Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Noel: Christmas Is For Everyone

DYDD 5 O 12

Mae e'n Bopeth i Bawb

Gan Danny Saavedra

“ Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni, mab wedi cael ei roi i ni; Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu. ; A bydd yn cael ei alw yn Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol, , Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.” —Eseia 9:6 (b eibl.net)

Does dim gwadu bod ffôn clyfar yn offeryn defnyddiol i bawb. Dw i ddim yn credu bod unrhyw berson yn fyw na fyddai'n elwa mewn rhyw ffordd arwyddocaol o gael ffôn clyfar. Yn yr un modd, mae tân yn fuddiol i'r holl ddynolryw—gwres, coginio, tanwydd; enwa di e, tân sy'n ei ddarparu.

Mae yna gynhyrchion ac adnoddau amrwyiol yn y byd hwn a gael eu creu ar gyfer pawb, i wneud bywyd pawb yn llawer gwell. Yn yr un modd, mae stori'r Nadolig ar gyfer pawb! Waeth pwy wyt ti, beth rwyt ti wedi'i wneud, pa iaith rwyt ti ei siarad, pa wlad a diwylliant rwyt ti 'n dod ohoni, mae gan stori'r Nadolig y pŵer i drawsnewid unrhyw un a phawb, i wneud bywydau'n llawer mwy rhyfeddol, ystyrlon, boddhaol, a llawn llawenydd. Pam? Oherwydd mai dyma stori sut y daeth Iesu, Mab Duw sy'n bopeth a thrwy bwy mae popeth yn dal at ei gilydd ac yn bodoli (Ioan 1:3; Colosiaid 1:17), i achub pawb (Ioan 3:16, 36, 6:40, 11:25).

Dros 700 mlynedd cyn iddo gael ei eni, rhagfynegodd y proffwyd Eseia am ei ddyfodiad—dyfodiad y Meseia, yr Had addawedig a fyddai'n malu pen y sarff a thrwy bwy y byddai holl genhedloedd y byd yn cael eu bendithio— I’r bobl o Israel, cafodd Eseia ddarlun hyfryd, rhagwelediad o ddirnadaeth proffwydol, ble cafodd weld nad ydy gobaith a dyfodol dyn yn dibynnu arno'i hun, ond yn y Mab a fyddai'n cael ei roi —a fel un y cael ei gynnig gan y Tad fel pridwerth dros lawer (Eseia 53). Y Plentyn hwn yw popeth sydd ei angen arnon ni, popeth a ddymunwn ni, a phopeth y gallen ni erioed obeithio amdano.

Sut felly? Mae Eseia yn ei ddadansoddi:

Cynghorydd Rhyfeddol

Oddi wrtho ef y daw pob doethineb! Dywed Diarhebion 2:6–7 (Beibl.net), “Achos yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb; beth mae e'n ddweud sy'n rhoi gwybodaeth a deall. Mae'n rhoi llwyddiant i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn – ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy'n byw yn onest”. Ef yw ein ffynhonnell ar gyfer pob doethineb a dealltwriaeth. Mae'n ein harwain i lwybrau cywir ac yn ein dysgu ni sut i fyw bywyd o ystyr a chyflawniad. Mae'n ein hadnabod ni yn well nag y dŷn ni’n ein hadnabod ein hunain, ac mae'n ein deall ni! Ar ôl byw'n gwbl ddynol, mae'n gwybod sut beth yw cerdded yn ein hesgidiau ni. Mae Hebreaid 4:15 (b

eibl.net) yn ein hatgoffa ni, “Ac mae'n Archoffeiriad sy'n deall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae wedi cael ei demtio yn union yr un fath â ni, ond heb bechu o gwbl”.

Duw Cadarn

“Fe sydd biau’r grym i gyd, am byth!” (1 Pedr 5:11). Cryfder, pŵer, dewrder, dyfalbarhad . . . mae’r cyfan yn dod oddi wrtho e. Ac mae’r Gair yn ein hatgoffa ni’n gyson fod ei bŵer ar gael i bawb sy’n edrych ato! Mae Salm 46:1 (beibl.net) yn datgan, “Mae Duw yn ein cadw ni'n saff ac yn rhoi nerth i ni. Mae e bob amser yna i'n helpu pan mae trafferthion”. Tra bod Philipiaid 4:13 (beibl.net) yn ein hatgoffa, “Dw i'n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi'r nerth i mi wneud hynny. Mae Crist yn rhoi’r nerth i mi wynebu unrhyw beth.” Yn 2 Corinthiaid 12:9 (beibl.net), mae’n ein sicrhau, gan ddweud, “Mae fy haelioni i'n hen ddigon i ti. Mae fy nerth i'n gweithio orau mewn gwendid.”

Tad Tragwyddol

Mae ein Hiachawdwr yn un â'r Tad. Fe yw'r ffordd at y Tad. Yn Ioan 14:9 (beibl.net), datganodd, “Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad”. Mae Hebreaid 1:3 (beibl.net) yn ei ddisgrifio mor huawdl fel hyn: “Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e'n dangos i ni'n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy'n dal popeth yn y bydysawd gyda'i gilydd!” Mae'n mynd o'ch blaen chi, ffrindiau, a bydd bob amser gyda chi. Fe yw Tad yr holl gredinwyr (Ioan 8:58), arloeswr a pherffeithydd ein ffydd.

Tywysog Heddwch

Daeth Iesu er mwyn i ni gael ein gwneud yn iawn gyda Duw. Daeth e i'n cymodi ni â'r Tad trwy bontio'r bwlch a thalu'r pris am ein pechodau. A chyn dychwelyd i'r nefoedd dwedodd e “Heddwch – dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi” (Ioan 14:27 beibl.net). Mae gan ei heddwch, sy'n rhagori ar ddeall, y pŵer i'n gwarchod, i roi gobaith, sicrwydd a gorffwys inni. Mae'n ein gwahodd ni i ddod ato fe am orffwys, i “Rhowch y pethau dych chi'n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e'n gofalu amdanoch chi.” (1 Pedr 5:7 beibl.net).

Gyfeillion, does dim un peth sydd ei angen arnoch chi, nac yr hoffech chi ei gael nad yw Crist Iesu yn ei gynnig. Does dim un peth da a hardd yn yr holl dragwyddoldeb nad yw perthynas ag Iesu yn ei ddarparu i bawb. Mae ei bŵer, ei ddoethineb, ei heddwch, ei gariad, ei ras, ei dosturi, ei garedigrwydd, ei drugaredd a'i nerth ar gyfer pob un ohonon ni. Maen nhw ar gael i bawb a fyddai'n ei dderbyn nhw. Pob addewid, pob bendith, pob rhodd dda a pherffaith . . . mae'r cyfan i chi!

pechod

Am y Cynllun hwn

Noel: Christmas Is For Everyone

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!

More

Hoffem ddiolch i Calvary Chapel Ft. Lauderdale am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://CalvaryFTL.org