Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith y NadoligSampl

The Hope Of Christmas

DYDD 5 O 10

Paid â methu Iesu yn y gwaith



Darllena Ioan, pennod 4, adnod 10.



Y funud hon mae yna donfeddi teledu a radio o’th amgylch. Petasai gen ti dderbynnydd fe allet ti weld beth oedd ar y tonfeddi hynny. Ond, er na fedri di eu gweld, dydy hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw’n bodoli. Ti sydd heb diwnio mewn i’r donfedd.



Dyna fel oedd hi ar noson y Nadolig cyntaf. Heblaw am y ffaith fod yna lety yn Bethlehem gyda’ryfrifoldeb pennaf i ofalu am deithwyr, doedd yna ddim lle yn y llety henne i’r teulu oedd, does bosib, y teulu mwyaf arwyddocaol o blith y teithwyr, y noson.



Y Nafolig hwn paid methu paralel pwysig i’r stori hon i’n calonnau ni. Cafodd dy galon ei wneud i ddal Duw. Fe’th gwnaed gan Dduw ac i Dduw. Nes y byddi di’n deall hynny, fydd bywyd byth yn gwneud synnwyr. Yn anffodus, dŷn ni’n llenwi ein bywydau â pethau eraill. Dŷn ni’n gwahodd gwesteion eraill i mewn i’n cartrefi. Mae ein calonnau yn llawn o syniadau eraill, diddordebau, gwerthoedd, cariad at bethau ac ymrwymiadau.



Mae ein bywydau mor llawn fel nad ydyn n i’n ymwybodol fod Iesu yna o’n amgylch. Mae Duw yn troi fyny yn ein bywydau o hyd ac o hyd, yn darparu cyfleoedd, nad oedden ni fyth yn meddwl y bydden ni’n eu cael, ynghanol problemau nad wyddem ein bod yn mynd i’w cael. Ond, yn amlach na pheidio, dŷn ni ddim yn ei weld.



Digwyddodd hyn yn y Beibl, dro ar ôl tro. Byddai Iesu’n troi fyny a siarad i bobl fyddai ddim yn sylweddoli pwy oedd e. Yn efengyl Ioan, roedd Iesu yn eistedd wrth ffynnon pan ddaeth gwraig ato, yn chwilio am ddŵr. Wnaeth hi ddim adnabod Iesu. I ddweud y gwir aeth i ddadl grefyddol gyda Mab Duw! Yna, dwedodd Iesu, “Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i'w roi i ti, a phwy ydw i sy'n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai'n gofyn wedyn, a byddwn i'n rhoi dŵr bywiol i ti” (Ioan, pennod 4, adnod 10 beibl.net. Ond wnaeth y wraig ddim adnabod Iesu.



Mae Duw ar waith o’th amgylch. Nid dim ond yn ystod y Nadolig ond drwy’[r flwyddyn gyfan hefyd. A yw hi’n bosib dy fod di neu’r pobl rwyt ti’n ei garu yn ei fethu?

Ysgrythur

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

The Hope Of Christmas

I lawer o bobl mae'r Nadolig wedi troi'n restr maith o bethau i'w cyflawni sy'n eu gadael yn flinedig ac yn hiraethu am Rhagfyr 26. yn y gyfres hon o negeseuon, mae Parchedig Rick am i chi gofio'r rheswm am ddathlu'r Nad...

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd