Adroddwyr StraeonSampl

AMSER I BYSGOTA
Beth mae'n ei olygu i fod yn "bysgotwyr sy’n dal pobl"? Mae'n drosiad anarferol, ond fe wnaeth y disgyblion cyntaf hynny gysylltu ag ef ar unwaith. Fel pysgotwyr profiadol, roedden nhw’n gwybod beth oedd ei angen i ddal pysgod: yr offer cywir, yr abwyd cywir, y lleoliad cywir, a digon o amynedd. Ac yn union fel pysgota, mae rhannu ein ffydd ag eraill yn gofyn am yr offer a'r cymhelliad cywir, y lleoliad cywir, a digon o amynedd.
- Offer: Meddyliwch am yr "offer" cywir o ran Gair Duw, gweddi, yr eglwys, ac, yn bwysicaf oll, y ffydd i roi cred ar waith - i rannu ein taith ffydd ag eraill.
- Cymhelliad: Yn union fel mae angen yr abwyd cywir ar bysgotwyr i ddenu pysgod, mae angen y cymhelliad cywir ar Gristnogion. Mae angen i ni ddenu anghredinwyr a cheiswyr, nid eu cadw draw. Dŷn ni’n gwneud hyn trwy ddangos tosturi a phryder am fywydau eraill. Dŷn ni’n dangos diddordeb a gofal gwirioneddol fel ein bod, dros amser, yn ennill yr hawl i gael ein clywed ar faterion bywyd, gwerthoedd, a hyd yn oed ffydd.
- Lleoliad: Mae gormod o Gristnogion yn treulio'r rhan fwyaf o'u bywydau gyda Christnogion eraill. Yn union fel nad yw pysgotwyr yn gwastraffu eu hamser yn pysgota mewn llynnoedd gwag, os yw Cristnogion am rannu newyddion da Crist gyda'r rhai sydd angen ei glywed, rhaid i ni fynd atyn nhw!
- Amynedd: Y gwir amdani yw, nid yw pawb â diddordeb yng Nghrist. Weithiau mae dilynwyr Iesu yn wynebu cael eu gwrthod neu hyd yn oed elyniaeth tuag at sgyrsiau ffydd ac yn rhoi'r gorau iddi. Paid ag anghofio'r amynedd a'r dyfalbarhad a ddangosodd Duw ac eraill i ti cyn iti ddod ar draws Iesu.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!
More
Hoffem ddiolch i Right From the Heart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.rightfromtheheart.org