Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Noel: Christmas Is For Everyone

DYDD 10 O 12

Dim lle yn y llety...Ond mae Gwahoddiad i Bawb

gan Danny Saavedra

" Tra oedden nhw yno daeth yn amser i'r babi gael ei eni, a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni – bachgen bach. Dyma hi'n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a'i osod i orwedd mewn cafn ar gyfer bwydo anifeiliaid. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo. Yn ardal Bethlehem roedd bugeiliaid allan drwy'r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid. Yn sydyn dyma nhw'n gweld un o angylion yr Arglwydd, ac roedd ysblander yr Arglwydd fel golau llachar o'u cwmpas nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau...Pan aeth yr angylion i ffwrdd yn ôl i'r nefoedd, dyma'r bugeiliaid yn dweud wrth ei gilydd, “Dewch! Gadewch i ni fynd i Bethlehem, i weld beth mae'r Arglwydd wedi'i ddweud wrthon ni sydd wedi digwydd." -Mathew, pennod 2, adnod 2, adnodau 6 i 9 ac 15 (beibl.net).

Wyt ti'n cofio dy wyliau teuluol cyntaf? Dw i'n cofio! Trip i briodas yng Ngogledd Carolina oedd un ni. Dyma oedd y tro cyntaf i ni fynd â'n mab, oedd tua 17 mis oed, ar awyren. Yn ôl y disgwyl roedd y sefyllfa'n un cynhyrfus. Wnaeth e ddim byd on crïo drwy'r daith gyfan. ac fe arhoson ni gyda'n ffrindiau oedd, hefyd, gyda plentyn blwydd oed. Roedd yn dipyn o antur, ac yn ddim yn beth oedden ni wedi'i ddisgwyl. Ond, roedd hefyd yn lot o hwyl ac yn edrych yn ôl ar yr amser hyfryd gyda atgofion melys a chynnes.

Dw i'n dychmygu mai felly oed hi i Joseff a Mair....Hynod o wallgof a phrysur, yn hir ac yn llafurus, ac yn llawn syrpréis, ond yn y pen draw yn un o atgofion mwyaf rhyfeddol eu bywydau. Meddylia am y peth...roedd Mair yn bell i mewn i'w beichiogrwydd ac roedd angen llwytho'r asyn a chychwyn ar y daith am Bethlehem, cartref eu cyndeidiau - tref nad oedden nhw erioed wedi byw ynddi, ble roedd ychydig o deulu pell yn dal i fyw, a neb y bydden nhw ag unrhyw gysylltiad agos â nhw. Nawr, roedd rhaid iddyn nhw obeithio y bydde lle gan un o'u perthnasau iddyn nhw aros.

Ond, erbyn i Joseff a Mair gyrraedd Bethlehem, doedd dim lle gan unrhyw un o'u perthnasau. Roedd pobman yn llawn, ond am eu bod nhw'n deulu a Mair yn feichiog, gadawodd i un o'r perthnasau iddyn nhw aros ble roedd yr anifeiliaid yn cael eu cadw dros nos. Dychmyga rywbeth fel ystafell ochr neu garej ble wyt ti'n cadw'r ci neu gath...neu'r gwartheg ac asynnod!

Onid yw hynny'n wallgof? Ond mae'n troi'n fwy gwallgof hyd yn oed...Wyt ti'n gwybod ble wnaeth Iesu'r Gwaredwr gysgu ar ei noson gyntaf ar y ddaear? Ddim mewn crud swanc. Rhoddwyd e mewn cafn bwydo anifeiliaid. Yn draddodiadol mewn golygfeydd Nadolig mae'r cafn hwn yn cael ei ddarlunio fel crud wedi'i wneud o bren, ond y gwirionedd ydy roedd mwy fel sinc sgwâr fferm oedd yn eistedd ar flociau carreg!

Doedd dim lle i Iesu ar y ddaear y noson honno, ac eto, gyda'r gwahoddiad i'r bugeilied mewn cae cyfagos ac ymweliad diweddarach y gwŷr doeth o'r Dwyrain, dangosodd yr Arglwydd i ni fod pawb wedi'u gwadd i ddod ag addoli Iesu. Sut felly? Allan o bawb a allai o bosibl fod wedi cael gwahoddiad o’r gymdeithas Iddewig gyfan, dewisodd Duw fand o fugeiliaid i glywed y newyddion am enedigaeth Iesu ac i ddod i’w addoli. Mae hynny'n ddarlun mor bwerus i ni oherwydd bod bugeiliaid ymhlith y grwpiau cymdeithasol isaf.

Ystyria fel roedd gwaith y bugeiliaid yn eu cadw rhag bod yn rhan o brif ffrwd y gymdeithas Iddewig, rhag glanhau seremonïol, ac yn aml hyd yn oed rhag talu sylw i'r holl wyliau a gwleddoedd crefyddol. Ac eto, gwahoddwyd y bugeiliaid hyn, a oedd, heb os, yn gofalu am ddefaid a fyddai ryw ddydd yn cael eu defnyddio fel aberthau yn y deml. Fel y dywedodd John MacArthur mor briodol, “Mor addas yw mai nhw oedd y cyntaf i wybod am Oen Duw!”

Hyd yn oed yn fwy anhygoel i ni heddiw fyddai dyfodiad y gwŷr doeth, grŵp o offeiriaid a seryddwyr Babilonaidd / Persiaidd a aeth yn anturus ar daith o ddilyn seren i ddod o hyd i frenin. Ond y peth ydy, dynion o genhedloedd eraill oedden nhw, ac nid Iddewon. Roedden nhw'n ymddiried yng Ngair Duw gymaint nes iddyn nhw adael eu tir i chwilio am y Meseia oedd wedi'i addo. Fe wnaethon nhw ei geisio mewn ffydd a chyda'u holl galon, a llawenhau â llawenydd mawr wrth iddyn nhw ddod o hyd i'w ffordd ato. Pan ddaethon nhw o hyd iddo, yn ei ysblander gostyngedig rhoesant iddo anrhegion gwerthfawr dros ben oedd yn addas ar gyfer brenin. Mae hyn yn dangos i ni fod croeso i bawb wrth draed Iesu, rhodd ogoneddus Duw, y Meseia a'r Brenin. Mae croeso i bawb ddod i'w addoli a chael ei achub!

Y Nadolig hwn dw i'n gweddïo ein bod yn cofleidio'r un feddylfryd. Dw i'n gweddïo ein bod yn edrych ar bobl, waeth beth fo'u cefndir, eu credoau, neu eu ffordd o fyw, gyda'r un cariad, tosturi a charedigrwydd ag y mae Iesu'n ei wneud. A dw i'n gweddïo, fel y seren arweiniodd y gwŷr doeth at Iesu, gallem fod yn olau’r byd sy’n denu pobl i addoli ein Brenin!

Am y Cynllun hwn

Noel: Christmas Is For Everyone

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!

More

Hoffem ddiolch i Calvary Chapel Ft. Lauderdale am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://CalvaryFTL.org