Gorffwys i'r Enaid: 7 Diwrnod i AdnewydduSampl

BETH MAE DUW EI EISIAU AR EIN CYFER?
Rydym wedi sefydlu ein hangor yn y gwirionedd mai Duw yw ein gwir ffynhonnell gorffwys. Hyd yn oed wrth i ni wneud hyn, fodd bynnag, dŷn ni’n canfod ein hunain yn meddwl tybed sut mae hyn yn berthnasol i'n bywydau yma ar y ddaear. Gydag amserlenni cynyddol brysur, cyfrifoldebau teuluol, a rhwymedigaethau gwaith bob amser yn bresennol, dŷn ni am wybod sut mae hyn yn effeithio'n ymarferol ar ein bywydau bob dydd. Y rhan fwyaf o'r amser, dŷn ni'n byw o dan y rhagdybiaeth o'r hyn y mae Iesu'n ei ddisgwyl o'r ffordd dŷn ni'n byw ein bywydau ar y ddaear. Mae angen inni gymryd peth amser i edrych ar yr hyn y mae Iesu'n ei ddweud, mewn gwirionedd, am yr hyn mae’n ei ddymuno ar ein cyfer.
Heddiw, yn ystod dy amser tawel, canolbwyntia ar wirionedd yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am ddymuniad Duw am ddynolryw ar y ddaear. Yn hytrach na byw dan y dybiaeth o sut y mae’n rhaid i Dduw deimlo a meddwl am bethau sy’n digwydd yn ein bywydau ac o’u cwmpas, cymera beth amser i ddarllen yr Ysgrythur i weld geiriau Iesu, ac eraill, fel y maen hhw’n ymwneud â’r ffordd y dylem fyw. Gwna restr o’r mewnwelediadau y mae Duw yn eu darparu wrth iti ddarllen ei wirionedd.
Rhybudd: Efallai y byddwn yn meddwl bod hwn yn ddiwrnod y gallwn ei hepgor neu ei gymryd yn ysgafn oherwydd ein bod eisoes yn gwybod yr holl wybodaeth hyn. Pwysa i mewn ac yfa’n ddwfn o'r gwirionedd rwyt yn ei ddarllen. Paid â chymryd dim yn ganiataol. Gofynna i Dduw siarad o'r newydd â thi.
Dwyt ti ddim yn mynd at Dduw oherwydd ei fod yn ddefnyddiol, rwyt ti'n mynd oherwydd ei fod yn brydferth. Ac nid oes dim yn fwy defnyddiol na chanfod Duw yn hardd.
TIMOTHY KELLER
Am y Cynllun hwn

Gyda chymaint o gyfrifoldebau a llu o bethau’n cystadlu i dynnu ein sylw, mae gormod ohonon ni wedi magu arferion drwg o orffwys. O ganlyniad, dŷn ni'n llosgi ein hunain allan, gan stryffaglu a thynnu yn erbyn bwriad Duw ar gyfer ein bywydau. Yn y cynllun hwn, cawn ni ein galw i’r gwaith bwriadol o archwilio ein hunain, gan ein helpu i symud tuag at fywyd pwrpasol a chynaliadwy gyda Iesu.
More