Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith y NadoligSampl

The Hope Of Christmas

DYDD 8 O 10

Dewisa’r Bywyd Gwell



Darllena adnodau heddiw.



Pan o’n i’n blentyn, roedd mam yn rhoi sbageti i mi. O’n i’n meddwl mai hen oedd y bwyd gorau bosib! Ond yna darganfyddais byrgyrs. Es i o fywyd da i fywyd gwell. Roedd y sbageti’n dda ond mae byrgyr blasus yn gymaint gwell.



Falle dy fod yn meddwl bod gen ti fywyd da nawr, ond tase modd i ti gael bywyd gwell oni fyddet ti eisiau gwybod amdano?



Yn anffodus, yr hyn sy’n ein cadw rhag dal gafael o’r bywyd gwell hwnnw yw synnwyr afresymol o hunangynhaliaeth. Dŷn ni’n meddwl ein bod ni’n gwneud yn iawn ar ben ein hunain.



Mae Salm 10, adnod 4 yn gosod y peth fel hyn: “Mae'r un drwg mor falch, yn swancio ac yn dweud wrth ddirmygu'r ARGLWYDD: “Dydy e ddim yn galw neb i gyfri; Dydy Duw ddim yn bodoli!”.” (beibl.net).



Yn union fel gŵr y llety yn y Stori Nadolig cyntaf (Luc, pennod 2), dŷn ni’n meddwl nad oes arnon ni angen mwy o westeion. Dŷn ni’n meddwl fod gennym bopeth dŷn ni ei angen.



Dim ond un peth sydd o’i le ar y balchder hynny: Rwyt wedi camddeall yr union reswm pam wnaeth Duw dy greu di. Fe wnaeth Duw dy wneud fel dy fod yn gallu cael perthynas ag e. Wnei di fyth gyflawni ei bwrpas ar gyfer dy fywyd, sydd yn llawer mwy mawreddog a mwy arwyddocaol na elli di fyth ei ddychmygu, heblaw dy fod wedi’th gysylltu i Dduw, ffynhonnell dy bŵer go iawn.



Ond y newyddion da ydy nad yw hi fyth yn rhy hwyr. Gelli di gael perthynas gydag be, er gwaethaf beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, na’r nifer o weithiau rwyt wedi’i wrthod yn y gorffennol.



Fe wnaeth y peth mor syml fel bod unrhyw un yn gallu ei ddeall. Dim ond pedwar gair yw e: Gwahodda e i mewn.



Dwedodd Iesu, “Edrych! Dw i yma! Dw i'n sefyll wrth y drws ac yn curo. Os bydd rhywun yn fy nghlywed i'n galw ac yn dod i agor y drws, dof i mewn i rannu pryd o fwyd gyda nhw” (Datguddiad, pennod 3, adnod 20).



Mae Iesu’n curo wrth y drws. Cymer y cam am fywyd gwell drwy’i adael i mewn i’th fywyd. Gwna ef yn feistr ar dy fywyd.



Bydd yn newid popeth.
Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

The Hope Of Christmas

I lawer o bobl mae'r Nadolig wedi troi'n restr maith o bethau i'w cyflawni sy'n eu gadael yn flinedig ac yn hiraethu am Rhagfyr 26. yn y gyfres hon o negeseuon, mae Parchedig Rick am i chi gofio'r rheswm am ddathlu'r Nad...

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd