YouVersion Logo
Search Icon

Bible Versions

Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol 2009

Welsh, Galés

Salmau Pwyntiedig

Cafodd y Salmau Cymraeg o’r Beibl Cymraeg Newydd – Argraffiad Diwygiedig (BCND) eu pwyntio ar gyfer addoliad litwrgaidd gan Gwynn ap Gwilym. Mae hyn yn cynnwys y 150 Salm, ynghyd â gosodiad amgen (Trefn arall) o Salm 87.

Hanes

Salmau Pwyntiedig yw Salmau sydd wedi’u fformatio gyda marciau neu symbolau i helpu cantorion i ganu neu siantio’r testun yn gywir, gan gynnal rhythm naturiol yr iaith.

Mae Siant Gregoraidd yn arfer hynafol lle roedd salmau’n cael eu canu’n draddodiadol gan gorau o ddynion a bechgyn mewn eglwysi, neu gan fenywod a dynion o urddau crefyddol yn eu capeli. Mae’n arfer a barhaodd yn y traddodiad Anglicanaidd. Defnyddir Salmau Pwyntiedig mewn lleoliadau litwrgaidd, fel yr Hwyrol Gân Anglicanaidd neu’r Gosber Catholig, lle mae’r salmau’n cael eu canu yn hytrach na’u llefaru.

Pwyntio

Mae’r marciau pwyntio yn tywys y cantorion i baru’r testun â’r alaw, trwy nodi ble mae newidiadau traw yn digwydd. Nodweddion Salmau Pwyntiedig:

Slaes (/) – yn dynodi newid mewn nodau cerddorol neu ble mae saib yn digwydd.

Seren (*) – yn dynodi saib bach, gan yn aml rannu adnod yn ddwy ar gyfer siantio cytbwys.

Dagr (†) – yn nodi saib ychwanegol dewisol ar gyfer anadlu.

Dot canol (·) – wedi’i osod oddi mewn i eiriau neu rhwng sillafau, i nodi ble y dylai’r traw newid wrth siantio a ble mae sillafau lluosog yn rhannu un bar cerddorol.

Slash (/) – indicates a change in musical notes or where a pause occurs.

Hawlfraint

Ysgrifennwyd Salmau Pwyntiedig y BCND gan Gwynn ap Gwilym. Argraffwyd y Salmau yn rhifyn 2009 o’r Llyfr Gweddi Cyffredin i’w arfer yn yr Eglwys yng Nghymru.

Fersiwn Digidol

Cafodd y Salmau Pwyntiedig eu digideiddio gan Gymdeithas y Beibl ar gais Gwynn ap Gwilym ar gyfer yr ap Beibl Cymraeg (ap Beibl).

---

Pointed Psalms

The Welsh Psalms (Y Salmau) from the Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig (BCND) were pointed for liturgical worship by Gwynn ap Gwilym. This includes the 150 Psalms, plus an alternative setting (Trefn arall) for Psalm 87.

History

Pointed Psalms are psalms which have been formatted with marks or symbols to help singers correctly sing or chant the text, whilst maintaining the natural rhythm of the language.

Gregorian chant is an ancient practice where psalms were traditionally sung by choirs of men and boys in churches, or by women and men of religious orders in their chapels. It is a custom which was continued in the Anglican tradition. Pointed psalms are used in liturgical settings, such as Anglican Evensong or Catholic Vespers, where the psalms are sung rather than spoken.

Pointing

The pointing marks guide the singers to match the text to the melody, by indicating where pitch changes occur. Features of Pointed Psalms:

Slash (/) – indicates a change in musical notes or where a pause occurs.

Asterisk (*) – signals a slight pause, often dividing a verse into two parts for balanced chanting.

Dagger (†) – marks an optional extra pause for breath.

Middle dot (·) – is placed within words or between syllables, to mark where the pitch should change when chanting and multiple syllables share a single musical bar.

Copyright

The BCND Psalms were pointed for use in the Church in Wales by Gwynn ap Gwilym. The Psalms were printed in the 2009 edition of the Book of Common Prayer for use in the Church in Wales (Y llyfr Gweddi Gyffredin i’w arfer yn Yr Eglwys yng Nghymru).

Digital Edition

The pointed psalms were digitised by the Bible Society at the request of Gwynn ap Gwilym for the Welsh Bible app (ap Beibl). 


British & Foreign Bible Society

SPBCND PUBLISHER

Learn More

Other Versions by British & Foreign Bible Society