Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adroddwyr StraeonSampl

Storytellers

DYDD 13 O 15

DOD O HYD I DIR CYFFREDIN

Daeth yr Apostol Paul o gefndir Iddewig traddodiadol go iawn. Felly roedd cysylltu â'i gyd-Iddewon yn diriogaeth gyfarwydd. Wedi'r cyfan, roedd yr Hen Destament yn dir cyffredin. Fodd bynnag, roedd Paul hefyd yn llwyddiannus wrth rannu a chysylltu â'r Cenhedloedd, y cymunedau nad ydynt yn Iddewon. Cymera olwg ar ei daith i Wlad Groeg.

Yn Athen, pencadlys diwylliant Groeg, daeth Paul wyneb yn wyneb â system gredoau gynhwysol - eilunod a duwiau ym mhobman. Ar un o'r allorau, sylwodd Paul arysgrif, "I’r Duw Anhysbys." Efallai y byddai'n ymddangos yn lle rhyfedd i ddechrau sgwrs ffydd, ond dyma oedd ei fan cychwyn i rannu'r Efengyl. Yn hytrach na chondemnio eu credoau ar unwaith, defnyddiodd Paul yr allor benodol hon i ddweud wrthyn nhw am yr un gwir Dduw. Yn sydyn, cafodd Paul eu sylw.

Nid yw mwyafrif yr Americanwyr heddiw wedi tyfu i fyny mewn cartref Cristnogol. Mae mwyafrif diwylliant heddiw yn adnabod dim ar y Beibl. Doedd Gwlad Groeg hynafol ddim gwahanol. Doedden nhw ddim yn adnabod dim ar y Beibl na'r hyn y mae'n ei ddatgelu am Iesu. Felly, wnaeth Paul gyfarfod â nhw lle'r oedden nhw; dechreuodd ar dir cyffredin.

Er na ddyfynnodd Paul adnod o'r Beibl erioed, daeth popeth a ddwedodd o Air Duw. Darllena ei sgwrs lawn yn Actau 17:16-34. Sylwa fel wnaeth Paul ddangos sut y gallwn ni rannu stori Duw i ddiwylliant sy’n adnabod dim ar y Beibl, sy'n berthnasol heddiw. Ac mae'n dechrau trwy ddod o hyd i dir cyffredin.

Os wyt ti'n Gristion fel Paul, pa dir cyffredin ellio di ddod o hyd iddo gyda'th gydweithwyr yn y gwaith, dy ffrindiau, neu dy gymdogion, i rannu newyddion da Iesu?

Am y Cynllun hwn

Storytellers

Mae'r Beibl yn llawn straeon ac adroddwyr straeon. Mae'r gyfres hon yn sôn am rai ohonyn nhw, gan gynnwys yr adroddwr straeon gorau, Iesu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg gwych ar sut i ddod yn adroddwr straeon yn dy fywyd dy hun! Iesu!

More

Hoffem ddiolch i Right From the Heart am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.rightfromtheheart.org