Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith y NadoligSampl

The Hope Of Christmas

DYDD 2 O 10

Mae Iesu yn werth y daith



Darllena Mathew, pennod 2, adnod 1.



Dydy chwilio am y gwirionedd ddim yn job rhan amser. Mae’n cymryd popeth sydd gen ti. Mae’r Gwŷr Doeth yn dysgu hyn i ni yn Stori’r Nadolig.



Roedd y Gwŷr Doeth yn fodlon mynd i’r eithaf i ddod o hyd i’r gwirionedd. Mae Mathew, pennod 2, adnod 1 yn dweud, “Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem... Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth Ref o wledydd y dwyrain i Jerwsalem...” (beibl.net). Gallwn dybio fod y Gwŷr Doeth wedi teithio gryn bellter o’r Dwyrain Pell i’r Dwyrain Canol ar gost aruthrol i ddod o hyd i Iesu.



Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem, sydd brin chwe milltir o Jerwsalem. Adeg geni Iesu roedd Jerwsalem yn ganolfan ysbrydol y byd. Roedd pob math o weithgaredd ysbrydol yn cymryd lle yn Jerwsalem. Roedd pob un o brif arweinwyr crefyddol y byd yn Jerwsalem, ond doedd ddim un ohonyn nhw’n chwilio am Iesu. Dim ond pobl ar y tu allan - y Doethion o ddiwylliant hollol wahanol - oedd yn chwilio am Iesu.



Fe wnaeth Herod fethu Iesu. Felly hefyd arweinwyr busnes Bethlehem. Rwyt tithau’n gallu cael Iesu reit yn dy ymyl ac eto ei fethu os nad wyt ti’n chwilio amdano.



Ond fe wnaeth y Gwŷr Doeth chwili am Iesu. Roedden nhw’n fodlon teithio am bedwar i bum mis ar draws anialwch crasboeth i ddod o hyd i Iesu. Roedden nhw o ddifrif ynglŷn â dod o hyd i Dduw. Roedden nhw’n fodlon gwneud unrhyw beth i ddod o hyd iddo.



Dyna ddoeth. Dyna beth dŷn ni angen ei wneud hefyd. Allwn i ddim gadael i ddim dorri ar draws ein chwilio am Dduw. Dyma’r peth pwysicaf y gallwn ei gyflawni yn hy byd.



Dwedodd fod Teyrnas Dduw fel perl sydd mor werthfawr fel ein bod yn fodlon gwerthu popeth sydd gynnon ni i’w gael. Maen edrych fel bod y Gwŷr Doeth o’r Dwyrain yn deall hyn ymhell bell cyn i Iesu adrodd y ddameg hon.



Roedd y Gwŷr Doeth yn fodlon colli popeth oedd ganddyn nhw i addoli Iesu. Roedden nhw’n fodlon colli moethusrwydd eu cartrefi ar gyfer taith galed hir am fod ganddyn nhw’r cymhelliad cywir i ddod o hyd i Iesu. Roedden nhw eisiau ei addoli.



Beth fyddet ti’n fodlon ei golli er mwyn addoli Iesu?

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

The Hope Of Christmas

I lawer o bobl mae'r Nadolig wedi troi'n restr maith o bethau i'w cyflawni sy'n eu gadael yn flinedig ac yn hiraethu am Rhagfyr 26. yn y gyfres hon o negeseuon, mae Parchedig Rick am i chi gofio'r rheswm am ddathlu'r Nad...

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd