Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y GolomenSampl

Y Golomen

DYDD 5 O 9

Creawdwr yn yr Iorddonen

I'r rhai ohonom nad ydyn ni'n Iddewon hynafol, mae angen deall cyd-destun yr Hen Destament, a chadw hwnnw i gyd yn ein meddyliau, i ddeall beth sy'n digwydd y diwrnod y mae Iesu'n cyrraedd afon yr Iorddonen.

Dychmygwch fod yn Iddew o'r ganrif gyntaf, yn byw dan ormes y Rhufeiniaid. Maent yn byw mewn byd creulon a chostus, milain a chaled. Mae eu byd yn un brawychus, a ‘Gwlad yr Addewid’ yn perthyn i’r Gormeswr Paganaidd. Maent yn galw ar i'r Arglwydd symud, ac yn dal gafael yn y gobaith fod eu Duw yn mynd i weithredu, fod eu Duw yn mynd i barnu’r drwg sy’n eu gormesu. Disgwyl am y Meseia sy’n llenwi eu gobeithion. Maent yn teimlo'r angen am ddad-greu a ac ail-greu unwaith eto. Onid yw Rhufain cynddrwg a dyddiau Noa? Onid yw hyn yn cyfiawnhau ymyriad arall?

Felly, maen nhw wedi ymgynnull wrth yr Iorddonen ar y diwrnod addawol hwn. O, ni wyddent am Iesu; nid oeddent yn gwybod eu bod ar fin gweld hanes yn cael ei wneud. Ond maen nhw'n gwybod am Ioan ac maen nhw'n gwybod am ei bregethu ef.

Roedd y proffwydi bob amser wedi bod braidd yn od. Cerddodd Eseia o gwmpas yn noeth; coginiodd Eseciel fwyd dros garthion; wylodd Jeremeia… do, wylodd lawer. Felly roedd Ioan yn ffitio i mewn yn berffaith. Gan wisgo blew camel a bwyta locustiaid a mêl, roedd yntau yn ddigon od. Ond roedd ei bregethu — roedd hwnna yn rhywbeth arall.

Gallent deimlo rhywbeth yn yr awyrgylch, rhyw gynnwrf, rhyw hiraeth: y peth peryglus yna a alwent yn obaith. Ond ni allent gadw draw. Roedd yn rhy bwerus wrth iddo ddatgan fod y Meseia ar fin dod. Roedd yn paratoi'r ffordd ar gyfer un yr oedd yn dweud fyddai'n fwy pwerus nag ef; roedd Ioan Fedyddiwr yn bedyddio mewn dŵr, ond byddai'r Meseia yn bedyddio yn yr Ysbryd, â thân. ‘Ydych chi’n rhyfeddu ata i?’ bron y gallwch chi ei glywed yn dweud, ‘Arhoswch nes i chi gwrdd ag ef!’

Ac yna, un diwrnod, mae Iesu o Nasareth yn dod ymlaen. Cefnder Ioan yn gofyn am gael ei fedyddio. Allai Ioan ddim dychmygu’r fath beth – nid oedd yn deilwng! Ta beth, symbol gostyngedig, addfwyn, cyffredin iawn yw hwn; roedd y Meseia i fod i ddod â tân a phŵer.

Ni wyddai eto, ond roedd y tân yn dod, ond yn gyntaf, rhaid i Iesu fynd trwy’r dyfroedd wrth iddo gadarnhau’r arwydd hwn o’r cyfamod, y sacrament yma sy’n bwysig i Gristnogion trwy’r oesoedd.

Ysgrythur

Am y Cynllun hwn

Y Golomen

Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan gân o’r enw ‘The Dove’. Mae’n ystyried Ysgrythurau o bob rhan o’r Beibl, gan gyffwrdd ag Eden, Noa, Iesu a’r Pentecost. Wrth inni dreulio rhai dyddiau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, mae’r cynllun hwn yn rhoi rhywfaint o ddiwinyddiaeth o amgylch y Drindod, yn enwedig o ystyried gwaith Creadigol yr Ysbryd Glân, ac yn delio â themâu’r Farn, y Greadigaeth Newydd, pechod a gras. Os ydych chi'n barod am peth gig, dewch mynd amdani.

More

Hoffem ddiolch i Heulwen Davies Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.heulwendavies.co.uk