Mae'r Nadolig ar gyfer PawbSampl

Pechod: Pam Fod y Nadolig i Bawb
Gan Danny Saavedra
“Y rhai sy'n credu sy'n cael perthynas iawn gyda Duw, am fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon. Mae'r un fath i bawb am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau'u hunain. Duw sy'n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i'n gollwng ni'n rhydd.—Rhufeiniaid 3:22–24 (beibl.net)
Bob blwyddyn dŷn ni’n dathlu'r Nadolig. Mae'n amser hardd, o lawenydd a newyddion da. Dŷn ni’n addurno coeden, yn hongian goleuadau, yn canu carolau hardd, ac yn rhoi anrhegion gwych. A phob blwyddyn dŷn ni Gristnogion yn hoffi atgoffa pawb mai “Iesu yw'rDuw rheswm am y tymor.” Ond pa mor aml ydyn ni wir yn eistedd ac yn myfyrio ar pam Ef yw'r rheswm am y tymor. Pam mae tymor o gwbl? Pam y gadawodd Iesu’r nefoedd i ddod i’r Ddaear?
Yr ateb byr? Ein pechod. Iti ddeall, mae’r Arglwydd yn ein caru ni gymaint. Dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun. (Genesis 1:27). Ni oedd trysor pennaf creadigaeth Duw, wedi’n gwneud i’w ogoneddu e a mwynhau perthynas berffaith yn ei bresenoldeb am byth fel ei blant annwyl. Dyma oedd ein tynged, yr hyn a wnaed i ni ei brofi . . . Dyna’r hyn a brofodd Adda ac Efa. Cerddon nhw gyda Duw, siaradon nhw â Duw, a wnaethon nhw fwynhau ei bresenoldeb. Cawson nhw fyw eu galwedigaeth a mwynhau ffrwythau’r Ardd (Genesis 2:15–16). Ond yna aeth popeth o’i le . . . pan ddigwyddodd y cwymp.
Gadawodd Adda ac Efa i’w balchder a’u cymhellion hunanol—eu hawydd i fod “fel Duw”—gymylu eu barn. Ac oherwydd eu bod nhw wedi caniatáu iddyn nhw eu hunain gael eu twyllo gan y sarff wnaethon nhw, a phob un ohonon ni, syrthio oddi wrth ras Duw. Yn y foment honno, mae Paul yn dweud wrthon ni, “Daeth pechod i'r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu” (Rhufeiniaid 5:12, beibl.net). Y peth gwaethaf yw bod yr union beth yr oedden nhw’n ei geisio, sef bod fel Duw, eisoes ganddyn nhw. Roedden nhw’n dwyn ei ddelwedd a’i debygrwydd ac roedd ei argraff ar eu calonnau a’u heneidiau.
Yn Sin and Redemption, mae John Garnier yn datgan, “Felly mae pechod yn cynhyrchu dieithrwch a gelyniaeth tuag at Dduw, neu, mewn geiriau eraill, gwahaniad moesol rhwng y pechadur a Duw, sef marwolaeth ysbrydol; a’r gwrthwyneb i hyn yw cael eich bywiogi, neu gael bywyd, sef, cael eich cymodi â Duw.” Heintiodd pechod Adda ac Efa eu holl blant, pob un person yn hanes dynolryw. Achosodd rwyg, gwahaniad rhyngon ni a Duw sanctaidd a pherffaith. Mae pob plentyn sydd wedi'i ei eni ers hynny wedi cael ei eni yn farw yn ysbrydol, wedi’i wahanu oddi wrth Dduw—ac eithrio'r Un. Felly, os cawn ni ein geni'n farw'n ysbrydol, unwaith y bydd marwolaeth gorfforol wedi digwydd, mae'n dod yn farwolaeth barhaol heb unrhyw gyfle i gymodi.
Yn Rhufeiniaid 6:23 (beibl.net), dweud Paul, " Marwolaeth ydy'r cyflog mae pechod yn ei dalu". Daeth y pechod yng Ngardd Eden â marwolaeth ysbrydol ar unwaith ar yr holl ddynoliaeth, a'r ddyled derfynol am bechod rhywun yw'r farwolaeth gyflawn sy'n digwydd ar ôl marwolaeth gorfforol, felly, er mwyn talu dyled pechod (sef marwolaeth), roedd angen i rywbeth (neu rywun) arall farw yn lle'r pechadur. Am y rheswm hwn, daeth yr aberth yn angenrheidiol er mwyn talu am ddyled pechod. Pam? Oherwydd mai cost ein pechod yw marwolaeth ""a bod maddeuant ddim yn bosib heb i waed gael ei dywallt" (Hebreaid 9:22 beibl.net).
Gallwn ni weld yr enghraifft gyntaf o hyn yn syth ar ôl y cwymp. Yn Genesis 3:21 (beible.net), Dwedodd e, "Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud dillad o grwyn anifeiliaid i Adda a'i wraig eu gwisgo." Wel, er mwyn i Dduw ddilladu Adda ac Efa a chymryd eu cywilydd i ffwrdd, roedd yn rhaid iddo ladd anifail, i dywallt ei waed. Ond dyma'r peth, "Mae'n amhosib i waed teirw a geifr gael gwared â phechod." (Hebreaid 10:4 beibl.net). Doedd hi ddim yn ddigon o gwbl. A dyma sy'n gwneud stori'r Nadolig mor bwerus!
Mae stori'r Nadolig yn ymwneud â'r foment y daeth cynllun gogoneddus Duw yn realiti. Sut? “Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol." (Ioan 3:16 beibl.net). Dwedodd Iesu, Mab perffaith Duw, "Dyma fi . . ." (Hebreaid 10:7 beibl.net) ac "Yn union beth oedd ein Duw a'n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni" (Galatiaid 1:4 beibl.net). Talodd gyflog ein pechodau, unwaith ac am byth, er mwyn rhoi rhodd Duw inni, sef “bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia (Rhufeiniaid 6:23 beibl.net). Oherwydd Iesu, gallwn ni ogoneddu a mwynhau Duw hyd yn oed yn fwy agos nag y gallai Adda ac Efa erioed. Dim yn unig y cawn ni gerdded gyda Duw, ond mae gennyn ni’r Ysbryd Duw I mewn ynon ni
Am y Cynllun hwn

Dros y 12 diwrnod nesaf dŷn ni'n mynd i fynd ar daith trwy stori'r Nadolig a darganfod, nid yn unig pam mai hon yw'r stori fwyaf gafodd ei hadrodd erioed, ond hefyd sut mae'r Nadolig yn wirioneddol ar gyfer pawb!
More