Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Abraham: Tad Ffydd
Gan Danny Saavedra
“Os dych chi'n perthyn i'r Meseia, dych chi'n blanti Abraham, a byddwch yn derbyn yr holl bethau mae Duw wedi'u haddo.”—Galatiaid 3:29 (beibl.net)
Fel wnaethon ni weld ddoe, creodd Duw fydysawd perffaith. Ar y chweched dydd, creodd blant iddo'i hun yn ddelw ohono'i hun i fod yn debyg iddo, gem i goroni ei greadigaeth. Yna aeth pethau o chwith yn ofnadwy wrth i Adda ac Efa wrthryfela yn erbyn Duw a dod â phechod a marwolaeth i'r byd. Ond nid dyma oedd diwedd y stori. Roedd gan Dduw gynllun. Iti ddeall, gyda dyfodiad marwolaeth, rhoddodd ein Duw rhyfeddol a thrugarog addewid bywyd hefyd.
Yn Genesis 3, eglurodd Duw sut y byddai'r cyfan yn digwydd: Byddai menywod yn profi poen wrth eni plant er mwyn dod â bywyd newydd i'r byd. . . ond byddai bywyd newydd yn dod. A byddai'r bywyd newydd hwnnw ryw ddydd yn cynhyrchu had a fyddai'n malu pen y sarff ddrygionus (Genesis 3:15). Ynglŷn â'r datguddiad hwn, ysgrifennodd John Gill, "Byddai'r Meseia, had amlwg y fenyw, yn malu pen yr hen sarff y diafol, hynny yw, yn ei ddinistrio . . . yn torri ac yn drysu ei holl gynlluniau, ac yn difetha ei holl weithredoedd, yn malu ei holl ymerodraeth, yn ei ddinistrio o'i awdurdod a'i sofraniaeth, ac yn enwedig o'i bŵer dros farwolaeth, a'i deyrnas dros gyrff ac eneidiau dynion; a chafodd hyn i gyd ei wneud gan Grist, pan ddaeth yn ymgnawdoledig i’.”
Heddiw, byddwn yn archwilio'r dyn o ffydd y dewisodd Duw i ddod â'r Had addawedig i fodolaeth drwyddo. Ei enw oedd Abraham, a adnabyddir yn annwyl fel tad ffydd. Ar hyn o bryd, efallai dy fod yn gofyn i’th hun, “Pam y dewisodd Duw Abraham?” “Beth oedd mor arbennig amdano?”
Cawn ein cyflwyno gyntaf i Abraham, disgynnydd i Sem, yn Genesis 12. Yma, mae Duw yn ei gyfarwyddo i bacio a gadael ei gartref a'i holl gysuron ar ôl, i ddadwreiddio ei deulu a theithio i wlad estron. Yn ddiddorol, ni ddywedwyd wrth Abraham pa wlad hyd yn oed. Dyma'r Duw yn dweud wrth Abram, am “fynd i ble dw i'n ei ddangos i ti” (Genesis 12:1 beibl.net). Ond ynghyd â’r alwad anferth hon daeth addewid: “Bydda i'n dy wneud di yn genedl fawr . . . Bendithir holl deuluoedd y ddaear trwot ti” (Genesis 12:2–3 NLT). “!A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”
Doedd e ddim oherwydd bod Abraham yn arbennig, yn dalentog, nac yn gyfiawn. Dewisodd Duw Abraham oherwydd ei fod yn gwybod y byddai Abraham yn ufuddhau. Ysgrifennodd John McArthur, "Cyn gynted ag y deallodd beth oedd Duw yn ei ddweud, dechreuodd bacio. Roedd yna ufudd-dod ar unwaith. Efallai y byddai wedi cymryd sawl diwrnod, neu hyd yn oed wythnosau neu fisoedd, i wneud y paratoadau terfynol ar gyfer y daith, ond yn ei feddwl roedd eisoes ar y ffordd. O hynny ymlaen, roedd popeth a wnaeth yn troi o amgylch ufuddhau i alwad Duw."
Mae Iago 2:23 (beibl.net, pwyslais wedi'i ychwanegu) yn dweud wrthym, “‘Daeth beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn wir: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.”Croes Cafodd ei alw'n ffrind Duw!” Yn 75 mlwydd oed, atebodd Abraham alwad Duw ac aeth allan gyda'i deulu. Y peth diddorol am addewid Duw o'i wneud yn genedl fawr a bendithio'r byd i gyd trwy epil Abraham oedd nad oedd gan Abraham a'i wraig Sara unrhyw epil. Sut fyddai Duw yn gwneud cenedl fawr allan o hen ŵr di-blant a'i wraig? Wel, roedd Abraham yn meddwl yr un peth! Felly, datgelodd Duw ei gynllun a dywedodd wrth Abraham y byddai’n cael plentyn, ac yn y pen draw y byddai ei ddisgynyddion yn fwy niferus na’r sêr! Wyddost ti beth? Er gwaethaf yr siawns, er gwaethaf y rhesymeg a'r amgylchiadau, credodd Abraham yn Nuw!Mae stori Abraham yn dysgu ein rôl ni yng nghynllun iachawdwriaeth Duw. Nid gwaith mohono, ond ffydd ac addoliad. Yn Genesis 12, derbyniodd Abraham yr addewid trwy ffydd, ac yn syth ar ôl hynny adeiladodd allor, lle addoliad. Pam? Oherwydd ei fod yn deall yn glir iawn nad oedd ei hawl i fod yno gyda Duw na'r addewidion a wnaeth Duw iddo yn dibynnu ar bwy oedd ef na'r hyn a wnaeth, ond ar ffyddlondeb Duw.
Wrth i ti fynd trwy dy ddiwrnod heddiw, cofia fod pŵer mewn addoli Duw am bopeth ydyw a'r nerth y mae'n ei roi i ti. Fel y gwelwn gydag Abraham, nid yw'n ymwneud â'r hyn y gallwn ni ei wneud, ond yr hyn y mae e wedi'i wneud. Felly, creda yn ei addewidion a'i addoli, oherwydd "Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu. 27 Mae pob un ohonoch chi wedi uniaethu gyda'r Meseia drwy eich bedydd – mae'r un fath â'ch bod wedi gwisgo'r Meseia amdanoch. . . . Os dych chi'n perthyn i'r Meseia, dych chi'n blant i Abraham, a byddwch yn derbyn yr holl bethau da mae Duw wedi'u haddo." (Galatiaid 3:26-27, 29 beibl.net).
Am y Cynllun hwn

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!
More