Y GolomenSampl

Yn y Dechreuad
Mae'r Beibl yn waith o gelf. Llyfrgell o chwech-deg-chwech o lyfrau sy'n ffurfio un naratif cydlynol, gyda dros bedwar-deg o awduron, wedi'i ysgrifennu ar draws y milenia: mae'n wyrthiol. Mae ei gynnwys, boed wedi’i ysgrifennu gan fugeiliaid neu frenhinoedd, meddygon neu feirdd, i gyd wedi’i hysbrydoli’n ddwyfol, wedi’i hanadlu gan Dduw (2 Timotheus 3:16-17) tra’n cofnodi gwaith Duw: gwaith yr Ysbryd Glân ydyw.
Credwn yn y Duw sy’n dri-yn-un, a cheir tystiolaeth o waith yr Ysbryd Glân trwy'r Ysgrythur.
Mae Genesis 1, ar y dechrau, yn tystio i’r drindod: ‘Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a'r ddaear. Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi'n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr.’ (Genesis 1:1-2, BNET)
Ar doriad gwawr y greadigaeth, dros anhrefn y dyfroedd a dros dywyllwch y dŵr, hofranodd yr Ysbryd. Gallech chi ei gyfieithu yn y Saesneg fel ‘fluttered’ gan fod gwraidd y gair yn golygu ‘flutter’. Yn bellach, y gair am ‘Ysbryd Duw’ yw ‘ruach’; y gellid cyfieithu hwn fel gwynt. Ar y cychwyn cyntaf, felly, ceir chwythu tebyg i wynt a mudiant tebyg i symudiad aderyn. Dros ddyfnder y dyfroedd, hofranodd yr ysbryd fel aderyn yn creu creadigaeth da.
Ar ôl cyhoeddi fod y greadigaeth a grëwyd yn dda, mae Duw yn gorchymyn Adda ac Efa: byddwch ffrwythlon a rheolwch – stiwardiaiwch – y greadigaeth. Crëwyd y ddynoliaeth mewn cariad a rhoddwyd cenhadaeth iddynt i fod yn ffrwythlon.
Ond rydyn ni'n gwybod sut mae'r stori'n mynd yn ei blaen – mae pethau'n mynd o chwith. Rili o chwith. Oherwydd mae’r gelyn gyda chynllun, mae pechod yn dod i mewn i'r byd. Er holl ddaioni creadigaeth y Creawdwr, mae Adda ac Efa yn dewis anufudd-dod. Ond, er fod pob hawl gan Dduw i roi i fyny a dechrau eto, yn ei gariad, roedd ganddo gynllun yn barod: bydd disgynydd iddyn nhw yn mathru pen y neidr, hyd yn oed wrth iddi hi frathu ei sawdl. Byddai Duw yn gwneud pob peth yn iawn eto, yn dad-wneud y tristwch a’r pechod, ac yn gwneud ‘popeth yn newydd’ (Datguddiad 21:5, BNET). Fe fydd ail-greadigaeth, a’r drwg yn troi i dda.
Am y Cynllun hwn

Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan gân o’r enw ‘The Dove’. Mae’n ystyried Ysgrythurau o bob rhan o’r Beibl, gan gyffwrdd ag Eden, Noa, Iesu a’r Pentecost. Wrth inni dreulio rhai dyddiau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, mae’r cynllun hwn yn rhoi rhywfaint o ddiwinyddiaeth o amgylch y Drindod, yn enwedig o ystyried gwaith Creadigol yr Ysbryd Glân, ac yn delio â themâu’r Farn, y Greadigaeth Newydd, pechod a gras. Os ydych chi'n barod am peth gig, dewch mynd amdani.
More
Hoffem ddiolch i Heulwen Davies Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.heulwendavies.co.uk









