Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adroddwyr StraeonSampl

Storytellers

DYDD 15 O 15

WYNEBU'R BEIRNIAID

Doedd yr Apostol Paul ddim yn ddieithr i feirniadaeth. A phan ddaw i Efengyl Iesu Grist, does gan rai pobl ddim ddiddordeb. Rhybuddiodd Iesu na fyddai ei ddilyn yn hawdd - mewn gwirionedd, byddwn yn aml yn wynebu beirniadaeth, sarhad, a hyd yn oed erledigaeth (Mathew 5:11) oherwydd ein ffydd. Efallai bod rhai ohonoch wedi profi hyn yn y gwaith neu ymhlith ffrindiau. Efallai ei fod yn bryfocio ysgafn neu'n feirniadaeth gyhoeddus am y ffordd rydych chi'n byw eich bywyd. Efallai bod eich safbwyntiau'n cael eu gweld fel rhai hen ffasiwn, yn anghywir yn wleidyddol, neu'n amherthnasol. Sut ydych chi'n ymateb pan fydd eraill yn beirniadu eich ffydd?

Pan ymwelodd Paul â Gwlad Groeg, treuliodd amser yn rhannu gyda'r elît deallusol o'r dydd. Ar ôl rhannu gwirionedd Iesu, cyhoeddodd her: edifarhewch. Mewn geiriau eraill, roedd Paul yn dweud i droi oddi wrth eu hen ffyrdd o fyw, meddwl a chredu, a throi at Dduw.

Wel, chafodd yr her hon ddim ymateb rhy dda. Mae’n ymddangos mai ymateb y mwyafrif oedd rholio llygaid a gwawdio o ddifrif. Fodd bynnag, roedd grŵp llai a oedd eisiau gwybod mwy. Hyd yn oed cyn sôn am enw Iesu, roedd y grŵp penodol hwn â diddordeb mewn gweld i ble y byddai'r sgwrs hon yn mynd. O'r grŵp hwn daeth grŵp llawer llai, y rhai a gofleidiodd y gwirionedd a throi’n gredinwyr.

Felly a oedd cenhadaeth Paul yng Ngwlad Groeg yn fethiant? A ydym yn fethiant pan fyddwn yn wynebu gwatwar a gwawd? Ddim o gwbl. Roedd Paul, y cenhadwr enwocaf a mwyaf llwyddiannus yn hanes yr eglwys, yn llwyddiannus oherwydd ei fod yn cofio ein bod i gyd yn chwilio am rywbeth. O elit cymdeithas i'r rhai mwyaf gostyngedig, fyddwn ni byth yn dod o hyd i lawenydd, heddwch, ystyr a phwrpas gwirioneddol nes i ni ddod i drystio yn yr un Duw gwir. Felly beth fyddi di'n ei wneud pan fydd dy ffydd yn cael ei beirniadu? Paid gadael i ofn na gwrthod dy gadw'n dawel. Bydd yn feiddgar; bydd fel Paul.

Am y Cynllun hwn

Storytellers

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!

More

Hoffem ddiolch i Right From the Heart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.rightfromtheheart.org