Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith y NadoligSampl

The Hope Of Christmas

DYDD 6 O 10

Paid cau Iesu allan y Nadolig hwn



Darllena Luc, pennod 10, adnodau 41 i 42.



Rwyt ti a fi yn caru gorlenwi ein bywydau. Dŷn ni’n gorarchebu, gorwario, goramcanu, ac yn aml dŷn ni’n cerdded o amgylch yn flinedig drwy’r adeg. O ganlyniad dydy gwirionedd duw ddim yn cael cyfle i flodeuo yn ein bywydau.



Yn rhy aml mae Duw yn dysgu cnewyllyn o wirionedd i ti – falle drwy dy astudiaeth Beibl bob bore neu bregeth ar y Sul – a rwyt ti’n meddwl bod angen gwneud rywbeth am y peth, ond bron ar unwaith mae’n cael ei gau allan o’th fywyd a’i anghofio.



Dydy’r gwirionedd ddim wedi’i gau allan o’th fywyd oherwydd drwg. Yn aml iawn bydd mae yna bethau da yn ein bywydau yn cau allan y gwirionedd mae Duw eisiau ei blannu ynom. I gyflawni pwrpas Duw yn dy fywyd, does dim rhaid i ti fwy na thebyg gwneud mwy, rhaid i ti wneud llai.



Er enghraifft ystyria ffrindiau Iesu, Mair a Martha. Un diwrnod, cafodd Iesu wahoddiad ganddynt am swper. Treuliodd Mair y noson yn gwrando ar Iesu. Roedd Martha ar y llaw arall yn brysur yn paratoi a phoeni am y swper ac os oedd popeth yn ei le.



Roedd Martha wedi cynhyrfu ei bod yn gorfod gwneud y gwaith i gyd tra roedd ei chwaer yn eistedd gydag Iesu. Dyna pryd ddwedodd Iesu wrthi: “Martha annwyl...rwyt ti'n poeni ac yn cynhyrfu am y pethau yna i gyd, ond dim ond un peth sydd wir yn bwysig. Mae Mair wedi dewis y peth hwnnw, a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi arni hi” (Luc, pennod 10, adnodau 41 i 42 beibl.net).



Pan fydd dy fywyd ar ben, dim ond un peth fydd yn bwysig: Wnest ti ddod i adnabod Mab Duw? Fydd yr anrhegion ychwanegol lwyddest ti i brynu oherwydd yr oriau hir yn y swyddfa yn dda i ddim. Fydd yr holl amser wnest ti dreulio y pryd gwyliau yn dda i ddim ychwaith. Ond pa un ai os wnest ti dreulio dy amser yn dod i adnabod Iesu o bwys am yr oesoedd i ddod.



Felly, mwynha tymor y Nadolig. Lapia’r anrhegion. Paratoa dy gartref mewn ffordd Nadoligaidd. Crea atgofion gyda’th deulu. Ond paid gadael i’r Nadolig hwn fynd heibio heb dreulio peth amser wrth draed Iesu. Ymhell bell ar ôl i bopeth arall bylu o’r Nadolig hen, addoli Iesu yw'r cyfan a fydd yn para go iawn.

Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

The Hope Of Christmas

I lawer o bobl mae'r Nadolig wedi troi'n restr maith o bethau i'w cyflawni sy'n eu gadael yn flinedig ac yn hiraethu am Rhagfyr 26. yn y gyfres hon o negeseuon, mae Parchedig Rick am i chi gofio'r rheswm am ddathlu'r Nad...

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd