Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gorffwys i'r Enaid: 7 Diwrnod i AdnewydduSampl

Soul Rest: 7 Days To Renewal

DYDD 1 O 7

p>BYDD LONYDD

Yn ein diwylliant cyflym, dŷn ni’n symud yn ddiddiwedd. P'un a yw'n galendr llawn dop, meddwl sy'n rasio bob amser, neu wedi ein cysylltu i dechnoleg drwy’r adeg, dŷn ni ddim yn dda iawn am orffwys. Yn y bôn, mae llawer ohonon ni yn cael ein llyncu gan weithio, perfformio, a hiraethu i ennill parch, safle, awdurdod, gwerth, a chariad. P'un ai os ydyn ni’n ceisio derbyn y pethau hyn gan bobl neu Dduw, mae'r ymdrech hon yn achosi inni flino. Mae’r enaid wedi blino. Yr unig ffordd y gallwn ni ddechrau taith tuag at orffwys yw trwy roi caniatâd i ni ein hunain stopio.

Heddiw, cymera beth amser i ddod o hyd i ychydig eiliadau tawel o unigedd. Yn ddelfrydol, byddai e’n amser y byddet ti'n ei neilltuo'n fwriadol i'r pwrpas o fod yn llonydd. Byddai’n fuddiol pe gallet ti fynd i leoliad yr wyt ti’n ei ystyried yn naturiol dawel, a threulio tua 10 munud ar dy ben dy hun. Dw i'n meddwl bod 10 munud yn amser rhesymol i obeithio amdano. Gwna hyn heb gymorth technoleg neu adnoddau sydd â'r potensial i dynnu dy sylw.

Os nad yw neilltuo amser yn dy diwrnod yn bosibl, tyrd o hyd i ffordd o greu llonyddwch yng nghanol dy lif arferol. Gyrra yn dawel i'r gwaith, neu gartref. Eistedda ar dy ben dy hun heb fod dy ffôn i law yn ystod amser cinio. Yr allwedd yn hyn i gyd yw peidio caniatáu i unrhyw beth lenwi'r amser yr wyt ti wedi'i neilltuo i fod yn dawel ac yn llonydd.

Gofal: Bydd yna demtasiwn i leihau pwysigrwydd bod yn llonydd, ond dw i am dy annog di i fod yn wyliadwrus. Sylwa ar yr hyn sy'n digwydd yn dy feddwl a dy galon wrth i ti ymgysylltu â'r amser hwn o lonyddwch.

Bydd lonydd a gad iddo fe wneud rhywfaint o waith.

THOMAS MERTON

Mae prysurdeb yn salwch ysbryd.

EUGENE PETERSON

Mae rhaid i ti fod yn ddidrugaredd wrth ddileu prysurdeb o dy fywyd.

DALLAS WILLARD

...mae angen digon o dawelwch ac unigedd ym mywydau bob dyn i alluogi llais mewnol dwfn eu gwir hunan i gael ei glywed o leiaf yn achlysurol.

THOMAS MERTON

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Soul Rest: 7 Days To Renewal

Gyda chymaint o gyfrifoldebau a llu o bethau’n cystadlu i dynnu ein sylw, mae gormod ohonon ni wedi magu arferion drwg o orffwys. O ganlyniad, dŷn ni'n llosgi ein hunain allan, gan stryffaglu a thynnu yn erbyn bwriad Duw ar gyfer ein bywydau. Yn y cynllun hwn, cawn ni ein galw i’r gwaith bwriadol o archwilio ein hunain, gan ein helpu i symud tuag at fywyd pwrpasol a chynaliadwy gyda Iesu.

More

Hoffem ddiolch i Curtis Zackery am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://soulrestbook.com