Gorffwys i'r Enaid: 7 Diwrnod i AdnewydduSampl

RHO YN HAEL
Un o ddoniau mawr ymprydio, mewn unrhyw fodd, yw ei fod yn dangos i ni ein dibyniaeth ar bethau penodol a all ein rhwystro rhag cymundeb â Duw. Mae hefyd yn ein helpu i gael eglurder wrth glywed llais Duw, sy'n siarad. Pan dŷn ni ddim wedi ein clymu i bethau, mae'n gyfle i gael ystum tawel oherwydd dŷn ni ddim wedi ein llethu i’w cynnal a'u cadw. Mae ymprydio, o'i ymarfer yn rheolaidd, yn ein helpu i sylweddoli'r posibilrwydd y gallwn fyw gyda llai nag sydd gynnon ni.
Heddiw, dewch o hyd i ffordd i roi i rywun arall yn ddienw. Grym yr arfer hwn yw gosod safon a'r eglurder a ddaw yn ei sgil. Mae'n helpu i roi yn gyntaf, nid yr hyn dŷn ni’n dyheu amdano, ond pwy ydyn ni mewn gwirionedd. Dyna bŵer y testun yn Mathew 6 pan mae’n sôn am beidio â gadael i’ch “llaw dde wybod beth mae llaw chwith yn ei wneud” wrth roi. Pan fyddi di'n rhoi, tra'n chwilio am ddim byd yn ôl, rwyt ti'n gallu estyn gras i eraill mewn ffordd sy'n adnewyddu dy ymwybyddiaeth o ras Duw tuag atom ni, sy'n cynhyrchu gorffwys. Gwna nodyn o’r hyn rwyt ti’n ei deimlo ac yn ei brofi o ganlyniad i'r ymarfer hwn.
Rhybudd: Y demtasiwn posibl yma yw dweud y gallai fod yn rhy anodd i ni ddod o hyd i gyfle i wneud yr arfer hwn. Neu, wrth roi, efallai y byddwn am ei wneud mewn ffordd y cawn ein cydnabod amdano. Hyd yn oed os yw mor fach â thalu am goffi rhywun y tu ôl i ti yn y ciw, tyrd o hyd i ffordd i wneud iddo ddigwydd.
Yr weithred mwyaf allwn ei wneud yw rhoi ein hunain i eraill.
HENRI NOUWEN
Am y Cynllun hwn

Gyda chymaint o gyfrifoldebau a llu o bethau’n cystadlu i dynnu ein sylw, mae gormod ohonon ni wedi magu arferion drwg o orffwys. O ganlyniad, dŷn ni'n llosgi ein hunain allan, gan stryffaglu a thynnu yn erbyn bwriad Duw ar gyfer ein bywydau. Yn y cynllun hwn, cawn ni ein galw i’r gwaith bwriadol o archwilio ein hunain, gan ein helpu i symud tuag at fywyd pwrpasol a chynaliadwy gyda Iesu.
More