Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Noel: Christmas Is For Everyone

DYDD 1 O 12

O mor hyfryd yw'r Enw

gan Danny Saavedra

"Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o'r dechrau cyntaf un. Drwyddo y crëwyd popeth sy'n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e." - Ioan, pennod 1, adnodau 1 i 3 (beibl.net)

Beth yw'r peth cyntaf wyt ti'n ei ddysgu am rywun wrth eu cwrdd am y tro cyntaf? Eu henw! Pam? Oherwydd mae enwau yn ein helpu i gofio pobl, i'w hadnabod, i wybod pwy dŷn ni'n siarad â neu sôn amdanyn nhw.

Ar un adeg, roedd ystyr i enwau. Y dyddiau hyn mae pobl yn tueddu i enwi eu plant ar sail enw maen nhw'n meddwl sy'n cŵl neu boblogaidd, heb edrych fawr ddim ar darddiad yr enw neu ei arwyddocâd diwylliannol ac etifeddiaeth. Yn yr hen amser roedd enwau'n cael eu rhoi am resymau sbesial. Enwyd Isaac ("un sy'n chwerthin") oherwydd bod Abraham a Sarai wedi chwerthin pan ddwedodd Duw wrthon nhw y bydden nhw'n cael plentyn yn eu henaint. Cafodd Jacob ei enw am ei fod wedi'i eni "cydio'n dynn yn sawdl Esau" (Genesis, pennod 25, adnod 26) beibl.net).

Roedd enwau'n y Beibl yn wirioneddol arwyddocaol oherwydd, yn aml, roedden nhw'n dweud rywbeth wrthon ni am y person. Mae hyn yn arbennig o wir am Dduw am fod ei enwau niferus o'r arwyddocâd mwyaf. O El Shaddai i Jehovah-Raah, mae pob enw am Dduw'n y Beibl yn datgelu rhywbeth amdano. Ac o holl enwau Duw'n y Beibl yr un mwyaf diddorol ac unigryw yw'r un roddir iddo yn Ioan, penood 1, adnod 1 (beibl.net): "Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf..."

Y gair Groeg a welwn yma am y Gair yw logos. Mae'r cysyniad o logos yn syniad pwerus, cymhleth a hardd. Y ffordd symlaf o esbonio'r athroniaeth Groegaidd yw mai logos yw'r hyn sy'n rhesymegol o ganlyniad i rywbeth. Yn ei hanfod mae'r term yn disgrifio casgliad o bethau sydd wedi'u rhoi at ei gilydd mewn syniad a'u mynegi mewn geiriau. Mae'n cael ei ystyried fel y rheswm cyffredinol sy'n gynhenid ym mhob peth; y deddfau sy'n clymu a chynnal popeth sy'n bodoli .

Yn niwylliant Hebraeg, mae’r syniad hwn yn cyfeirio at rym deinamig ewyllys Duw . Maen nhw'n aml yn defnyddio'r term memra —a gair sy'n deillio o'r gair Aramaeg am “siarad” - i ddisgrifio gweithgaredd creadigol Duw.

Mae'r dealltwriaeth o'r cysyniad hwn, yn ogystal â'r derminoleg ddefnyddir yn Ioan, pennod 1, adnod 1, yn ein cyfeirio nôl i hanes y Creu yn Genesis, pennod 1. Yno, dŷn ni'n gweld Duw'n siarad ac yna mae popeth yn dod i fodolaeth. Mae Hebreaid, pennod 11, adnod 3 (beibl.net) yn esbonio hyn ymhellach drwy ddweud, "Ffydd sy'n ein galluogi ni i ddeall mai'r ffordd y cafodd y bydysawd ei osod mewn trefn oedd drwy i Dduw roi gorchymyn i'r peth ddigwydd. A chafodd y pethau o'n cwmpas ni ddim eu gwneud allan o bethau oedd yno i'w gweld o'r blaen."

Felly, yn Ioan, pennod 1, adnod 1 (beibl.net) pan mae'n dweud, "Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair," mae'r apostol yn dweud wrthon ni mai Iesu Grist, Mab Duw, yw'r ymgorfforiad o Air Duw.Duw mewn cnawd yw e, yn ddelw (eikón: yn fynegiant o'r goruchaf, adlewyrchiad, a chynrychiolaeth) o'r duw anweledig (Colosiaid, pennod1, adnod 15); yr un ddaeth â phopeth i fodolaeth adeg y creu (Genesis, pennod 1, adnodau 1 i 2, Salm 33,adnod 9. Hebreaid,m pennod 11, adnod 3). Ef yw cymeriad, calon, ewyllys, a meddwl Duw sydd wedi'i ddatgelu i'r byd. Fel roedd y Groegiaid yn credu, drwyddo ef y cafodd popeth ei greu, ac yn bodoli. (Ioan, pennod 1, adnod 3), ef sy'n dal at ei gilydd y cwbl cafodd ei greu (Colosiaid, pennod 15, adnodau 15 i 17).

A wyddost ti beth? Mae Ioan, pennod 1, adnod 14 (beibl.net) yn dweud wrthon ni fod y Gair, yr un sy'n dal y bydysawd at ei gilydd ac y cafodd popeth yn y greadigaeth ei greu, wedi'i dod "yn berson o gig a gwaed; ...i fyw yn ein plith ni." Dyma bwrpas tymor y Nadolig. Daeth Duw yn ddyn. Fe'n carodd ni gymaint fel ei fod wedi gadael y nefoedd er mwyn agor y ffordd i'r nefoedd a threulio tragwyddoldeb yno gydag e! Dyma pam y gwelwn yr angel yn datgan i Joseff yn Mathew, pennod 1, adnod 23 (beibl.net), "Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni”). Anfonwyd Mab Duw atom i ddadlennu meddyliau a chalon ei Dad i ni - ei Air - yn y byd....ac i'n hachub. Dyma pam mae'r angel yn gorchymyn Joseff i'w alw yn Iesu (Yeshua - Iachawdwriaeth yw Duw) gan " mai fe fydd yn achub ei bobl o'u pechodau" (Mathew, pennod 1, adnod 21 beibl.net).

Wrth i ni baratoi i ddathlu'r Nadolig mewn ychydig ddyddiau, cofia fod Emaniwel, ein Iesu gwerthfawr, y Gair tragwyddol, ein Brenin a'n Gwaredwr, wedi dod i'r byd er mwyn i ni gael adnabod Duw yn ddwfn a phrofi ei bresenoldeb agos, fel ein bod yn gallu cael ein hachub. Fe ddaeth o'i wirfodd i roi i ni'r hawl yr "hawl i ddod yn blant Duw" (Ioan, pennod 1, adnod 12 beibl.net). Yfory fe wnawn ni ddysgu pam bod rhaid i Dduw ddod...

Am y Cynllun hwn

Noel: Christmas Is For Everyone

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!

More

Hoffem ddiolch i Calvary Chapel Ft. Lauderdale am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://CalvaryFTL.org