eraill ato Fe. Y stori HON sy'n gwahodd eraill i brofi'r un rhyddid a maddeuant dŷn ni wedi'u hadnabod trwy Iesu. Ond sut dŷn ni'n dechrau? Sut dŷn ni'n torri heibio'r wyneb yn ein sgyrsiau bob dydd i rywbeth go iawn - rhywbeth dyfnach fel bywyd, ffydd, a Duw?
Rhannodd yr Apostol Paul ei stori yn Actau 22:1-16. Cymerwch ychydig o amser a'i darllen fe. Siaradwch am drawsnewidiad bywyd: o derfysgwr crefyddol i un o'r cenhadon enwocaf, rhannodd Paul ei stori yn feiddgar ble bynnag yr aeth e. O ganlyniad, trawsnewidiwyd bywydau. Ond beth am y rhai ohonon ni sydd â straeon llai dramatig am ffydd? A all ein straeon wir effeithio ar eraill? Yn hollol!
- Ysgrifenna dy stori di. Trio ei gadw hi i 100 gair, gan wneud yn siŵr eich bod hi yn cynnwys: Bywyd CYN Iesu, CYFARFOD Â Iesu, a Bywyd AR ÔL Iesu.
- Gofynna am stori rhywun arall. Wyt ti erioed wedi sylwi pa mor hapus yw pobl i siarad amdanyn nhw eu hunain? Cymera ‘r amser i ofyn am fywyd ffrind neu gydweithiwr. Arafa a dewch i adnabod rhywun ar lefel ddyfnach.
- Gofynna a os gei di adrodd eich stori. Er enghraifft, dywedwch, “Ga i rannu fy stori gyda chi?” Y peth mwyaf prydferth am stori dy bywyd yw gall neb ddim dadlau â dy stori di. Dy brofiad di a dy newid bywyd di ydy - ti yw PhD y byd ar dy stori di. Felly gei di ei rhannu'n feiddgar ag eraill!
Paid â golli cyfle i rannu dy stori gyda rhywun yr wythnos hon. Efallai, fydd hi ddim yn cymryd mwy na 60 eiliad ac fyddi di ddim yn gwybod byth pa sgwrs a all ddilyn.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!
More