Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y GolomenSampl

Y Golomen

DYDD 3 O 9

Dad-Greu

Er fy mod yn cyfaddef i mi geisio rhedeg ar ôl enfys neu ddwy yn fy mhlentyndod (Pwy nad oedd eisiau'r pot aur yna?), ni wnaeth unrhyw les i mi. Nawr, fodd bynnag, mae troi fy sylw at y rhyfeddod amryliw hwnnw, symbol y cyfamod Noaidd, yn gwneud llawer o les i mi.

Fel plant dysgon ni am yr anifeiliaid: 'i mewn i’r arch a nhw (ribidires, ribidires)'. Ar ôl Covid, mae gennym well gwerthfawrogiad o pa mor galed oedd y cyfnod clo ar y bad achub yna wedi bod; ac ar ôl ffilm Russel Crowe, efallai y byddai gennym rai cwestiynau wrth geisio gwirio'r stori go-iawn.

Y gwir amdani yw bod y stori fawr hon, sydd wedi tueddu i gael ei defnyddio yn yr Ysgol Sul, ac wedi ysbrydoli llawer o wersi, caneuon a gwaith celf, yn ymdrin â themâu anodd i oedolion aeddfed. Mae Duw yn gwneud pethau'n newydd, yn dodi pob peth yn iawn, ac mae’n delio â phechod ac yn delio allan farn fel rhan o'r fargen.

O'r Ardd, aeth pethau o chwith yn gyflym. O Eden hyd at Noa, bu cenedlaethau o lygredd: dilyniant o anufudd-dod a gwrthryfel yn llithro o ddrwg i waeth. Gwelwn gyflwr y ddynolryw erbyn hyn mor wael: yn dreisgar ac yn ddieflig, yn greulon ac yn wallus. Mae pethau mor ddrwg fel bod angen i Dduw ymyrryd fel y Barnwr.

Felly y mae y dyfroedd a oedd yn gynwysedig yn y greadigaeth yn cael eu rhyddhau, ffynhonnau y dyfnder mawr yn torri allan, a ffenestri'r nefoedd yn agor ar led, a glaw - llawer o law - yn disgyn. Bu farw popeth a oedd ag anadl, y ruach, yn ei ffroenau, pob un, hyny yw, nad oedd ar yr arch.

Fel mae’r diwinydd, John Goldingay yn crynhoi, ‘Roedd dod â’r llifogydd yn foment o ddad-gread, ond nid adawodd Duw ef yno: ‘Mae Duw nawr yn dechrau yr ail-greu.’

Roedd Duw wedi ymyrryd ac wedi cyflawni gweithred o dad-greu: llif o farn i arwain y byd yn ôl i -greadigaeth da. Ond nid oedd Duw wedi cefnu ar ei bobl. Er gwaethaf drygioni'r byd, roedd Duw yn cofio Noa. Anfonodd wynt, ruach – gair a gyfieithwyd fel ‘Ysbryd’ yn Genesis 1 – dros y dyfroedd, ac wrth i’r Ysbryd-wynt chwythu, cilio wnaeth y dyfroedd.

Dyfarniad drosodd, roedd yn amser i ail-greu.

Am y Cynllun hwn

Y Golomen

Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan gân o’r enw ‘The Dove’. Mae’n ystyried Ysgrythurau o bob rhan o’r Beibl, gan gyffwrdd ag Eden, Noa, Iesu a’r Pentecost. Wrth inni dreulio rhai dyddiau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, mae’r cynllun hwn yn rhoi rhywfaint o ddiwinyddiaeth o amgylch y Drindod, yn enwedig o ystyried gwaith Creadigol yr Ysbryd Glân, ac yn delio â themâu’r Farn, y Greadigaeth Newydd, pechod a gras. Os ydych chi'n barod am peth gig, dewch mynd amdani.

More

Hoffem ddiolch i Heulwen Davies Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.heulwendavies.co.uk