Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith y NadoligSampl

The Hope Of Christmas

DYDD 4 O 10

Rhy brysur i Iesu?



Darllena Luc, pennod 2, adnod 7



Un flwyddyn pan oedd ein plant yn ifanc, penderfynodd fy ngwraig y baswn i’n cael dewis ble oedd y teulu’n mynd ar wyliau. Penderfynais i fy mod eisiau gwyliau ar hap heb unrhyw drefnu o gwbl. Fel gweinidog, ac arweinydd mae pob dydd o’m mywyd wedi’i drefnu. Doedd trefnu gwyliau ddim yn swnio fel hwyl!



Mae gwyliau ar hap pan yn briod a chyd phlant ddim yn syniad da. Heb wneud unrhyw drefniant ar y pum noson gyntaf o’r gwyliau, fe gysgon ni yn y car am bedair o’r nosweithiau hynny am na fedrwn ni ddod o hyd i le mewn gwesty. Doedd fy mhlant, i ddweud y lleiaf, ddim yn hapus. Ar y pumed noson fe benderfynon ni drefnu ymlaen llaw.



Helpodd y gwyliau hwnnw imi ddeall beth mae’r Beibl ei ddweud pam mae’n sôn am ddim lle yn y llety i Mair a Joseff ar y Nadolig cyntaf hwnnw.



Roedd dyfodiad Mab Duw i’r byd wedi’i ragweld am filoedd o flynyddoedd. Roedd proffwydoliaethau wedi rhagfynegi y byddai Gwaredwr y Byd yn dod. Byddai ei ddyfodiad mor bwysig fel y byddai’n rhannu hanes i Cc ac Oc. Mae dy benblwydd di wedi’i ddyddio yn ôl penblwydd Iesu.



Eto, pan ddaeth Mab Duw i’r byd, doedd dim lle iddo. Collodd gŵr y llety gyfle unigryw. Pe byddai Iesu wedi’i eni yn un o’i ystafelloedd, gallai gŵr y llety fod wedi adeiladu un o’r arwyddion mawr ‘na fel yn Las Vegas gyda saeth yn pwyntio i lawr a darllen, “Ganwyd Mab Duw yma!” Gallai fod wedi codi crog bris am ei stafelloedd! Yn lle hynny collodd fendith mwyaf ei fywyd am nad oedd ganddo ystafell i Iesu.



Allwn ni ddim bod yn rhy feirniadol o ŵr y llety am nad oedd ganddo le i Iesu. Dŷn ni’n gwneud hyn dro ar ôl tro.



Dŷn ni, oll, yn gwrthsefyll rhoi iddo’r pwysigrwydd yn ein bywydau y mae e’n ei haeddu. Dŷn ni’n llenwi ein hamserlen gyda gweithgareddau sy’n ddibwys o’i gymharu a Iesu. Dŷn ni’n gwario ein harian ar y technoleg ddiweddara’ a does gynnon ni ddim i’w roi i waith Duw ar hyd a lled y byd. Dŷn ni treulio’n holl amser yn datblygu ein gyrfaoedd, ac eto does gynnon ni ddim amser i helpu eraill yn ein heglwys a’n cymuned.



Wrth i ti baratoi i ddathlu’r Nadolig eleni, gofynna i ti dy hun: A wyt ti wedi cadw lle i Iesu yn dy lety i Iesu?

Ysgrythur

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

The Hope Of Christmas

I lawer o bobl mae'r Nadolig wedi troi'n restr maith o bethau i'w cyflawni sy'n eu gadael yn flinedig ac yn hiraethu am Rhagfyr 26. yn y gyfres hon o negeseuon, mae Parchedig Rick am i chi gofio'r rheswm am ddathlu'r Nad...

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd