Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gorffwys i'r Enaid: 7 Diwrnod i AdnewydduSampl

Soul Rest: 7 Days To Renewal

DYDD 3 O 7

FFOCYSU AR Y FFYNHONNELL

Pan fyddwn ni’n cymryd yr amser i edrych i mewn arnon ni’n hunain i ddeall cyflwr ein calonnau, weithiau gall yr hyn dŷn ni’n ddarganfod yno gynhyrchu teimladau o euogrwydd, cywilydd, a siom. Er bod hyn yn gwbl ddealladwy, nid hyn yw bwriad Duw ar gyfer dy fywyd. Efallai y byddwn ni’n hyd yn oed yn dechrau teimlo ychydig yn llethu oherwydd bod nifer y lleoedd dŷn ni wedi'u hadnabod fel rhai sydd angen gorffwys ac iachâd yn ymddangos yn anorchfygol. Y newyddion da hyfryd yw na ddaw gorffwys o’n gwaith ni ond o waith gorffenedig Duw. Dŷn ni’n gwybod na fydd gwyliau, cwsg nac ystumiau llonydd eraill yn ddigon i'n hadfer yn llawn. Pan fo aflonyddwch ar lefel yr enaid, does dim modd ei gyffwrdd trwy ddulliau arferol. Mae angen math “anarferol” o bŵer arnon ni i’w dawelu. Duw yw gwir ffynhonnell y gorffwys.

Heddiw, canolbwynta ar y gwirionedd mai Duw yw’r ffynhonnell gorau posib ar gyfer y gorffwys dŷn ni’n hiraethu amdano. Pryd oedd y tro diwethaf i ti ganiatáu i ti dy hun ymdoddi i mewn i’r realiti o pwy yw Duw mewn gwirionedd? Mae'r rhan fwyaf o'n bywydau yn cael eu byw yng ngoleuni realiti gwybod pwysigrwydd Duw ond heb gofio a chanolbwyntio ar ei stori. Yn dy amser tawel, myfyria ar Dduw fel ffynhonnell ein gorffwys. Darllena ychydig o'r Ysgrythur i gefnogi'r syniad hwn. Edrycha ar yr adnodau sy'n pwyntio at briodoleddau Duw. Sylwa ar y pethau sy'n dod i dy feddwl wrth i ti wneud hyn.

Rhybudd: Efallai y byddwn ni’n cael ein temtio i gredu bod sawl ffordd y gallwn ni gael gorffwys enaid. Er bod llawer o ffyrdd i ni gymryd osgo llonydd a phrofi gorffwys dros dro, oddi wrth Dduw yn unig y daw gwir ffynhonnell y gorffwys dŷn ni’n hiraethu amdano.

”Rwyt ti wedi ein llunio i ti dy hun ac mae ein calonnau yn aflonydd nes iddyn ni’n gael gorffwys ynot ti.”

AUGUSTINE


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Soul Rest: 7 Days To Renewal

Gyda chymaint o gyfrifoldebau a llu o bethau’n cystadlu i dynnu ein sylw, mae gormod ohonon ni wedi magu arferion drwg o orffwys. O ganlyniad, dŷn ni'n llosgi ein hunain allan, gan stryffaglu a thynnu yn erbyn bwriad Duw ar gyfer ein bywydau. Yn y cynllun hwn, cawn ni ein galw i’r gwaith bwriadol o archwilio ein hunain, gan ein helpu i symud tuag at fywyd pwrpasol a chynaliadwy gyda Iesu.

More

Hoffem ddiolch i Curtis Zackery am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://soulrestbook.com