YouVersion Logo
Search Icon

Salm 1

1
Siant sengl
1aGwyn ei / fyd y / sawl :
nad yw’n dilyn / cyngor / y dryg/ionus,
1bNac yn ymdroi hyd / ffordd · pecha/duriaid :
nac yn / eistedd · ar / sedd gwat/warwyr,
2Ond sy’n cael ei hyfrydwch yng / nghyfraith · yr / Arglwydd :
ac yn myfyrio yn ei / gyfraith · ef / ddydd a / nos.
3aY mae fel pren wedi ei blannu wrth / ffrydiau / dŵr :
ac / yn rhoi / ffrwyth · yn ei / dymor,
3bA’i ddeilen heb / fod yn / gwywo :
beth / bynnag · a / wna fe / lwydda.
4Nid felly y / bydd · y dryg/ionus :
ond fel us yn / cael ei / yrru · gan / wynt.
5Am hynny, ni saif y drygionus / yn y / farn :
na phechaduriaid yng / nghynu/lleidfa’r / cyfiawn.
6Y mae’r Arglwydd yn gwylio / ffordd y / cyfiawn :
ond y mae / ffordd · y dryg/ionus yn / darfod.

Currently Selected:

Salm 1: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in