Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adroddwyr StraeonSampl

Storytellers

DYDD 8 O 15

IESU DROS Y GWAN

Beth mae'n ei olygu i fod yn wan? Mae'r gwendid y mae Paul yn cyfeirio ato yn fwy na gwendid corfforol yn unig, ond yn wendid moesol ac emosiynol. Yma mae Paul yn sôn am ein brwydrau a'n bregusrwydd.

Y peth gwaethaf y gall Cristnogion ei wneud yw ymddangos fel pe bod popeth yn eu bywydau mewn trwfn. Mae gan hyd yn oed y Cristion cryfaf wendidau a brwydrau. Efallai ei fod yn frwydr foesol gyda chwant neu bornograffi; efallai ei fod yn frwydr emosiynol sy'n cael ei llethu gan ofn, pryder, neu iselder. Os dŷn ni’n onest, dŷn ni i gyd yn cael trafferth mewn un ffordd neu'r llall.

Mae Paul yn dweud, trwy gydnabod ein gwendidau, y gallwn bwyntio at Dduw fel ffynhonnell ein cryfder. Mae'r bregusrwydd hwn yn dileu unrhyw farn y gallai rhywun ei deimlo oherwydd eu brwydrau eu hunain. Yn lle hynny, dych chi'n cwrdd â nhw lle maen nhw, wyneb yn wyneb, hyd yn oed os yw’r gwendidau penodol hynny, yn wahanol. Yn yr eiliadau hynny o fregusrwydd gonest, real, mae cyfleoedd yn codi i rannu sut y gwnaeth cryfder Duw ein helpu ni drwodd.

Dŷn i gyd yn cael trafferthion; Yr unig wahaniaeth yw y gall dilynwr Iesu lynu wrth gryfder goruwchnaturiol Duw pan fyddwn ni'n gwneud hynny. Mae'n rhodd sy'n dod gyda rhoi ein calonnau a'n bywydau i Iesu. Felly o ran dy wendidau di, a fyddi di'n ddigon agored i niwed i gyfaddef dy anawsterau? Oherwydd yn ein gwendid ni y mae cryfder Duw yn disgleirio. DYNA'r neges dŷn ni am ei rannu â'r rhai sy'n cael trafferth: Dydy e ddim amdana i, ond yr hyn y mae Duw yn ei wneud trwof fi

Am y Cynllun hwn

Storytellers

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!

More

Hoffem ddiolch i Right From the Heart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.rightfromtheheart.org