Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Dechreuadau Gostyngedig
Gan Danny Saavedra
“‘ Felly dyma'r angel yn dweud wrthi, “Paid bod ofn, Mair. Mae Duw wedi dewis dy fendithio di'n fawr. Rwyt ti'n mynd i fod yn feichiog, a byddi di'n cael mab. Iesu ydy'r enw rwyt i'w roi iddo . . . A dyma Mair yn dweud, “Dw i eisiau gwasanaethu'r Argl.wydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi'i ddweud ddod yn wir’”—Luc 1:30–31, 38 (beibl.net)
Ymhlith holl arwyr mawr ffuglen, o'r ffilmiau The Lord of the Rings, mae Frodo yn un o'r cymeriadau mwyaf nodedig. Pam? Oherwydd yn wahanol i Hercules, Wonder Woman, Thor, neu Superman, nid yw'n is-dduw enfawr, gor-bwerus. Yn wahanol i Anakin neu Luke Skywalker, chafodd e ddim ei eni â phwerau grym anghyffredin. Yn wahanol i Batman, nid yw'n filiwnydd ninja rhwygedig, hyfforddedig iawn gyda'r arian i wneud arfau ac arfwisgoedd uwch-dechnoleg. Doedd Frodo ddim yn un o'r pethau hynny. Dim ond hobit syml o'r sir ydoedd, dyn bach naïf, caredig, addfwyn. Ond, fel mae Galadriel yn ei ddweud yn y ffilm *The Fellowship of the Ring*, “Gall hyd yn oed y person lleiaf newid cwrs y dyfodol.”
Dyma'r peth: Nid ei alluoedd goruwchddynol, ei athrylith goruwch, na'i enedigaeth-fraint oedd yn gwneud Frodo yn arbennig. . . ei barodrwydd i gamu allan mewn ffydd ydoedd. Mae'n arwr ymhlith arwyr oherwydd er ei fod yn gwybod nad oedd ganddo’r sgiliau anghenrheidiol ar gyfer y dasg amhosibl hon (doedd ddim hyd yn oed yn gwybod y ffordd i Mordor), camodd ymlaen mewn gostyngeiddrwydd a derbyniodd yr alwad pan ddaeth.
Mae'r arwr bach hwn yn ymgorffori rhywbeth mor ddwfn o'r Beibl: gall Duw ddefnyddio unrhyw un, hyd yn oed y bobl fwyaf gostyngedig, i gyflawni'r gwaith mwyaf anhygoel. O'r bugail ifanc a laddodd gawr i weddw a ddangosodd deyrngarwch anhygoel i'w mam-yng-nghyfraith i'r ferch ifanc o Nasareth—lle nad oes dim da yn dod ohoni, yn ôl pob golwg (Ioan 1:46)—wedi’i bendithio fwy nag unrhyw wraig arall (Luc 1:42)—mae Duw yn y busnes o wneud pethau mawr trwy'r bobl leiaf a mwyaf gostyngedig.
Felly pam Mair? Fel Frodo, doedd ganddi ddim y byddai dynoliaeth yn ei ystyried yn “arbennig”. Doedd hi ddim yn dod o deulu mawreddog. Doedd hi ddim yn cael ei hystyried yn fawr ymhlith y bobl. Ond roedd hi'n cael ei ffafrio'n fawr gan Dduw. Pan ddywedodd Gabriel wrth Mair y byddai hi'n cael plentyn trwy'r Ysbryd Glân, mae ei hymateb yn datgelu'n union pam y dewisodd Duw hi a pham ei bod hi'n cael ei ffafrio'n fawr a'i bendithio â'r anrhydedd hon.
Yn Luc 1:38 (beibl.net), mae hi'n dweud, "Dw i eisiau gwasanaethu'r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi'i ddweud ddod yn wir." Edrychwch ar y gostyngeiddrwydd a ddangosodd yma! Ei hymateb i'r newyddion gwallgof, amhosibl, a dweud y gwir brawychus hwn (roedd hi'n forwyn wedi dyweddïo, heb briodi, mae'n debyg rhwng 12 a 14 oed, pan ddywedwyd wrthi y byddai'n cael plentyn) oedd “Dw i eisiau gwasanaethu'r Arglwydd Dduw.”
Roedd hi'n gwybod na fyddai neb yn ei chredu, y byddai hyn yn debygol o fod yn beth gwarthus a pheryglus (gallai Joseff fod wedi cael ei chywilyddio'n gyhoeddus neu ei llabyddio i farwolaeth am fod yn feichiog fel ei ddyweddïad, gan nad ef oedd y tad biolegol), ond roedd hi'n ymddiried yn Nuw. Roedd hi'n credu ynddo e a'i Air. Roedd hi’n barod i gael ei defnyddio gan Dduw i wneud ei waith. Roedd hi'n gwybod nad oedd ganddi’r hyun oedd ei angen ar gyfer yr alwad roedd Duw wedi’i roi iddi, ond rhoddodd ei bywyd, ei hewyllys a'i dyfodol i'w ddwylo e, oherwydd ei bod hi'n trystio y byddai e gyda hi bob cam o'r ffordd.
Dyma'r cyfan sydd ei angen ar yr Arglwyddgennym ni er mwyn cyflawni gwyrthiau yn ein bywydau ein hunain a bywydau'r bobl o'n cwmpas. Dydy e ddim angen inni fod yn athrylithoedd medrus iawn, hynod o gymwys. Yn sicr mae'n defnyddio pobl â sgiliau, talentau, adnoddau a galluoedd anhygoel yn union fel mae'n defnyddio pysgotwyr heb hyfforddiant, gweddwon tlawd ac alltudion, dydy e ddim yn rhagofyniad iddo wneud ei waith gorau. Yn hytrach, mae Duw yn gwneud ei waith gorau ym mywydau'r rhai sy'n ostyngedig, ar gael, ac yn barod i gael eu defnyddio. Nid yw'n ymwneud â'r hyn y gelli d ei wneud, ond yr hyn rwyt ti'n caniatáu iddo ei wneud ynot ti a drwot ti. Mae'n bendithio'r rhai sy'n datgan, "Dw i eisiau gwasanaethu'r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi'i ddweud ddod yn wir."
Fel Mair, mae gennym ni i gyd ran yn y stori anhygoel hon o iachawdwriaeth y mae Duw yn ei sgwennu. Mae gennym ni i gyd alwad anhygoel i wneud disgyblion, pregethu’r efengyl, a bod yn dystion iddo. Oes rhaid i ni fod yn ysgolheigion neu'n areithwyr deinamig i'w gyflawni? Na! Dim ond dweud, "Dyma fi, Iesu. Fi yw dy was."
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!
More