Gorffwys i'r Enaid: 7 Diwrnod i AdnewydduSampl

ARFER YMPRYDIO NEU DDAL NÔL
Yr hyn dŷn ni wedi’i sylweddoli gyda’n gilydd yw bod Duw yn bwriadu i ddynolryw ddod o hyd i ryddid a ffyniant yn ein bywydau ar y ddaear. Mae llawer ohonom wedi credu’r celwydd sydd i’r gwrthwyneb o’r hyn mae Duw am inni ei geisio, ac, yn ei dro, mae wedi effeithio ar y ffordd yr ydym yn byw. Does dim gorffwys yn yr ymdrech i geisio ennill cariad a gras Duw yn ddiddiwedd, pan fydd y Beibl yn dweud wrthym nad oes unrhyw ffordd i wneud hynny. Ond dathlwn ei fod yn dweud yn Ioan 3 na wnaeth Duw anfon ei fab i gondemnio’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub. Felly, os yw Duw yn bwriadu inni “fyw’n llawn” ar y ddaear, mae angen inni ddirnad beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrthon ni am sut i wneud hynny.
Heddiw, dewisa ddal nôl neu ymprydio oddi wrth rywbeth rwyt ti’n gwybod y bydd hi’n anodd byw hebddo. I lawer ohonom, efallai ei fod yn ddiffodd ein ffonau symudol am gyfnod o amser. Gallai un arall fod yn ymprydio'n fwriadol o bryd o fwyd. Wrth wneud hyn, dŷn ni’n trio dwyn i’r amlwg ein dibyniaeth ar rai pethau, er mwyn amlygu ein hangen am Dduw, ble dylai ein dyhead pennaf fod. Dŷn ni hefyd eisiau gofyn i Dduw siarad â ni am y ffyrdd mae e’n ein harwain i fyw bywydau llewyrchus a ffyniannus. Gwna nodyn o’r mewnwelediadau y mae Duw yn eu darparu i ti wrth i ti ymgyfarwyddo â'r broses.
Rhybudd: Efallai mai’r demtasiwn yw dewis peidio â chynnwys rhywbeth nad yw mor bwysig, mewn ymdrech i leihau’r effaith ar dy ddiwrnod. Byddem n’n dy annog i drystio yn Nuw gyda rhywbeth a allai fod ychydig yn anoddach byw hebddo fel y gelli di brofi pwysau tensiwn yr arfer.
Rydym yn ymprydio oherwydd, fel y rhai sydd eisoes yn rhan o brosiect teyrnas Iesu, ym myd newydd Duw, mae angen inni fod yn sicr ein bod yn ffarwelio â phopeth ynom sy'n dal i lynu wrth yr hen.
N. T. WRIGHT
Rydym yn ymprydio oherwydd mae'n helpu i roi cydbwysedd mewn bywyd i ni. Mae'n ein gwneud yn fwy sensitif i fywyd cyfan fel nad ydym llawn obsesiwn â'n meddylfryd fel defnyddiwr.
RICHARD J. FOSTER
Mae ymprydio o unrhyw faeth, gweithgaredd, ymrwymiad neu ymchwilio - yn gosod y llwyfan i Dduw ymddangos.
DAN B. ALLENDER
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Gyda chymaint o gyfrifoldebau a llu o bethau’n cystadlu i dynnu ein sylw, mae gormod ohonon ni wedi magu arferion drwg o orffwys. O ganlyniad, dŷn ni'n llosgi ein hunain allan, gan stryffaglu a thynnu yn erbyn bwriad Duw ar gyfer ein bywydau. Yn y cynllun hwn, cawn ni ein galw i’r gwaith bwriadol o archwilio ein hunain, gan ein helpu i symud tuag at fywyd pwrpasol a chynaliadwy gyda Iesu.
More