Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith y NadoligSampl

The Hope Of Christmas

DYDD 7 O 10

Dod i adnabod dy Greawdwr



Darllena adnodau heddiw.



Adeg hon o’r flwyddyn mae gan bob un ohonom dasgau pwysig i’w gwneud. Mae gynnon ni adroddiadau diwedd blwyddyn i’w sgwennu. Mae gynnon ni giniawau gwyliau i’w trefnu. Ac, wrth gwrs, mae gynnon ni angen prynu anrhegion.



Ond mae gennyt ti rywbeth llawer pwysicach i ffocysu arno y Nadolig hwn: datblygu perthynas bersonol a chynyddol gydag Iesu.



Pam ddylet ti ddod i adnabod Iesu yn well? Mae yna o leiaf dau reaswm pwysig:



I ddechrau, fe wnaeth Iesu dy wneud. Mae’r Beibl yn dweud, “Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o'r dechrau cyntaf un. Drwyddo y crëwyd popeth sy'n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e. Ynddo fe roedd bywyd, a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl (Ioan, pennod 4, adnodau 1 i 4 beibl.net).



Mae’r cyfle gen ti i, nid yn unig gwrdd â’r Creawdwr y bydysawd ond hefyd cwrdd dy Greawdwr. Rwyt wedi clywed pobl yn dweud, “os oes gen ti amheuaeth, tro at y llawlyfr.” Mae adnabod Iesu, hyd yn oed yn well.



Os wyt ti eisiau gwybod sut i gael y gorau o fywyd, beth well na dod i adnabod yr un â’th greodd di.



Yn ail, mae Duw yn agor dy galon i fwynhau bywyd o bwrpas, heddwch, a phŵer. Mae perthynas ag Iesu yn sicrhau dy le yn y nefoedd, ond mae’n gwneud mwy na hynny. Mae Duw’n addo bywyd o bwrpas, heddwch, a phŵer i bawb sy’n ei adnabod e.



Mae adnabod Iesu mewn ffordd bersonol yn newid popeth ynglŷn â sut wyt ti’n byw. Dim ond y dechrau o’r hyn mae Duw eisiau ei wneud yn dy fywyd yw pwrpas pŵer a heddwch.



Yn anffodus, mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw mewn ffordd bach a di-nod am eu bod wedi llenwi eu bywydau efo gweithgareddau diystyr.



Wrth i’r Nadolig nesáu eleni, meddylia am y gwesteiwr wnaeth dim paratoi lle i Iesu ar y Nadolig cyntaf. Wnaeth ei weithredoedd ddim rhwystro Iesu rhag cael ei eni. Wnaeth ei weithredoedd ddim stopio pwrpas Duw mewn hanes. Achosi i’r ŵr y llety golli allan wnaeth e. Collodd y cyfle i roi cartref i Fab Duw, adeg ei eni.



Mae’r un peth yn wir i ti. Os nad wyt ti’n cymryd yr amser i ddod i adnabod Iesu, rwyt ti’n colli’r cyfle i ddod i adnabod dy Greawdwr. Rwyt ti’n colli’r cyfle i gael pwrpas, heddwch a phŵer sy’n dod yn unig o adnabod Mab Duw. Rwyt yn colli ei bwrpas e i ti os mad wyt yn gwneud lle iddo yn dy fywyd.
Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

The Hope Of Christmas

I lawer o bobl mae'r Nadolig wedi troi'n restr maith o bethau i'w cyflawni sy'n eu gadael yn flinedig ac yn hiraethu am Rhagfyr 26. yn y gyfres hon o negeseuon, mae Parchedig Rick am i chi gofio'r rheswm am ddathlu'r Nad...

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd