Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adroddwyr StraeonSampl

Storytellers

DYDD 11 O 15

FFYDD FEL PHILIP

Ychydig flynyddoedd yn ôl, ro’n i ar fy ffordd i ymweld â chwpl newydd a oedd wedi ymweld â'n heglwys. Nos Lun oedd hi, ac ar ôl pregethu dair gwaith y diwrnod cynt, ro’n i wedi blino a dechreuais gwyno wrth Dduw. “Mae hyn yn rhy bell i yrru - pam dw i'n gwastraffu fy amser? Dydy'r bobl hyn ddim am ddod yr holl ffordd yma i'n heglwys.” Yn y diwedd cyrhaeddais a chyn gynted ag y gwnwes i eistedd i lawr gofynnodd y gŵr sut y gallai ddod yn Gristion. Wedi fy syfrdanu, wnes i ofyn yn dawel i Dduw faddau fy agwedd a'm helpu i beidio â cholli'r cyfle hwn! Er gwaethaf fy agwedd druenus cyn yr ymweliad, daeth y dyn yn Gristion y noson honno. Weithiau mae Duw yn gofyn i ni drystio ynddo hyd yn oed pan fyddwn ni wedi blino neu pan nad yw'n gwneud synnwyr. Y cwestiwn yw: A fyddwn ni'n gwrando?

Roedd Philip yn athro ac yn efengylwr dawnus iawn yn nyddiau cynnar yr eglwys. Wrth iddo deithio a rhannu stori Iesu Grist, roedd pobl yn ymsteb iddo. Yn sydyn, yng nghanol tyrfaoedd mawr oedd yn dod at Grist, gofynnodd Duw i Philip adael, gan fynd ar daith ar hyd ffordd anialwch 60 milltir rhwng Jerwsalem a Gaza. Pe bawn i'n Philip, byddai wedi bod yn hawdd cwestiynu Duw. Sut allai adael NAWR gyda chymaint yn digwydd? Does neb yn byw yn yr anialwch. Ond wnaeth Philip drystio yn Nuw a mynd.

Yn wir, daeth ar draws dyn dylanwadol iawn o Ethiopia yn darllen o lyfr Eseia. Nid yn unig hynny, ond roedd y dyn hwn yn darllen proffwydoliaeth marwolaeth Iesu ar y groes a ysgrifennwyd dros 700 mlynedd cyn Crist (Eseia 53). Heb os, Duw drefnodd y cyfarofd yma! Gan deimlo'r ysgogi gan yr Ysbryd Glân, cerddodd Philip at y dyn a dechrau sgwrs a fyddai'n ei arwain at Grist. Y dyn hwnnw'r oedd y crediniwr Africanaidd cyntaf. Sôn am arwyddocaol; daeth hyd yn oed y cyntaf i fynd â'r Efengyl i gyfandir cyfan. Waw!

Mae'n brin baglu i sefyllfa pan fydd rhywun mor barod i dderbyn yr Efengyl, ond y cwestiwn y mae'n rhaid i ni ei ofyn i ni'n hunain yw: Ydyn ni'n talu sylw? A fyddwn ni’n cydnabod ysgogiad yr Ysbryd Glân i symud, i weithredu, ac i rannu? Neu a ydym ni wedio ffocysu gormod ar ein bywydau unigol, ein hamserlen, a’n cysuron ein hunain? Dilyna esiampl Philip o ffydd feiddgar ac ufudd-dod, waeth ble mae’r Ysbryd Glân yn dy arwain

Am y Cynllun hwn

Storytellers

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!

More

Hoffem ddiolch i Right From the Heart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.rightfromtheheart.org