Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y GolomenSampl

Y Golomen

DYDD 8 O 9

Rydyn ni'n gorffen yr astudiaeth hon yn Actau 4. Nid oes colomen yma, ond mae'r tân yr oedd Ioan Fedyddiwr yn gobeithio amdano.

Mae'n rhaid fod Ioan, oedd wedi cael ei ddyrchafu i ogoniant erbyn hyn, yn gwenu o ganol y cwmwl tystion y diwrnod hwnnw, oherwydd dyma'r hyn yr oedd wedi bod yn ei bregethu: y deuai'r Meseia â nerth ac â thân.

Dychmygwch y disgyblion ar y diwrnod hwnnw. Roedd pawb wedi ymgynnull yn Jerwsalem oherwydd ei bod yn Ŵyl yr Wythnosau. Roedd Iddewon yn pererindota o bob cyfeiriad i ddathlu’r Ŵyl hon i ddiolch am ffrwyth cyntaf y cynhaeaf.

Ond am y grŵp hwn a oedd wedi bod gyda Iesu, ac a oedd yn siŵr mai ef oedd y Meseia, roeddent eisiau ymuno yn yr Ŵyl yr oeddent wedi'i dathlu erioed, ond nid oeddent bellach yr un peth. Iddewon oedden nhw o hyd, yn addoli'r un Arglwydd, ond roedden nhw nawr hefyd yn perthyn i’r Cyfamod Newydd – yn Gristnogion. Pegs sgwâr mewn twll crwn. Sut roedden nhw'n ffitio nawr?

Roedd Iesu wedi esgyn yn ôl i’r nefoedd, wedi ei greithio am byth ag olion eu rhyddid – a’n rhyddid ninnau – a chawsont hwy eu gadael ar ôl. Roedd Iesu wedi addo cynorthwyydd, ond hyd yma, roedden nhw wedi bod yn teimlo'n ofnus, yn ansicr ac yn unig. Ac felly maent yn ymgynull mewn goruwchystafell.

Ond yn sydyn, ‘Ac yn sydyn dyma nhw'n clywed sŵn o'r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle roedden nhw'n cyfarfod’ (Actau 2:2, BNET): nid hofran tyner colomen oedd hwn, ond gwynt nerthol, ynghyd â thafodau tân yn dod ar bob un ohonynt. Fel yr un a chwythodd y dyfroedd ar gyfer Noa, neu'r Môr Coch i Moses, fel y gwelsant yn Sinai, neu welodd Elias yn yr ogof, yr oedd presenoldeb Duw yn amlwg mewn grym. Dyma sêl o'r gwaith o ail-greu y cyfeiriwyd ato at ar lan yr Iorddonen.

Roedd yr Iddewon wedi casglu i ddathlu ffrwyth cyntaf y cynhaeaf, ond yma yn yr oruwchystafell, gwelwn ffrwyth cyntaf yr eglwys. Mewn tân ac mewn grym, ganwyd eglwys Iesu Grist.

Roedd yn weithred o greadigaeth.

Ac rydych chi'n gwybod beth sy'n dod nesaf: cenhadaeth.

Maent yn mynd oddi yma, wedi eu llenwi â nerth yr Ysbryd a’u hysbrydoli gan ei bresenoldeb tanllyd; pobl sydd wedi’i himpio i’r winwydden, yn barod i fynd allan a dwyn ffrwyth. Y diwrnod hwnnw, ychwanegwyd 3,000 at y deyrnas

Ac yn awr, ein tro ni yw hi.

Am y Cynllun hwn

Y Golomen

Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan gân o’r enw ‘The Dove’. Mae’n ystyried Ysgrythurau o bob rhan o’r Beibl, gan gyffwrdd ag Eden, Noa, Iesu a’r Pentecost. Wrth inni dreulio rhai dyddiau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, mae’r cynllun hwn yn rhoi rhywfaint o ddiwinyddiaeth o amgylch y Drindod, yn enwedig o ystyried gwaith Creadigol yr Ysbryd Glân, ac yn delio â themâu’r Farn, y Greadigaeth Newydd, pechod a gras. Os ydych chi'n barod am peth gig, dewch mynd amdani.

More

Hoffem ddiolch i Heulwen Davies Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.heulwendavies.co.uk