Adroddwyr StraeonSampl

YSTYR EITHAF BYWYD
Beth yw ystyr eithaf bywyd? Beth yw galwad neu bwrpas uchaf bywyd? Ai'r alwad i weithio mewn gwasanaeth cyhoeddus ydyw? Efallai ei fod yn yrfa yn y fyddin, yn amddiffyn ein cenedl ac yn cadw ein rhyddid. Efallai ei fod yn gwasanaethu yn y gyfraith neu fel athro ysgol breifat; efallai ei fod yn achub bywydau yn y maes meddygol. Ai bod yn weinidog neu'n genhadwr yw’r alwad? Efallai nad proffesiwn ydyw, ond yn hytrach bod yn rhiant. Yn ôl Iesu, nid yw pwrpas eithaf bywyd mewn gwirionedd yn un o'r uchod.
Galwad eithaf bywyd yw dilyn Iesu. Does dim byd arall yn dod yn agos. Paid â cholli golwg ar hyn:
- Iesu yw'r cychwynnwr. Mewn geiriau eraill, does neb yn darganfod Duw ar eu pen eu hunain mewn gwirionedd. Iesu yw'r un sy'n estyn yr alwad.
- Daeth Iesu dros bawb (2 Pedr 3:9). Dydy hyn ddim yn golygu y bydd pawb yn dewis derbyn Iesu a chael eu hachub, ond mae'r alwad yn cael ei hymestyn i bawb.
Os nad oes gen tii berthynas â Christ, mae Iesu yn dy alw i'w ddilyn – heddiw. Mae Gair Duw yn dweud na fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol(Ioan 3:16). Mae Crist yn galw pob person i'w ddilyn. Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom benderfyniad i'w wneud. Wyt ti'n mynd i’w drystio? Wyt ti'n mynd i edrych ar Iesu fel yr alwad eithaf mewn bywyd? Oherwydd nes i ti wneud hynny – byddi di'n parhau i chwilio am ystyr a phwrpas mewn pethau na all fyth wir fodloni. Felly beth yw ystyr eithaf bywyd? Caru a dilyn Crist. Does dim arall yn cyrraedd y nod.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!
More