Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith y NadoligSampl

The Hope Of Christmas

DYDD 3 O 10

Rhestr Nadolig Iesu



Darllena adnodau heddiw.



Am fwy na 50 mlynedd mae fy nheulu i wedi cadw traddodiad o gynnal parti penblwydd i Iesu. Dechreuodd hyn pan o’n i’n dair oed a gofynnais i mam, “Beth yw’r Nadolig?” Dwedodd mam wrtho i mai penblwydd Iesu oedd e Gyda rhesymeg gwych plentyn 3 mlwydd oed, dywedais, “Ddylen ni gael parti!” Ac fe wnaethon ni, gyda chacen penblwydd, hufen iâ, caneuon, cacennau a chanhwyllau.



Dŷn ni wedi cadw’r traddodiad yna’n mynd am bedair cenhedlaeth nawr. Mae parti penblwydd Iesu wedi dod yn amser sanctaidd ble dŷn ni’n darllen hanes stori’r Nadolig a rhannu’r hyn dŷn ni’n ddiolchgar amdano a beth dŷn ni’n ei roi i Iesu, sydd yn un o’r pethau mwyaf cofiadwy am y dathliad.



Yn aml, mae Iesu’n cael ei gau allan o Nadolig. Dychmyga fy mod wedi trefnu parti ar dy gyfer, a gwahodd lot o bobl. Mae pawb yn dod â lot o anrhegion, ac yn eu ffeirio â’i gilydd - a dwyt ti ddim yn cael dim byd.



Dyna yw’r Nadolig. Dŷn ni’n rhoi anrhegion i bawb ond Iesu. Ond gad i ni fod yn onest – beth wyt ti’n roi i Dduw mae popeth ganddo?



Mewn gwirionedd, nid oes gan Iesu bopeth. Mae pedwar peth ysdd ddim ganddo oni bai dy fod yn eu rhoi iddo y Nadolig hwn.



Rho iddo dy dryst. Mae ffydd yn fater gwirfoddol. Dydy dy dryst ddim gan Iesu oni bai dy fod yn ei roi iddo. Fydd e byth yn dy orfodi.



Gwna Iesu’n flaenoriaeth yn dy fywyd. Os yw unrhyw beth neu unrhyw un heblaw am Iesu’n flaenoriaeth yn dy fywyd, yna, mae’n eilun. Y Nadolig hwn, dewisa wneud Iesu yn flaenoriaeth o ran arian, diddordebau, perthnasoedd, amserlen – a hyd yn oed dy drafferthion.



Rho dy galon i Iesu. Rwyt yn caru dy galon, yn ei gwerthfawrogi, a’r hyn sydd bwysicaf i ti. Mae Iesu’n dweud, “Ble bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di” (Luc, pennod 12, adnod 34 beibl.net). Un ffordd bwysig o roi dy galon i Iesu yw drwy roi dy adnoddau ar gyfer ei waith. Does gan Iesu ddim angen dy arian, ond mae e eisiau yr hyn mae e’n ei gynrychioli – dy galon.



Tyrd â phobl eraill at Iesu. Mae Duw eisiau teulu, yn fwy na dim byd, y Nadolig hwn. N ae e eisiau plant sy’n dewis ei drystio e. Dyna’r rheswm dŷn ni’n dathlu’r Nadolig. Gwahodda rywun at Iesu y Nadolig hwn. Dweda wrth rywun beth mae Iesu wedi’i wneud yn dy fywyd.



Mae’r Beibl yn adrodd na wnaeth y Gwŷr Doeth roi eu sbarion i Iesu ar eu hymweliad adeg y Nadolig cyntaf ond yn hytrach rhoddwyd iddo dri rhodd arwyddocaol a gwerthfawr. “Pan aethon nhw i mewn i'r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda'i fam, Mair, a dyma nhw'n disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli. Yna dyma nhw'n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr” (Mathew, pennod 2, adnod 11 beibl.net).



Wrth i ti roi i Iesu dy dryst, a’i wneud yn flaenoriaeth yn dy fywyd, rhoi’r hyn sydd yn werthfawr i ti ar gyfer ei waith, a dod â phobl eraill ato, rwyt yn rhoi iddo roddion gymaint mwy gwerthfawr na’r rhai roddwyd gan y Gwŷr Doeth.



Felly, dweda wrth Iesu, “penblwydd hapus” y Nadolig hwn. Rho iddo dy orau.
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The Hope Of Christmas

I lawer o bobl mae'r Nadolig wedi troi'n restr maith o bethau i'w cyflawni sy'n eu gadael yn flinedig ac yn hiraethu am Rhagfyr 26. yn y gyfres hon o negeseuon, mae Parchedig Rick am i chi gofio'r rheswm am ddathlu'r Nad...

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd