Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Noel: Christmas Is For Everyone

DYDD 9 O 12

Taith Joseff

Gan Danny Saavedra

"Wrth iddo ystyried hyn, ymddangosodd angel yr Arglwydd iddo mewn breuddwyd. 'Joseff, mab Dafydd,' meddai'r angel, 'paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai'r Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi. Bachgen fydd hi'n ei gael. Rwyt i roi'r enw Iesu iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o'u pechodau.”. . . Pan ddeffrodd Joseff, gwnaeth beth roedd angel Duw wedi'i ddweud wrtho. Priododd Mair.”—Mathew 1:20–21, 24 (beibl.net)

Wyt ti erioed wedi ymrwymo i rywbeth dim ond i ddarganfod ei fod yn fwy nag yr oeddet ti’n ei ddisgwyl, ac yn debyg i difaru prynu rhywbeth? Beth ydw i'n ei olygu? Wel, wyt ti erioed wedi prynu car yr oeddet ti'n meddwl ei fod mewn cyflwr da dim ond i ddarganfod ychydig fisoedd yn ddiweddarach bod angen rheiddiadur newydd arno a byddai'n costio ffortiwn i'w drwsio? Wyt ti erioed wedi cymryd swydd gyda disgrifiad swydd penodol dim ond i gael tasgau a chyfrifoldebau y tu allan i'th maes profiad heb godiad cyflog, teitl newydd, na gostyngiad mewn cyfrifoldebau eraill? Yn aml yn y cyfnodau hyn, dŷn ni'n meddwl,Dim dyma o’n i’n ddisgwyl!

Sut wyt ti'n meddwl bod Joseff wedi teimlo pan gafodd wybod bod ei ddarpar wraig, nad oedd wedi rhannu gwely priodasol â hi eto, yn feichiog? Sut wyt ti'n meddwl ei fod yn teimlo pan ddechreuodd hi wneud honiadau rhyfedd, amhosibl eu credu, ac ychydig yn wallgof am angel, cenhedlu dihalog, a'r Meseia? Honnodd ei bod wedi cael ei chenhedlu gan yr Ysbryd Glân, ond mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn bilsen anodd i Joseff ei llyncu. Mae'n debyg nad oedd yn ei chredu hi. A dweud y gwir, pwy fyddai? Gallaf ddychmygu bryd hynny y gallai fod yn difaru dyweddϊo â hi.

Beth fyddet ti wedi'i wneud ar y foment honno? I'r rhan fwyaf ohonom, pan fyddwn yn dod ar draws sefyllfa nad oeddem yn disgwyl bod ynddi, neu pan nad yw pethau'n mynd fel dŷn ni ei eisiau gyda chytundeb (gwasanaeth cebl unrhyw un?), bydden ni’n cwyno wrth wasanaeth cwsmeriaid, yn mynnu siarad â rheolwr, ac yn bygwth canslo ein cyfrif nes i ni gael yr hyn yr ydym ei eisiau. Yn sefyllfa benodol Joseff, byddai'r rhan fwyaf o bobl wedi cywilyddio Mair yn gyhoeddus. Efallai bod rhai hyd yn oed wedi dilyn canllawiau llawn y gyfraith a gorfodi Mair i gael ei llabyddio i farwolaeth. Ond nid oedd Joseff yr un fath â'r rhan fwyaf o bobl. . .

Er nad yw Joseff yn cael ei grybwyll llawer yn yr Efengylau, ac nad oes gennym lawer o wybodaeth am ei fywyd, dyma beth dŷn ni'n ei wybod: Roedd yn ddyn da a charedig (Mathew 1:19, beibl.net). Does fawr ddim ffigurau yn y Beibl yn cael eu disgrifio fel “dyn da.” Mae hyn yn rhoi Joseff mewn cwmni Beiblaidd gwirioneddol elitaidd ymhlith dynion fel Noa, Daniel, a Job. Yn Mathew 1:19 (beibl.net, pwyslais wedi'i ychwanegu), dywedir wrthym, “Roedd Joseff . . . yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a'i chyhuddo hi'n gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo'r briodas.” Dim cywilydd, dim marwolaeth; dewisodd benderfyniad tawel, tosturiol.

Ond yna daeth angel at Joseff mewn breuddwyd a dweud wrtho am gymryd Mair yn wraig iddo, oherwydd mai'r plentyn yn ei chroth oedd yr Achubwr mewn gwirionedd. Unwaith eto, gallai Joseff fod wedi dweud wrtho'i hun,**Dim dyma o’n i’n ddisgwyl.**Magu’r Achubwr? Dim ond saer coed ydw i. Dydw i ddim wedi fy ngwneud ar gyfer hyn. Mae hyn yn fwy nag o’n i’n ddisgwyl. Na, dydy hyn ddim i mi..Ond wnaeth e ddim hynny. Yn lle hynny, pan ddeffrodd, gwnaethbopeth wnaeth yr angel ei orchymyn..

Roedd Joseff yn wynebu sefyllfa anodd. Gofynnwyd iddo briodi menyw oedd yn feichiog cyn eu priodas a dioddefodd y feirniadaeth, y clecs a'r cywilydd a ddilynodd yn sicr. Dwyt ti ddim yn darllen am briodas a dathliad mawr i Mair a Joseff. Mae'n debygol iawn eu bod nhw wedi priodi yn erbyn dymuniadau'r ddau deulu. Ond fe ddioddefodd Joseff hyn yn ddewr a dangosodd ei ffyddlondeb i'r Arglwydd trwy fagu Iesu yn fab iddo'i hun. Roedd yn ufudd yn wyneb sefyllfa frawychus.

Yn ein bywydau, efallai y byddwn yn wynebu sefyllfaoedd anodd a all ein harwain i ddweud, Dim dyma o’n i’n ddisgwyl. Efallai y byddwn yn syrthio i wahanol dreialon, efallai y cawn ein galw i gyflawni gweledigaeth amhosibl, neu i gamu allan o'n parth cysur. Dyma’r peth: mae Duw yn aml yn rhoi mwy inni nag oedden ni’n ei ddisgwyl. Mae'n aml yn ein rhoi mewn sefyllfaoedd na allwn ni eu rheoli ar ein pennau ein hunain. Mae'n gwneud hyn fel y gallwn fod yn ffyddlon, yn ufudd, a dibynnu'n llwyr ar ei nerth, ei ddoethineb a'i gyfarwyddyd i'n harwain drwyddo.

Fel Joseff, gad inni ymrwymo i ufudd-dod a ffyddlondeb, waeth beth fo'r gost. A gad inni gofioyr hyn y gwnaethom ymrwymo iddo—i dderbyn gras Duw trwy ildio ein bywydau iddo e a dilyn ei Fab. A gad inni lynu’n gadarn wrth yr addewid bod ei ras yn ddigonol i ni; fod ei allu yn cael ei berffeithio yn ein gwendid ni. . . yn enwedig yn yr adegau pan gawn ni fwy nag oedden ni’n ei ddisgwyl a mwy nag y gallwn ni ei drin ar ben ein hunain.

Am y Cynllun hwn

Noel: Christmas Is For Everyone

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!

More

Hoffem ddiolch i Calvary Chapel Ft. Lauderdale am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://CalvaryFTL.org