Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith y NadoligSampl

The Hope Of Christmas

DYDD 9 O 10

Yr ystyr o fod ar goll



Darllena adnodau heddiw.



Os nad wyt ti’n deall beth yw pwrpas y Nadolig, waeth i ti anghofio am y goleuadau ac addurniadau Nadolig eleni. Waeth i ti anghofio am brynu anrhegion. Waeth i ti anghofio am ginio Nadolig.



Os nad wyt ti’n gwybod pam dŷn ni’n dathlu’r Nadolig, mae’r holl ddathliadau’n ddibwrpas.



I ddarganfod pwrpas y Nadolig mae’n rhaid i ti ruthro ymlaen tu hwnt i’r cafn bwydo anifeiliaid, y gwŷr doeth, a’r bugeiliaid. Dwedodd Iesu wrthym y rheswm ddaeth e i’r byd ar y Nadolig cyntaf: “Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, i'w hachub nhw” (Luc, pennod 19, adnod 10 beibl.net).



Yn syml, fe ddaeth Iesu am fod pobl ar goll heb Dduw. Mae bod ar goll yn ysbrydol yn golygu wedi’th wahanu oddi wrth Dduw, dy ddatgysylltu, a phethau ddim yn gweithio’n iawn. Heb Iesu, mae pawb yn y byd ar goll – waeth faint o bŵer cyfoeth neu enwogrwydd sydd ganddyn nhw.



Ac mae i’n colledigaeth oblygiadau aruthrol ar ein bywydau. I wybod pam y daeth Iesu i'r Ddaear, mae'n rhaid i ni ddeall beth mae'n ei olygu i fod ar goll. Heb Dduw, dŷn ni wedi colli:



• Ein cyfeiriad. Dŷn ni’n sicr heb fawr o ddealltwriaeth o ble dylen ni fynd a beth ddylen ni ei wneud yn y bywyd hwn.

• Ei amddiffyniad. Dŷn ni ar ein pen ein hunain pan nad ydyn ni o dan amddiffyniad yr Arglwydd. Mae hynny’n reswm anferth pam fod cymaint o bobl yn dan straen. Maen nhw’n ceisio bwy o dan eu hamddiffynaid eu hunain, yn lle Duw.

• Ein potensial. Fyddwn ni fyth yn gwybod am hanner y doniau sydd gynnon ni heb ein bod mewn perthynas ag e.

• Ein hapusrwydd. Gallwn fod yn gennym arian a phŵer tu hwnt i bopeth yn y byd, ond heb Dduw fydd gynnon ni fyth lawenydd go iawn.

• Ein cartref yn y nefoedd. Mae Duw’n caniatáu i ni wrthryfela tra dŷn ni yma ar y ddaear, ond does dim gwrthryfela yn y nefoedd.



Ond does neb sydd ar goll wedi colli un owns o werth yng ngolwg Duw. Hyd yn oed os nad oes gen ti berthynas ag e, rwyt o werth aruthrol i Dduw. Mae bod ar goll yn awgrymu gwerth. Mae beth bynnag mae rhywun yn barod i'w wario i ddod o hyd i rhywbeth sydd ar goll yn dangos pa mor werthfawr yw'r eitem honno.



Yn yr adnod bwysicaf yn y Beibl mae Iesu’n esbonio ein gwerth yn berffaith glir: " Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol” (Ioan, pennod 3, adnod 16).



Y Newyddion Da ydy fod Duw wedi ein caru ni gymaint fel ei fod wedi anfon ei Fab i’r byd ar y Nadolig cyntaf i ddod o hyd i ni a’n hachub. Dyna reswm i ddathlu!
Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

The Hope Of Christmas

I lawer o bobl mae'r Nadolig wedi troi'n restr maith o bethau i'w cyflawni sy'n eu gadael yn flinedig ac yn hiraethu am Rhagfyr 26. yn y gyfres hon o negeseuon, mae Parchedig Rick am i chi gofio'r rheswm am ddathlu'r Nad...

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd