Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith y NadoligSampl

The Hope Of Christmas

DYDD 10 O 10

Newyddion y Nadolig



Darllena 1 Timotheus, pennod 2, adnod 5



Mae’r holl Nadolig yn ymwneud â newyddion da. Ond nid newyddion da am anrhegion arbennig yw e. Nid newyddion da am bryd arbennig yw e. Nid hyd yn oed newyddion da am dreulio amser gyda theulu a ffrindiau yw e.



Newyddion Da am gariad duw yw’r Nadolig.



Mae’r Beibl yn dweud ein bod ar goll heb Dduw. Dŷn ni’n ddi-gyfeiriad. Does gennym ddim amddiffyniad. Mae ein heffaith dragwyddol bosibl ar y byd heb ei gwireddu. Dŷn ni heb lawenydd go iawn. Nid yw ein tragwyddoldeb yn y Nefoedd yn ddiogel.



Y Newyddion Da am y Nadolig yw bod Duw wedi anfon Iesu i ddod o hyd i ac achub y colledig. Mae’r Beibl yn dweud, “Mae am iddyn nhw ddeall mai un Duw sydd, ac mai dim ond un person sy'n gallu pontio'r gagendor rhwng Duw a phobl. Iesu y Meseia ydy hwnnw, ac roedd e'n ddyn” (1 Timotheus, pennod 2, adnod 5 beibl.net).



Os wyt ti wedi treulio amser yn yr eglwys rwyt ti’n debygol o fod wedi clywed y Gair “iachawdwriaeth” sawl gwaith. Ond falle nad wyt ti’n deall beth yw ei ystyr. Mae’r gair fel diemwnt, rwyt yn gallu edrych arno o sawl cyfeiriad.



• Daeth Iesu i’n hachub. Dŷn ni ddim yn gallu datrys rin holl broblemau ein hunain. Heb Iesu dŷn ni’n trapio yn nisgwyliadau eraill. Dŷn ni wedi ein trapio’n byw am gymeradwyaeth rin cyfoedion. Dŷn ni wedi ein trapio gan ddibyniaethau. Dŷn ni wedi trio newid dro ôl tro, ond does gynnon ni mo’r pŵer i ddianc. Daeth Iesu i roi i ni’r pŵer hwnnw.



• Daeth Iesu i’n hadfer. Dŷn ni i gyd yn hiraethu i adfer rhannau o’n bywyd sydd wedi’u colli. Heb Grist, dŷn ni’n hiraethu i adfer ein nerth, ein hyder, ein henw da, ein diniweidrwydd, a’n perthynas â Duw. Dim ond Iesu all wneud hynny.



• Daeth Iesu i’n hailgysylltu. Mae llawer o bobl yn meddwl y bydd Duw’n eu cosbi os down nhw nôl ato. Ond dydy Duw ddim yn flin hefo ti. Mae e’n ysu i’th gal nôl. Daeth Iesu i’r byd ar y Nadolig cyntaf i’n ailgymodi â Duw, a rho i ni harmoni af e o’r newydd.



Daeth Iesu i’w roi ei hun yn rodd i ni. Mae llawer gormod ohonom yn dathlu ei benblwydd heb ei rodd rhad ac am ddim o iachawdwriaeth. Blwyddyn ar ôl blwyddyn dydy e ddim yn cael ei agor. Dydy hynny ddim o unrhyw fudd! Cefaist dy wneud gan Dduw ac er mwyn Duw. Nes y byddi’n deall hynny, fydd bywyd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr.



Y Nadolig hwn, agora’r rhodd pwysicaf rwyt wedi’i gael erioed: perthynas newydd gyda Duw drwy Iesu.
Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

The Hope Of Christmas

I lawer o bobl mae'r Nadolig wedi troi'n restr maith o bethau i'w cyflawni sy'n eu gadael yn flinedig ac yn hiraethu am Rhagfyr 26. yn y gyfres hon o negeseuon, mae Parchedig Rick am i chi gofio'r rheswm am ddathlu'r Nad...

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd