Y GolomenSampl

Creadigaeth yn yr Iorddonen
Yn y dyfroedd hanesyddol, arwyddocaol hyn, bedyddiodd Ioan Iesu mewn ffordd oedd yn rhagweld ei farwolaeth: aeth Iesu i lawr i'r dyfnder, ac yna fe gododd eto. Wrth iddo godi Iesu, digwyddodd rhywbeth gwyrthiol: agorodd y nefoedd o'u blaenau. Mae diwinyddion yn ei ddisgrifio fel dadorchuddiad rhwng y Nefoedd a’r Ddaear. Am eiliad fer, codwyd y gorchudd rhwng dwy realiti a oedd yn gorgyffwrdd: torrodd rhywbeth o'r nefoedd i mewn i'r ddaear.
O’r dadorchuddiad hwn y daeth llais, yn cadarnhau Iesu’n glywadwy: ‘Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr' (Mathew 3:17, BNET). Am ryfeddod! A doedd y llais ddim ar ei ben ei hun.
Yn weladwy, o flaen eu llygaid roedd – aros amdani – ie, colomen.
Mae colomen yn hedfan allan o'r agoriad nefol ac yn disgyn ar Iesu. Nid yw Duw yn gwneud camgymeriadau, a doedd presenoldeb yr aderyn hwn ddim yn siawns.
Dychmygwch y torfeydd, yn fud, ar goll mewn syndod a rhyfeddod, oherwydd dyma gynulleidfa Iddewig, cenhedlaeth sy’n gyfarwydd a hiraethu, ac wedi hen arfer gobeithio - ac fe ddeallon nhw beth oedd yn digwydd o’u blaenau. Yr hyn a bu'n rhaid i ni wneud ychydig o waith cefndirol i’w ddeall, maen nhw’n ei ddeall ar unwaith. Gwelsant golomen dros y dyfroedd, a chofio am Genesis a hanes y Creu; gwelsant golomen a chofio am Noa a'r gwaith o ddad-greu drwy’r dyfroedd dan yr arch; gwelsant golomen yn glanio ar Iesu a gwelsant symbol o fywyd newydd. Roedden nhw’n deall fod goblygiadau pan oedd yn hofran dros y dyfroedd. Yma o'u blaenau roedd symbol clir o’r ail-greu.
Dyma beth roedden nhw i gyd wedi bod yn aros amdano. O'r diwedd, roedd Duw yn gweithredu.
O’r fan hon, mae Iesu’n cychwyn ar ei genhadaeth: mae’n mynd i mewn i’r anialwch ac yna’n dod allan i’w weinidogaeth, yn galw’r disgyblion, yn pregethu ac yn iacháu, ac yn troi ei wyneb, yn y pen draw, tuag at Galfaria.
Dywed Iesu wrthym, ‘Fi ydy'r winwydden; chi ydy'r canghennau. Os gwnewch chi aros ynof fi, a minnau ynoch chi, bydd digonedd o ffrwyth yn eich bywydau' (Ioan 15:5, BNET).
Ynddo ef, ac ef yn unig, cawn fywyd allan o anhrefn pechod, ac, fel y daeth y golomen o hyd i glwyd gyda Noa, yn tystio i'r ail-greu, felly hefyd gwnaeth clwydo ar Iesu, y winwydden wir, y Creawdwr a fyddai'n dod â bywyd newydd i’w creadigaeth. Ynddo ef, ac ef yn unig, y gallwn byw go iawn; ynddo ef, ac ef yn unig, gallwn dwyn llawer ffrwyth.
Allwch chi gofio'r diwrnod y rhoddoch chi eich ffydd yn Iesu? Pryd wnaethoch chi gydnabod mai ef oedd eich gobaith: y ffordd, y gwirionedd a'r bywyd? Allwch chi weld sut mae eich bywyd wedi dwyn ffrwyth ers hynny?
Ond efallai y byddai’r darllenydd gofalus wedi sylwi, os yw hon yn weithred o ail-greu (a pha mor groesawgar a hyfryd yw hi), ble mae’r darn di-greu? Ble mae’s farn, yr ymdriniaeth â phechod a drygioni fel y gwelsom yn nyddiau Noa? Roedd Duw yn cyrraedd hynny.
Efallai mai dyma beth roedden nhw i gyd wedi bod yn disgwyl amdano. O'r diwedd, roedd Duw ar waith. Ond doedd dim syniad ganddynt yn gwmws faint.
Am y Cynllun hwn

Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan gân o’r enw ‘The Dove’. Mae’n ystyried Ysgrythurau o bob rhan o’r Beibl, gan gyffwrdd ag Eden, Noa, Iesu a’r Pentecost. Wrth inni dreulio rhai dyddiau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, mae’r cynllun hwn yn rhoi rhywfaint o ddiwinyddiaeth o amgylch y Drindod, yn enwedig o ystyried gwaith Creadigol yr Ysbryd Glân, ac yn delio â themâu’r Farn, y Greadigaeth Newydd, pechod a gras. Os ydych chi'n barod am peth gig, dewch mynd amdani.
More
Hoffem ddiolch i Heulwen Davies Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.heulwendavies.co.uk









