Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Yr Anrheg Mwyaf
Gan Danny Saavedra
“Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol." -Ioan, pennod 3, adnod 16 (beibl.net)
Gan mai Noswyl Nadolig yw hi heddiw, dw i'n meddwl dw i'n meddwl y gallwn i gyd fod yn onest â'n gilydd wrth gyfaddef ein bod yn CARU derbyn anrhegion! Pwy sydd ddim? Mae'n anhygoel. O ddifri nawr, beth sydd yna i beidio caru derbyn pethau cŵl gan bobl sy'n dy hoffi? O'm rhan fy hun, dw i wrth fy modd yn derbyn anrhegion. Mae'n boddhau fy angen am gymeradwyaeth a chael fy nerbyn. Pam? Oherwydd bod derbyn anrhegion gan bobl yn gwneud i mi deimlo fel eu bod wir yn caru, yn gwerthfawrogi, ac yn fy nerbyn am pwy ydw i.
Cyn dechrau'r astudiaeth heddiw gad imi ofyn i ti...beth yw'r anrheg gorau rwyt ti wedi'i dderbyn? Dw i'n cofio'r anrheg gorau ges i fel plentyn oedd Nintendo 64, gyda Super Mario 64. Wir i ti ges i oriau lawer o bleser o'r anrheg yna.
Hyd yn oed heddiw, dw i wrth fy modd yn derbyn anrhegion. Ond, alla i fod yn onest efo ti, fel oedolyn - yn enwedig tad - dw i wedi sylweddoli ar rywbeth diddorol iawn. Dw i'n cael cymaint mwy o bleser o roi anrhegion. Does dim un anrheg dw i wedi'i dderbyn fel oedolyn wedi gwneud imi deimlo fel o'n i pan yn blentyn, ond pan dw i'n rhoi anrheg i'm mab mae nhw wirioneddol ei eisiau, mae gweld y cynnwrf a'r hapusrwydd ar eu hwynebau, teimlo y cynnwrf coflaid, a chlywed "Diolch! Diolch! Diolch! dad!" yn dod â'r teimlad Nintendo 64 yn ôl imi.
Wrth imi ystyried pam dŷn ni'n dathlu Nadolig y dyddiau hyn, dw i'n cael fy atgoffa o Mathew, pennod 7, adnod 11 (beibl.net) sy'n dweud, "Felly os dych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'ch Tad yn y nefoedd yn siŵr o roi rhoddion da i'r rhai sy'n gofyn iddo!" A dyna un Da yw Duw am wybod beth i roi i ni fel anrheg!
Mae Ioan, pennod 3, adnod 16 yn dweud "Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol." Mae Rhufeiniaid, pennod 8, adnod 32 (beibl.net) yn dweud ymhellach, "Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed ei Fab ei hun! Rhoddodd e'n aberth i farw yn ein lle ni i gyd. Felly oes yna unrhyw beth dydy e ddim yn fodlon ei roi i ni?" tra bod 23 Corinthiaid, pennod 8, adnod 9 (beibl.net) yn dweud, "A dych chi'n gwybod mor hael oedd yr Arglwydd Iesu Grist ei hun. Er ei fod e'n gyfoethog yng ngwir ystyr y gair, gwnaeth ei hun yn dlawd er eich mwyn chi! – a hynny er mwyn i chi ddod yn gyfoethog yn eich perthynas â Duw!"
Nawr, pam wnaeth e roi'r anrheg yma i ni? Pam wnaeth Brenin y nefoedd ddod i lawr a byw'n ein plith? Mae 1 Timotheus, pennod 1, adnod 15 (beibl.net0 yn dweud, "Daeth y Meseia Iesu i'r byd i achub pechaduriaid..." Mae Rhufeiniaid, pennod 6, adnod 23 (beibl.net) yn dweud yn blaen, "Marwolaeth ydy'r cyflog mae pechod yn ei dalu..." Dyma dŷn ni'n ei haeddu. Dyma ein dyled i Dduw am ein pechod. Mewn pechod dŷn ni'n sefyll ar wahân i Dduw sanctaidd a pherffaith. Ond, gosododd Dduw, yn ei le, gynllun i bontio'r gagendor hwnnw trwy roi i ni'r "anrheg o Dduw" sef "bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd." Cyflawnodd hyn drwy anfon "ei unig Fab i'r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo." (1 Ioan, pennod, adnod 9 beibl.net).
Fel arweinwyr Crist, dŷn ni wedi derbyn anrheg fydd yn parhau i gael ei roi am byth - anrheg na fydd fyth yn heneiddio, byth yn torri, byth yn treulio, byth yn wag, a byth yn colli ei werth; yr anrheg gorau mae'r byd wedi'i dderbyn...a'r cwbl sydd raid i ni ei wneud yw credu. Talodd Iesu y pris eithaf i brynu'r anrheg hen i ni, fel ei bod yn gallu ei gynnig i ni o'i wirfodd! Dyna pam mai Ioan, pennod 3, adnod 16, yw'r adnod fwyaf adnabyddus yn y Beibl, oherwydd dyma'r mynegiant symlaf o gariad Duw tuag atom. A wyddost ti beth? Wyt ti'n gwybod sut mae Duw'n teimlo bob tro mae rhywun yn derbyn ei anrheg? Mae Iesu'n dweud wrtho m ni yn Luc, pennod 15, adnod 7 (beibl.net) mae mwy o ddathlu'n y nefoedd dros un pechadur sy'n edifarhau a derbyn Iesu!
Felly, heddiw, wrth i ti baratoi i ddathlu genedigaeth Iesu yfory, wrth i ti baratoi swper neu baratoi i fynd i'r eglwys, sylweddola nad ti yw'r unig un sy'n dathlu... Gelli di fod yn sicr fod y Tad, yn dathlu'n y nefoedd, y foment y daethost ti a fi yn blant iddo. a bydd gorfoleddu yn y nefoedd wrth i bobl droi ato.
Am y Cynllun hwn

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!
More