Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Noel: Christmas Is For Everyone

DYDD 4 O 12

Mab yr Addewid, Llun o Iesu

Gan Danny Saavedra

“Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i'w aberthu, machgen i,” meddai Abraham.Genesis 22:8 (beibl.net)

Wyt ti erioed wedi cael dy ofyn i wneud rhywbeth gwallgof; rhywbeth mor wallgof na feddyliais erioed y byddai'n rhaid i ti ei wneud? Os wyt ti wedi, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Yn Genesis 22, rhoddodd Duw orchymyn rhyfedd i Abraham.

Gofynnodd Duw i Abraham aberthu ei fab. Arhosa am funud, beth? Ti'n golygu mab yr addewid? Yr un y dylai cenedl fawr gael ei hadeiladu ohono? Ie, yr un yna. Meddai Duw, “Plîs, cymer dy fab Isaac – yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti'n ei garu . . . Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm…” (Genesis 22:2 BCN).

Rhaid bod hyn wedi bod yn beth torcalonnus, poenus annisgrifiadwy i Abraham. Elli di ddychmygu cael dy ofyn i aberthu'r hyn sy'n annwyl i ti? A fyddet ti'n ufudd fel Noa neu'n rhedeg i'r cyfeiriad arall fel Jona? Meddylia am ba mor afresymol a wallgof oedd cais Duw yn swnio. Isaac oedd mab annwyl Abraham ac roedd dyfodol cyfamod Duw yn gorffwys arno e. Roedd Isaac yn wyrth, rhodd Duw mewn ymateb i ffydd Abraham a Sara.

Ond clywodd Abraham Dduw ac ufuddhaodd iddo ar unwaith mewn ffydd. Weithiau yn ein bywydau, byddwn yn wynebu gorfod gwneud dewis sy'n ymddangos yn amhosibl ac yn anodd. . . dewis efallai nad ydym yn ei ddeall. Ond pan fyddwn yn deall cymeriad Duw, pan fyddwn yn deall ei gariad tuag atom, pan fyddwn yn cydnabod bod ei ewyllys bob amser er ein lles ni a'i ogoniant, gallwn ufuddhau iddo'n ffyddlon oherwydd ein bod yn gwybod ei fod yn gweithio pob peth er lles y rhai sy'n ei garu ac sydd wedi'u galw yn ôl ei bwrpas (Rhufeiniaid 8:28).

Ti'n gweld, roedd Abraham yn gwybod na fyddai ewyllys Duw byth yn gwrth-ddweud ei addewid, felly daliodd y tad ffyddlon hwn at yr addewid a ddywedodd, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.” (Genesis 21:12 beibl.net. Credai Abraham, hyd yn oed pe bai Duw yn caniatáu iddo aberthu ei fab, y gallai atgyfodi Isaac o’r meirw (Hebreaid 11:17–19). Yn hyn gwelwn wir natur ffydd. Does dim angen esboniadau arno; Mae'n seiliedig ar addewidion. Dyna pam y gallai Abraham ddweud wrth ei weision, “Dŷn ni'n mynd i addoli Duw, ac wedyn down ni'n ôl atoch chi*” (Genesis 22:5, pwyslais wedi’i ychwanegu) a pham y gallai ddweud wrth ei fab, “*Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i'w aberthu . . . ” (Genesis 22:8 beibl.net, pwyslais wedi'i ychwanegu).

Rhywbeth sy'n aml yn mynd ar goll yn y stori hon yw ffydd ac ufudd-dod Isaac. Mor aml, pan dŷn ni'n dychmygu'r stori hon, dŷn ni'n dychmygu Isaac fel plentyn ifanc, bachgen bach. Ond mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion Beiblaidd yn credu ei fod rhwng 18 a 33 oed—wedi'r cyfan, roedd yn rhaid iddo fod yn ddigon mawr a chryf i gario'r holl goed ar gyfer yr aberthu.

Am gyfatebiaeth anhygoel a welwn yma yn stori Isaac am gynllun Duw ar gyfer prynedigaeth trwy Iesu, Oen Duw a ddaeth i ddwyn pechodau'r byd. Mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn credu bod Isaac yn gwybod beth oedd yn digwydd. Cariodd goed ei aberth ei hun ac arhosodd yn dawel wrth iddo gael ei osod ar yr allor. Wnaeth e ddim protestio pan gododd Abraham y gyllell, dim byd. Rhoddodd ei hun i fyny i'w dad yn ewyllysgar. . . yn union fel Iesu! Mae James E. Goodman yn disgrifio Isaac fel, “gwybodus ac ewyllysgar, tawel os nad yn gwbl ddistaw, ac yn anad dim arall heb ddioddef.” Ysgrifennodd Clement o Alexandria, “Isaac yw e (Iesu) . . . oherwydd e oedd mab Abraham fel Crist Mab Duw ac aberth fel yr Arglwydd.”

Yn y diwedd, arhosodd Duw wrth law Abraham a darparodd aberth arall. "Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”. Ref Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae'r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd." (Genesis 22:14). Mae'r Nadolig yn ddathliad o'r foment y darparodd Duw yr Oen!

A yw'r Arglwydd yn gofyn rhywbeth sy'n ymddangos yn wallgof gennyt ti heddiw? Ydy t’n dy alw i wneud rhywbeth nad wyt ti'n ei ddeall, rhywbeth sydd y tu hwnt i'th allu i resymu? Efallai ei fod yn dy herio i symud i ddinas neu wlad arall, cymryd swydd newydd, neu ddechrau

Am y Cynllun hwn

Noel: Christmas Is For Everyone

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!

More

Hoffem ddiolch i Calvary Chapel Ft. Lauderdale am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://CalvaryFTL.org