Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Noel: Christmas Is For Everyone

DYDD 8 O 12

Cân Wych

Gan Danny Saavedra

“O, dw i'n moli'r Arglwydd! Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus! Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn, ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes yn dweud fy mod wedi fy mendithio, Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi – Mae ei enw mor sanctaidd. Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy'n ymostwng iddo. Mae wedi defnyddio'i rym i wneud pethau rhyfeddol! – Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl. Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr, ac anrhydeddu'r bobl hynny sy'n ‛neb‛. Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i'r newynog, ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim! Mae wedi helpu ei was Israel, a dangos trugaredd at ei bobl. Dyma addawodd ei wneud i'n cyndeidiau ni – dangos trugaredd at Abraham a'i ddisgynyddion am byth.” Luc, pennod 1, adnodau 46 i 55 beibl.net)

Beth yw'r peth gorau i ddigwydd i ti erioed? Beth yw'r un digwyddiad yn dy fywyd wnaeth dy lenwi â gymaint o lawenydd fel dy fod yn methu cuddio dy deimladau? I mi, darganfod fod fy ngwraig yn disgwyl ein plentyn cyntaf oedd e. Dwedodd wrtho i rhai oriau cyn oedden i fod i gwrdd ffrindiau am swper.

Tua blwyddyn yn gynt, roedden ni wedi colli'r plentyn cyntaf! Roedd ofn arnon ni ddweud i ddechrau oherwydd beth oedd wedi digwydd o'r blaen ond roedd hyn yn teimlo'n wahanol. Roedd fel petai'r Arglwydd yn dweud wrtho i fod popeth yn iawn. Oherwydd hyn, wnaethon ni ddim gadael i'n hofnau ddwyn ein llawenydd a chynnwrf, felly benderfynon ni i rannu'r newyddion gyda nhw y noson honno.

Ar hyd fy mywyd ro'n i wedi eisiau bod yn dad, felly pan ddaeth yr amser, gorlifodd fy llawenydd gymaint fel ein bod wedi rhoi'r enw Jude i'n mab, sy'n golygu moliant! A does dim un diwrnod yn mynd heibio ble nad ydw i'n moli Duw â'm holl galon am y plentyn rhyfeddol, caredig, egnïol, unigryw, creadigol, anhygoel yw Jude.

Heddiw, dŷn ni'n mynd i edrych ar un o'r darnau harddaf yn y Beibl, rhai o'r geiriau tlysaf sgwennwyd erioed... ei enw yw Cân Mair, sy'n moli'r Arglwydd.

Dychmyga dy hun fel taset ti'n Mair. Rhai dyddiau nôl mae angel yr Arglwydd yn dod atat ti ac yn dweud y byddi di'n beichiogi o'r Ysbryd Glân ac y byddet ti'n cario'r Meseia y bu disgwyl hir amdano, ac addawyd i Abraham...

Yr un fyddai'n sathru pen y neidr, unwaith ac am byth...

Byddai holl deuluoedd y ddaear yn cael eu bendithio drwy'r Had hwn...

Byddai'r Brenin yn eistedd ar orsedd Dafydd am byth...

Y Gwaredwr a fyddai'n achub y ddynoliaeth gyfan...

Ei hymateb i'r newyddion syfrdanol hwn oedd: "“Dw i eisiau gwasanaethu'r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi'i ddweud ddod yn wir.” (Luc, pennod 1, adnod 38 beibl.net). Waw! Felly. dyma hi'n pacio a mynd i ymweld â'i chyfnither oedd yn disgwyl hefyd. A chyn gynted ag y mae hi'n cyrraedd a'i chyfarch, mae Elisabeth yn gweiddi drwy'r Ysbryd fod Mair wedi'i bendithio fwy nag unrhyw wraig arall, am ei bod wedi'i dewis i Fod yn fam yr Arglwydd. Dyma'r amser dŷn ni'n gweld Mair yn methu dal nôl rhag dangos ei llawenydd a chynnwrf ddim mwy! Mae hi'n dweud, "O, dw i'n moli'r Arglwydd! Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus!"

Falle dy fod wedi sylweddoli fod yna debygrwydd trawiadol rhwng Cân Mair o fawl a Gweddi Hanna yn 1 Samuel, pennod 2. Ynglŷn â hyn sgwennodd y Diwinydd Alexander MacLaren, "Oes rhaid i'r forwyn bentref syml fod yn fardd oherwydd ei bod hi'n fam i'n Harglwydd? Beth sy’n fwy tebygol nag iddi daflu ei hemosiynau i ffurfiau oedd mor gyfarwydd iddi, ac yn enwedig y dylai emyn Hanna fod yn batrwm iddi? Roedd yr hen salmau hyn yn darparu’r mowld y byddai ei hemosiynau disglair bron yn reddfol yn rhedeg iddo, ac mae absenoldeb ‘gwreiddioldeb’ yn y gân yn ffafrio ei diffuantrwydd.” Wyt ti wedi profi ryw foment yn dy fywyd ble mae cân, salm neu adnod wedi llamu i'r meddwl i'th helpu i fynegi'r hyn roeddet yn deimlo? Dyna ddigwyddodd, mwy na thebyg, i Mair! Galwodd i gof Gweddi Hanna a'i gwneud yn bersonol i'w hun i fynegi'r llawenydd, y diolchgarwch a'r hapusrwydd dwfn roedd yn ei deimlo.

Fy ffrind, gyda'r Nadolig brin wythnos i ffwrdd, dw i eisiau dy atgoffa o rywbeth o Gân Mair y gallwn ninnau ei berchnogi hefyd! Gall fod y geiriau dŷn ni'n eu canu i'r Arglwydd. Yn union fel ddwedodd Mair, "Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi – Mae ei enw mor sanctaidd!", gallwn ninnau ganu'n uchel am y pethau mawr mae'r Arglwydd wedi'i wneud droson ni! Gall bob un diwrnod o'n bywydau fod yn gân o gerdded, siarad, byw ac anadlu i Dduw.

Cymer ychydig o amser i fynegi dy Gân i'r Iesu. Dweda e, cana e, neu ei sgwennu ar bapur. Gelli ddefnyddio cân ddofn drawiadol o fawl, adnodau o'r Beibl, neu salm a'i gwneud yn bersonol. Heddiw, datgan dy lawenydd a diolchgarwch i'n Duw a Thad gwych

Am y Cynllun hwn

Noel: Christmas Is For Everyone

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!

More

Hoffem ddiolch i Calvary Chapel Ft. Lauderdale am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://CalvaryFTL.org