Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adroddwyr StraeonSampl

Storytellers

DYDD 12 O 15

AWGRYMIADAU AR GYFER RHANNU DY FFYDD

Roedd Philip yn arweinydd, yn athro ac yn efengylwr yn yr eglwys gynnar. Yn Actau pennod 8, darllenwn am dyrfa enfawr o bobl yn dod i ffydd. Nid y tyrfaoedd enfawr a'r iachâd yw'r cyfarfyddiad sy'n sefyll allan yn stori Philip, ond yn hytrach yr eiliad y gwnaeth Philip ymateb i wthiad yr Ysbryd Glân a mynd am dro i lawr ffordd hir, anialwch. Yno wnaeth e gyfarfod ag Ethiopiad dylanwadol yn darllen llyfr Eseia. Cyn bo hir, roedd Philip yn ei fedyddio mewn ffydd, ar hyd ochr y ffordd.

Mae'n stori anhygoel o gydnabod a thrystio yn yr Ysbryd Glân, hyd yn oed pan nad yw'n gwneud synnwyr. Ac i ddilynwyr Iesu, mae yna ychydig o bethau y gallwn eu dysgu gan Philip yn y ffordd dŷn ni’ rhannu ein ffydd ag eraill.

  1. Cerdda gyda Duw a byddi’n cael dy arwain gan yr Ysbryd. Roedd Philip wedi ildio’n llwyr i Dduw. Roedd yn cerdded ac yn byw yng nghanol ewyllys Duw.
  2. Bydd yn sensitif i symudiadau Duw. Paid gadael i brysurdeb achosi i ti golli cyfleoedd i siarad ym mywyd rhywun arall. Tala sylw. Bydd yn sensitif. Gofynna i'r Ysbryd Glân dy helpu i adnabod pryd mae Duw yn symud.
  3. Po fwyaf o ysgrythur rwyt yn ei wybod, y gorau y byddi di wedi'th baratoi. Roedd Philip yn adnabod yr ysgrythur roedd y dyn wnaeth e gyfarfod ag ef yn ei darllen (Eseia 53) ac roedd yn gallu egluro'r ystyr. Po fwyaf y byddwn ni'n astudio'r ysgrythur, y gorau y bydd yr Ysbryd Glân yn ein defnyddio ni i ateb cwestiynau.
  4. Gofynna a yw rhywun eisiau credu. Os mai’r ateb yw 'ydw,' arwain nhw mewn gweddi gan gyffesu eu pechodau i Dduw a datgan eu bod yn trystio Crist, a'u ffydd ynddo. Os yw eu hateb yn 'ddim eto, cynnigsa i weddïo gyda nhw a chyfarfod gyda'ch gilydd i astudio ac ateb eu cwestiynau trwy Air Duw a'th taith ffydd dy hun.
  5. Mae’r Efengyl i bawb. Mae gennym ni i gyd glwyfau ac ansicrwydd a all ein hatal rhag trystio yng Nghrist, ond mae’r Efengyl i bawb: Iddew, cenhedloedd eraill, Mwslim, anffyddiwr, pawb o bob cyfandir.
  6. Mae bedydd yn tystio i'n ffydd. Mae'r Beibl yn dysgu bod Bedydd yn dilyn penderfyniad ffydd.

Pan fydd Duw yn dy alw i symud, i weithredu, neu i rannu – wyt ti am wneud? Gwnaeth Philip a newidiwyd bywyd dyn am byth.

Ysgrythur

Am y Cynllun hwn

Storytellers

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!

More

Hoffem ddiolch i Right From the Heart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.rightfromtheheart.org