Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Newyddion Da i'w rannu gyda phawb
Gany Danny Saavedra
"Theoffilws, syr – Fel dych chi'n gwybod, mae yna lawer o bobl wedi mynd ati i gasglu'r hanesion am yr hyn sydd wedi digwydd yn ein plith ni. Cafodd yr hanesion yma eu rhannu â ni gan y rhai fu'n llygad-dystion i'r cwbl o'r dechrau cyntaf, ac sydd ers hynny wedi bod yn cyhoeddi neges Duw. Felly, gan fy mod innau wedi astudio'r pethau yma'n fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennu'r cwbl yn drefnus i chi, syr. Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir." -Luc, pennod 1, adnodau 1 i 4
(ychwanegwyd pwyslais MSG)
"Pan aeth yr angylion i ffwrdd yn ôl i'r nefoedd, dyma'r bugeiliaid yn dweud wrth ei gilydd, 'Dewch! Gadewch i ni fynd i Bethlehem, i weld beth mae'r Arglwydd wedi'i ddweud wrthon ni sydd wedi digwydd.' Felly i ffwrdd â nhw, a dyma nhw'n dod o hyd i Mair a Joseff a'r babi bach yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid. Ar ôl ei weld, dyma'r bugeiliaid yn mynd ati i ddweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd, a beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw am y plentyn yma. Roedd pawb glywodd am y peth yn rhyfeddu at yr hyn roedd y bugeiliaid yn ei ddweud.." - Luc, pennod 2, adnodau 15 i 19 (ychwanegwyd pwyslais PHILLIPS)
Yn ôl arbrawf cymdeithasegol yn 2010 mae newyddion da yn teithio'n gynt na newyddion drwg. Crynhodd Dr. Jonah Berger, arbenigwr byd-enwog ar lafar gwlad, marchnata firaol, a dylanwad cymdeithasol ganfyddiadau'r astudiaeth helaeth hon trwy nodi, "Os ydw i newydd ddarllen y stori hon sy'n newid y ffordd dw i'n deall y byd a fi fy hun, dw i am siarad ag eraill am yr hyn y mae'n ei olygu."
Onid yw hynny'n syfrdanol ac hefyd ychydig yn rhyfeddol? Bydde llawer o bobl eisiau dy argyhoeddi fod newyddion drwg yn teithio gymaint mwy na newyddion da, ond dydy hi ddim yn ymddangos felly. Mae'n debyg ei fod fel yr hen ymadrodd, "Dych chi'n dal mwy o bryfed gyda mêl, na finegr." Meddylia am y peth...P'un ai dyma'r peth gorau iti ei fwyta erioed, ffilm anhygoel a welaist ti, llyfr gafaelgar na fedri di stopio'i ddarllen, anrheg gwych dderbyniwyd, cael y job gorau posib, neu gyhoeddiad fydd yn trawsnewid dy fywyd, pan fydd rhywbeth syfrdanol yn digwydd, y peth cyntaf dŷn ni eisiau ei wneud; fel arfer; yw ei rannu ag eraill!
Y Nadolig yw dathliad y newyddion mwyaf i'r ddynoliaeth ei dderbyn erioed: genedigaeth Iesu. O'i gymharu â byrger blasus rwyt newydd ei fwyta, neu rhyw ddarn o newyddion cyffrous rwyt newydd ei dderbyn, mae hynny mwy na thebyg ddim ond yn effeithio ar griw bach o bobl, ble mae dyfodiad Iesu Grist, Gwaredwr y byd, y newyddion da ar gyfer pawb! Mae'r math o newyddion y dylen ni fod ar bigau'r drain a heb unrhyw gywilydd, eisiau ei rannu gyda phawb dŷn ni'n eu cwrdd. Does dim newyddion arall ddylai deithio gyflymach na'r newyddion da fod Duw wedi agor ffordd i ni, fel pechaduriaid, adnewyddu ein perthynas ag e, wedi ein gwaredu o'n pechodau, a'n derbyn i'w deulu fel plant.
Yn y darlleniadau heddiw gwelwn ddau achos o bobol yn mentro i rannu'r newyddion da am Iesu. Yn gyntaf, dŷn ni'n gweld Luc, a welodd a chlywed pethau anhygoel mae'n siŵr - pethau y gwyddai bod arno angen ei rannu â phawb.
Roedd Luc, Groegwr oedd â'r fraint arbennig o fod yr unig cenedl-ddyn i fod yn awdur o un o lyfrau'r Beibl, yn cael ei gydnabod gan neb llai na'r apostol Paul fel ei "ffrind annwyl, doctor Luc". Tra'r bydde bod yn ddoctor yn meithrin ar syniadau urddasol yn y byd sydd ohoni, yn nyddiau'r eglwys cynnar, doedd doctoriaid yn ddim mwy na gweision. Mae’n debyg bod Theoffilws yn noddwr iddo, o bosibl, rheolwr Rhufeinig, gan fod y dynodiad “mwyaf rhagorol” wedi’i gadw’n gyffredinol ar gyfer y rhai sydd mewn sefyllfa o rym yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Ac eto. fe rannodd Luc, gyda hyder, neges y Deyrnas sydd tu hwnt i Rufain, ac am frenin gymaint mwy na Cesar.
Yn ei gyflwyniad, mae Luc yn dweud wrth Theoffilws fod angen rhannu'r neges a gafodd gan lygad-dystion am fywyd a gweinidogaeth Iesu, er mwyn iddo ef - ac ystyried pawb arall sydd wedi darllen drwy Luc a'r Actau - ddeall y neges o obaith. O'r manylion anhygoel a welwn yn yr Efengylau, mae'n hollol amlwg fod Luc wedi siarad ag amryw o bobl amlwg, gan gynnwys Mair, Pedr, Ioan, ac eraill oedd wedi bod ar daith gydag Iesu.
Ychydig ddyddiau yn ôl, fe wnaethon ni ddarllen am y bugeiliaid oedd y cyntaf i dderbyn y newyddion anhygoel bod y Gwaredwr wedi ei eni. Ond wnaethon nhw ddim cadw'r newyddion hyn iddyn nhw eu hunain. Yn lle, aethon nhw "ati i ddweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd, a beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw am y plentyn yma. Roedd pawb glywodd am y peth yn rhyfeddu at yr hyn roedd y bugeiliaid yn ei ddweud." (Luc, pennod 2, adnodau 17 i 18 beibl.net).
Wrth i ni ddathlu'r Nadolig heddiw, dw i'n gweddïo ein bod oll yn cofio fod pob un ohonom wedi ein galw i rannu'r neges o iachawdwriaeth drwy Iesu gyda phawb mae e wedi'i gosod yn ein bywydau. Fel y bugeiliaid a Luc, mae gynnon ni neges anhygoel i'r holl fyd, ac yn syml, fedrwn ni ddim ei gadw i ni ein hunain!
Heddiw, mae pawb yn rhannu popeth. O luniau, i emosiynau, i nygets euraidd o ddoethineb, nid yw ein porthwyr Facebook, Twitter, ac Instagram byth yn brin o gynnwys. Dŷn ni wedi gweld pŵer Crist yn newid ein calonnau ac yn rhoi heddwch i ni. . . nawr mae'n rhaid i ni rannu'r newyddion anhygoel hyn gyda'r un cyffro a llawenydd ag ydyn ni'n gwneud llun gwych ar Instagram! Cymer beth amser heddiw i rannu'n greadigol yr hyn y mae Iesu'n ei wneud yn dy fywyd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!
More