Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gorffwys i'r Enaid: 7 Diwrnod i AdnewydduSampl

Soul Rest: 7 Days To Renewal

DYDD 7 O 7

SABOTH

Mae ceisio bod yn hael tuag at eraill yn anhysbys yn datgelu i ni wir gymhellion ein calonnau o amgylch ein hawydd i roi. Cofiwn fod Duw wedi rhoi yn drugarog i ni mewn cymaint o ffyrdd nad ydym yn eu haeddu, ac mae'n llenwi ein calonnau â diolchgarwch amdano. Mae rhoi hefyd yn ein helpu i gofio mai Duw, a Duw yn unig, sy'n cyflenwi'r rhai sydd mewn angen i fod yn gynaliadwy. Nid ein gwaith ni sy'n cynhyrchu cyfiawnder. Mae Duw wedi gorchymyn y byddem ni'n stopio ac yn gorffwys i ystyried ei gariad, ei ras, a'i ddarpariaeth. Tra dŷn ni'n gorffwys, mae Duw yn dal i weithio.

Heddiw, ar ein diwrnod olaf, byddwn yn cymryd rhan mewn diwrnod o Saboth. Gall hwn fod yn rhythm newydd, felly efallai na fydd yn teimlo'n naturiol i ymwneud yn llawn â'r diwrnod. Gall edrych fel mynd â’r teulu am heic a thrafod mawredd creadigaeth Duw. Efallai mai darllen yr Ysgrythurau a mynychu cyfarfod addoli i gydnabod ei ogoniant yw hyn. Mae ymarfer y Saboth yn ein helpu i nodi sut dŷn ni wedi trio yn ein nerth ein hunain i gyflawni neu gwblhau’r hyn dŷn ni'n meddwl sy'n dod â gorffwys a boddhad i ni. Mae'r Saboth hefyd yn ein helpu i atal eilun cynhyrchiant. Pan fyddwn yn rhoi'r gorau i'n llafurio ac yn cofio'r Saboth, dŷn ni'n cofio'r gwaith arwyddocaol a ddigwyddodd ar y groes. Pan fyddwn yn cofio beth dŷn ni wedi cael ein hachub ohono, byddwn ni'n dathlu'r achubwr.

Rhybudd: Oherwydd bod hwn yn arfer newydd, efallai y byddi di'n teimlo nad wyt ti'n gwybod sut i ym Saarfer y Saboth yn iawn ac, felly, byddai'n well gen ti beidio â rhoi cynnig arni o gwbl. Cofia nad y gwir fwriad yw i ni blesio Duw trwy ymarfer y Saboth ond i gael gorffwys o ganlyniad i'w rodd o'r Saboth i ni.

Un o fanteision cadw’r Saboth yw ein bod ni’n dysgu gadael i Dduw ofalu amdanon ni - nid trwy fod yn oddefol a diog, ond yn y rhyddid o roi’r gorau i’n hymdrechion gwan i fod yn Dduw yn ein bywydau ein hunain.

MARVA DAWN

Does dim byd hunanol am y Saboth, gorffwys a hunanofal. Allwn ni ddim rhoi'r hyn nad oes gynnomn ni.

EUGENE CHO

Y Saboth yw safiad Duw yn erbyn y gormes o orfod dweud ie bob amser. Rhodd Duw o na i ni yw’r Saboth yn ein patrymau byw obsesiynol, cymhellol.

A.J. SWOBODA

Y Saboth yw arwyddbost Duw, yn cyfeirio nid yn unig at ei ddaioni tuag at bob dyn fel eu Creawdwr, ond hefyd at ei drugaredd tuag at ei bobl etholedig fel eu Gwaredwr.

ENCYCLOPEDIA BAKER Y BEIBL

Os wyt ti wedi mwynhau'r cynllun hwn ac yn awyddus i barhau â'r sgwrs, cymer olwg ar fy llyfr Soul Rest: Reclaim Your Life. Return to Sabbath. Neu, cysylltwch yn soulrestbook.com.

Ysgrythur

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Soul Rest: 7 Days To Renewal

Gyda chymaint o gyfrifoldebau a llu o bethau’n cystadlu i dynnu ein sylw, mae gormod ohonon ni wedi magu arferion drwg o orffwys. O ganlyniad, dŷn ni'n llosgi ein hunain allan, gan stryffaglu a thynnu yn erbyn bwriad Duw ar gyfer ein bywydau. Yn y cynllun hwn, cawn ni ein galw i’r gwaith bwriadol o archwilio ein hunain, gan ein helpu i symud tuag at fywyd pwrpasol a chynaliadwy gyda Iesu.

More

Hoffem ddiolch i Curtis Zackery am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://soulrestbook.com