Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith y NadoligSampl

The Hope Of Christmas

DYDD 1 O 10

Gair i Gall



Darllena'r adnodau ar gyfer heddiw.



Edrycha ar unrhyw olygfa o'r enedigaeth a rwyt ti'n debygol iawn o weld un criw o gymeriadau nad ydyn nhw i fod yn y sgubor: y Gwŷr Doeth.



Dŷn ni wedi arfer efo nhw, ond os wyt ti’n edrych yn agos Ar yr olygfa, maen nhw’n ymddangos allan o le gyda’u dillad crand ac anrhegion arbennig.



Ond i fi, nhw ydy’r pobl hynodaf yn Stori’r Nadolig. Dŷn ni’n gwybod fawr ddim amdanyn nhw. Dŷn ni ddim yn gwybod pwy ydyn nhw nac o ble maen nhw’n dod. Mae’r Beibl yn eu galw’n “wŷr doeth.” Roedd y gwŷr doeth yn gyfuniad o athronwyr, gwyddonwyr, a seryddwyr. Roedden nhw’n eithaf cyfoethog ac wedi’u haddysgu’n dda. Mewn gwirionedd, dyna’r cwbl wyddwn ni amdanyn nhw.



Ond dŷn ni’n gwybod eu bod yn ddoeth. I ddweud y gwir, gallwn ddysgu llawer o’r doethineb maen nhw’n ei ddangos yn Stori’r Nadolig.



Ymhlith gwersi eraill gan y gwŷr doeth dŷn ni’n dysgu i fod yn rai sy’n chwilio am y gwirionedd. Dydy pobl ddoeth ddim yn fodlon ar ddychmygu a dyfaliadau. Maen nhw eisiau gwybod y gwirionedd am Dduw, eu gorffennol a’u dyfodol. Gofynnodd y gwŷr doeth, “Ble mae’r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon?” (Mathew, pennod 2, adnod 2a beibl.net)



Roedd y gwŷr doeth yn chwilio am Iesu. Mae dynion a merched doeth yn dal i chwilio amdano heddiw.



Mae yna ddau fath o bobl mewn bywyd wrth pan mae gwirionedd dan ystyriaeth: dyfalwyr a chwilwyr. Mae dyfalwyr yn dychmygu beth yw’r gwirionedd. Mae dyfalwyr yn meddwl yn meddwl eu bod yn gwybod sut un yw Duw.



Mae dyfalwyr yn hoffi dadlau a thrafod am Dduw, ond dychmygu mae nhw am nad ydyn nhw eisiau gwybod y gwirionedd mewn gwirionedd. Dim ond siarad amdano maen nhw eisiau ei wneud.



Ar y llaw arall mae Duw’n caru’r rhai hynny sy’n cymryd amser i ffeindio’r gwirioemdd. Mae chwilwyr yn gwneud pedwar peth:



• Maen nhw’n gofyn cwestiynau

• Maen nhw’n astudio.

• Maen nhw’n gwylio beth sy’n digwydd o’u cwmpas

• Maen nhw’n gwneud popeth i ddarganfod y gwirionedd



Maen nhw’n chwilio am Iesu gyda’u holl egni. Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni, “Ond os gwnewch chi droi at yr ARGLWYDD yno, a hynny o ddifrif – â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid – byddwch yn dod o hyd iddo” (Deuteronomium, pennod, adnod 4, adnod 29 beibl.net).



Os wyt ti o ddifrif am ffeindio’r gwirionedd, fedri di ddim mo’i fethu.



Fydd Duw ddim gadael i ti.
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

The Hope Of Christmas

I lawer o bobl mae'r Nadolig wedi troi'n restr maith o bethau i'w cyflawni sy'n eu gadael yn flinedig ac yn hiraethu am Rhagfyr 26. yn y gyfres hon o negeseuon, mae Parchedig Rick am i chi gofio'r rheswm am ddathlu'r Nad...

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd