Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y GolomenSampl

Y Golomen

DYDD 7 O 9

Y Bwa

Mae'r straeon hyn, y cylchoedd o bechod a gras, mewn cymaint o ffyrdd yn adlewyrchu ein bywydau ni. Efallai y gallwn gyfaddef, rydym wedi cydio yn yr afal yna fwy o weithiau nag y gallwn ei gyfri, rydym wedi plannu'r winllan drosiadol honno lai na pum munud ar ôl i ni bendyrfynnu y byddwn yn gwneud yn well. Rydyn ni wedi ei siomi dro ar ôl tro. Rydyn ni'n bechaduriaid sydd angen achubiaeth.

Ni pharhaodd Eden, ac nid oedd y llifogydd yn ateb parhaol. Felly beth yw’r ateb? Wel, mae angen Genesis 9 arnom os ydym am lawn werthfawrogi Mathew 4 a dioddefaint Iesu.

Cofiwch arwyddion y cyfamod: anifeiliaid a aberthwyd (Genesis 15) a’r dynion a enwaedwyd (Genesis 17:1-14) – mae’r enfys yn ymddangos yn llawer llai gwaedlyd, ond rydyn ni’n colli rhywbeth sydd, pan mae wedi’i ddangos i ni, mor amlwg. Yn etymolegol, mae yna yn y gair Saesneg: ‘rainbow’. Beth yw'r enfys? Bwa. Fel bwa a saeth. Yn Hebraeg, mae’n gliriach: mae Duw yn gosod ‘bwa’, קֶ֫שֶׁת (qe.shet), yn yr awyr; term saethyddiaeth ydyw. Naratif y dilyw yw’r stori lle aeth Duw i ryfel yn erbyn drygioni’r ddynoliaeth: taniodd ei fwa dwyfol mewn eiliad gyfyngedig mewn hanes i ddod â chyfiawnder a barn yn erbyn pechod.

Felly pan mae Duw yn gosod ei fwa yn yr awyr fel symbol o’r cyfamod, mae’n dweud yn y bôn, ‘Rwy’n hongian fy mwa, fy arf, i fyny. Ni af i ryfel yn eich erbyn eto.’

Ond ewch â'r ddelwedd hon gam ymhellach: pa ffordd mae’r bwa’n pwyntio?

Mae rhagweliad hwn, a oedd yn hollol annealladwy i Noa, Moses ac addolwyr eraill trwy gydol hanes, yn llawer clirach i ni fel Cristnogion y Cyfamod Newydd.

Ni fyddai Duw yn rhyfela yn erbyn y ddynoliaeth oherwydd bod y saeth bellach yn pwyntio tuag at y nef, lle byddai mab y Nefoedd ei hun yn cael ei drywanu. Byddai'n rhyfela drosom ni, nid yn ein herbyn, ac roedd hynny'n golygu y byddai ef yn cymryd yr ergyd, byddai ef yn gael ei daro i lawr, byddai ef yn marw. Am ein pechodau ni, byddai ef yn cael ei anafu.

I ail-wneud y greadigaeth, byddai'r Creawdwr ei hun yn gael ei ddad-wneud. Byddai’n suddo i farwolaeth cyn codi yn ôl yn fyw.

Pan ddisgynnodd Iesu i ddyfroedd y bedydd, a’r arwydd o’r Ysbryd Glân yn glanio arno fel colomen, gwelwn ddarlun o ail-greu. Doedd hyn ond yn bosib oherwydd ar Galfaria, byddai yna weithred o ddad-greu.

Mae addewid y cyfamod yn cael ei chynnal gan Dduw drosom ni: cymerodd ef ei hun y gosb, a cawsom ni brofi gras di-ildio nad oeddem yn ei haeddu.

Dyma ryfeddod yr efengyl a daioni dwfn a dirgel ein Duw.

Os ydych chi wedi’ch impio i'r winwydden, yn Gristion heddiw, rydych chi'n fyw go iawn oherwydd i Iesu ddewis marwolaeth. Rydych chi'n greadigaeth newydd oherwydd dewisodd ef gael ei ddad-greu. Cafodd Iesu ei alltudio o bresenoldeb y Tad fel yn Eden, er mwyn i ni gael dod yn agos; boddwyd ef gan lifogydd marwolaeth fel y gallem ni gysgodi yn arch achubiaeth; anafodd bwa Duw ei fab ei hun, ac yn awr gelwir ni, a oedd yn elynion, yn ffrindiau i Dduw.

Cymerwch amser i ystyried sut rydych chi wedi profi ffyddlondeb cyfamodol Duw yn eich bywyd. Yn y micro a'r macro, mae Duw mor ffyddlon. Gallwn anghofio yn gyflym, ond pan ddechreuwn gyfrif y ffyrdd yr ydym wedi dod ar draws ei garedigrwydd, mae'n anodd stopio.

Am y Cynllun hwn

Y Golomen

Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan gân o’r enw ‘The Dove’. Mae’n ystyried Ysgrythurau o bob rhan o’r Beibl, gan gyffwrdd ag Eden, Noa, Iesu a’r Pentecost. Wrth inni dreulio rhai dyddiau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, mae’r cynllun hwn yn rhoi rhywfaint o ddiwinyddiaeth o amgylch y Drindod, yn enwedig o ystyried gwaith Creadigol yr Ysbryd Glân, ac yn delio â themâu’r Farn, y Greadigaeth Newydd, pechod a gras. Os ydych chi'n barod am peth gig, dewch mynd amdani.

More

Hoffem ddiolch i Heulwen Davies Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.heulwendavies.co.uk