Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y GolomenSampl

Y Golomen

DYDD 1 O 9

Y Golomen

Gwelais meme a wnaeth i mi chwerthin yn ddiweddar: ‘As you age, it's ridiculous how fast bird-watching creeps up on you. You spend your whole life being 100% indifferent to birds, and then one day you're like, ‘Wow, is that a low-rumped warbler?’ Dydw i ddim hyd yn oed yn gwybod beth yw'r aderyn hwnnw, ond fi’n rhyw faint yn chwilfrydig nawr. Yn gyffredinol, nid wyf yn hoff iawn o adar, ond p'un a ydych chi'n hoffi adar ai peidio, mae gan y golomen enw da. Dyma'r aderyn a ryddheir mewn priodasau, sy'n symbol byd-eang o heddwch a gobaith ac yn arwyddlun o Ysbryd dwyfol Duw. Efallai ei fod ond yn pijin mwy hardd i rai, ond i Gristnogion, mae iddo arwyddocâd symbolaidd pwysig.

Ysbrydolwyd yr astudiaeth hon gan gân o’r enw ‘The Dove’, a ysgrifennwyd gan Kari Jobe a The Belonging Co. Mae’n farddonol ac yn hyfryd, ac wrth i’r gân dynnu cysylltiadau o bob rhan o’r ysgrythurau, o Genesis i Iesu a’r Pentecost, tynnodd fy sylw at y symbol hwn yr oeddwn wedi’i anwybyddu i raddau helaeth. Ond pan gymerais i’r amser i astudio a myfyrio, fe wnes i ddarganfod prydferthwch. Mae’r astudiaeth yma wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o'r Ysbryd Glân wrth i mi weld cysylltiadau rhyfeddol a bwriadol a oedd wedi'u plethu trwy’r Beibl gan ddwylo dwyfol.

Wrth i ni dreulio rhai diwrnodau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, rwy’n gweddïo y byddwn ni’n gorffen gyda dealltwriaeth ddyfnach, teimlad o ryfeddod, a dyhead i weld yr Ysbryd Glân fwy ar waith yn ein bywydau.

Dechreuwch drwy wrando ar y gân ‘The Dove’, neu efallai gwrando ar y bregeth bregethais ar y thema (yn yr Saesneg), ac ymgyfarwyddo â’r ysgythurau craidd i ni’n mynd i dreulio amser yn eu hystyried, o hanes y Creu yn Genesis, i Noa a’i Arch, bedydd Iesu a’r oruwch-ystafell ar y Pentecost.

https://youtu.be/kFFj1TGt-RA?si=5N3zC-4bEjf-iLZ3

Am y Cynllun hwn

Y Golomen

Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan gân o’r enw ‘The Dove’. Mae’n ystyried Ysgrythurau o bob rhan o’r Beibl, gan gyffwrdd ag Eden, Noa, Iesu a’r Pentecost. Wrth inni dreulio rhai dyddiau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, mae’r cynllun hwn yn rhoi rhywfaint o ddiwinyddiaeth o amgylch y Drindod, yn enwedig o ystyried gwaith Creadigol yr Ysbryd Glân, ac yn delio â themâu’r Farn, y Greadigaeth Newydd, pechod a gras. Os ydych chi'n barod am peth gig, dewch mynd amdani.

More

Hoffem ddiolch i Heulwen Davies Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.heulwendavies.co.uk