Y GolomenSampl

Ail-Greu
Gwyddom yr hanes: yng nghanol cenhedlaeth ddi-ffydd, lygredig, arhosodd un dyn ffyddlon ac yn gyfiawn. Mae Noa a'i deulu a'r anifeiliaid, ddaeth ato bob yn ddau, yn cael eu harbed.
Rhoddodd Duw y gorchymyn i'r dŵr o dan yr awyr eto gael ei gasglu i un lle, i’r dir sych ymddangos unwaith eto. Gwahanwyd tir ac awyr, adferwyd llystyfiant; roedd hi bron yn amser i'r anifeiliaid a'r bobl ddod allan o’r arch.
Taflwch eich meddwl yn ôl at yr hen stori, ar ôl y cyfnod clo, pan ddaw'n amser i weld os oedd anhrefn y dyfroedd wedi cilio, beth mae Noa yn ei wneud? Mae’n anfon colomen allan.
Allwch chi ddechrau gweld y patrwm? Mae yna weithred o ddad-greu, ac rydym yn ôl at Genesis 1: mae’r dŵr unwaith eto heb ei gyfyngu. Yna mae gweithred o ail-greu, ac mae colomen yn hofran dros y dyfroedd.
Gyda deilen olewydd yn ei phig, gwelwn dystiolaeth o lystyfiant, a’r dyfroedd yn gostwng yn ôl i’w lle eto. Gall y ddynoliaeth fynd yn ôl i'r ddaear, ac mae’n edrych yn addawol eto. Ail-greu ydyw, ail Genesis.
Ac ar ôl y greadigaeth ailadroddir y genhadaeth unwaith eto: byddwch ffrwythlon; llywodraethwch a theyrnaswch.
A’r tro hwn, mae Duw yn gwneud cyfamod: rhoddaf enfys yn yr awyr yn arwydd tragwyddol, ni chaiff bywyd ei ddinistrio gan lifogydd fel yma byth eto.
Mae symbolau cyfamod yn fwy gwaedlyd fel arfer, gan eu bod yn darlunio cost y cyfamod (anifeiliaid wedi’u torri yn eu hanner ac enwaediad pob dyn yn y Cyfamodau Abrahamaidd; aberthu anifeiliaid yn unol a’r Gyfraith yn y Cyfamod gyda Moses), ond mae’r Cyfamod gyda Noa yn ymddangos yn symbol mwy heddychlon. Neu ydy e? Daliwch afael yn y cwestiwn hwnnw.
Dyma lle rydyn ni'n gorffen y stori yn yr Ysgol Sul. Ond rydyn ni oedolion angen cario ymlaen i ddeall y stori gyfan. Y peth cyntaf y mae Noa yn ei wneud yw plannu gwinllan ac yna meddwi. Wedyn mae rhywbeth ffiaidd yn digwydd yn y babell. Mae hen idiom yn cael ei ddefnyddio yma, ac mae ein dealltwiriaeth ychydig yn ansicr o’i ystyr, ond mae diwinyddion yn meddwl fod yma awgrym o rywbeth llawer mwy trist a brawychus yn digwydd: gweithred o gam-drin rhywiol yn erbyn Noa efallai.
Allwch chi weld patrwm Eden yn cael ei hailadrodd?
O anhrefn y dyfroedd, mae Duw yn creu. Yn dilyn ei greadigaeth mae yna genhadaeth: bydd ffrwythlon, amlha. Ond mae’r hyn sy’n dda yn fuan yn troi’n ddrwg. Fel yn Eden, mae gobaith yn cael ei chwalu'n gyflym wrth i bechod eto ddod i mewn i'r byd. Mae'r cylch wedi dechrau eto.
Mae’n codi’r cwestiwn, sut ar y ddaear all Duw wneud pethau’n iawn mewn ffordd a fydd yn aros?
Ydych chi'n gwybod am y teimlad, lle rydych chi mewn lle da a phopeth yn iawn, ond yn rhy fuan o lawer, mae pechod yn dod i mewn i'r sefyllfa? Ble rydyn ni'n methu, yn cael ein dal ym methiant pobl eraill, ac yn profi pigiad pechod?
Beth am ddweud sori wrth Dduw heddiw am eich rhan mewn unrhyw bechod, bwriadol neu beidio, ac atgyweirio’r berthynas honno? Beth am ddiolch i Dduw – y Duw wnaeth ddim rhoi’r gorau iddi yn Eden na gyda Noa, ac nad yw wedi rhoi’r gorau gyda chi chwaith.
Am y Cynllun hwn

Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan gân o’r enw ‘The Dove’. Mae’n ystyried Ysgrythurau o bob rhan o’r Beibl, gan gyffwrdd ag Eden, Noa, Iesu a’r Pentecost. Wrth inni dreulio rhai dyddiau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, mae’r cynllun hwn yn rhoi rhywfaint o ddiwinyddiaeth o amgylch y Drindod, yn enwedig o ystyried gwaith Creadigol yr Ysbryd Glân, ac yn delio â themâu’r Farn, y Greadigaeth Newydd, pechod a gras. Os ydych chi'n barod am peth gig, dewch mynd amdani.
More
Hoffem ddiolch i Heulwen Davies Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.heulwendavies.co.uk









